Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fel y Gweinidog Addysg a Sgiliau, rwyf am weld cwricwlwm yn cael ei ddatblygu i Gymru, cwricwlwm a fydd yn creu cyfleoedd i’n plant a’n pobl ifanc ddysgu mewn modd sy'n meithrin eu gallu i feddwl, i weithredu, i ffynnu ac i addasu.

Yma yng Nghymru rydym eisoes wedi cyflwyno newidiadau pwysig drwy’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a’n profion. Gan adeiladu ar hyn, ymgynghorais yn ddiweddar ar gynigion i gryfhau ac ategu’r gwaith o addysgu a dysgu llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion. Amlinellais hefyd fy mwriad i gyflwyno fframwaith sgiliau ehangach a fydd yn gydnaws â Bagloriaeth newydd Cymru, gan arwain disgyblion ar y trywydd iawn tuag ati. Byddaf yn cyhoeddi fy ymateb i’r ymgynghoriad hwnnw’n fuan.

Heddiw, rwyf wrth fy modd yn cael cyhoeddi’r cam nesaf ar ein taith tuag at Gwricwlwm Cymru – penodi’r Athro Graham Donaldson i arwain adolygiad cynhwysfawr, annibynnol, manylach o’r Cwricwlwm Cenedlaethol a’r trefniadau asesu yng Nghymru. Wrth arwain yr adolygiad hwn, bydd yn llywio rhaglen waith sydd i weddnewid addysg yng Nghymru ac yn gam hanesyddol ymlaen yn ei hanes.

Rwyf wedi gofyn i’r Athro Donaldson amlinellu gweledigaeth glir, gydlynol ar gyfer addysg yng Nghymru, o’r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4, gan ei chysylltu’n uniongyrchol â’n system gymwysterau newydd. Bydd yr Athro Donaldson yn gweithio’n agos iawn gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid o bob rhan o Gymru a thu hwnt, a bydd hefyd yn ystyried argymhellion pwysig nifer o grwpiau gorchwyl a gorffen annibynnol, gan gynnwys:

  • Adroddiad y Grŵp Llywio TGCh i Lywodraeth Cymru
  • Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru: Adroddiad terfynol
  • Adolygiad o Gymraeg ail iaith yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4
  • Adolygiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ac Ysgolion a Gweithgarwch Corfforol
  • Adolygiad ar y Celfyddyddau mewn Addysg

Mae gan yr Athro Donaldson gyfoeth o brofiad, gwybodaeth a sgiliau, yn ogystal ag ymrwymiad personol i welliant parhaus ac i sicrhau y cyrhaeddir y safonau uchaf. Mae ganddo broffil rhyngwladol uchel, mae wedi darlithio’n helaeth, ac ymhlith ei rolau blaenorol mae cynnal adolygiadau o wledydd ar gyfer y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), arwain Cynhadledd Ryngwladol Sefydlog Arolygiaethau fel Llywydd, a helpu i ddatblygu rhaglen Llywodraeth yr Alban i ddiwygio’r cwricwlwm, Curriculum for Excellence. Cynhaliodd yr Athro Donaldson adolygiad cynhwysfawr o addysg athrawon yn yr Alban yn ddiweddar hefyd.

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael adroddiad ac argymhellion yr Athro Donaldson yn nes ymlaen eleni.