Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Ebrill 2011, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Gweithio i Wella  - y trefniadau newydd ar gyfer rheoli pryderon a chwynion yn y GIG. Y nod oedd ei gwneud yn haws i gleifion, perthnasau a gofalwyr godi pryderon; bod yn rhan o'r broses a chael cymorth yn hynny o beth; cael eu trin yn agored ac yn onest ac i sefydliadau ddysgu o bryderon.

Bron dair blynedd ar ôl cyflwyno Gweithio i Wella, ym mis Chwefror 2014, comisiynwyd adolygiad gennyf o'r ffordd y mae'r GIG yng Nghymru yn ymateb i bryderon a chwynion i ystyried pa mor effeithiol y mae'r trefniadau hyn yn gweithio.

Arweiniwyd yr adolygiad gan Keith Evans, cyn brif weithredwr a rheolwr gyfarwyddwr Panasonic y DU ac Iwerddon.

Hoffwn ddiolch i Mr Evans am ei adroddiad cynhwysfawr ac am ymgysylltu'n helaeth â'r cyhoedd a rhanddeiliaid fel rhan o'r broses adolygu. Mae'n amlwg bod gan bobl farn gref am y pwnc hwn ac mae Mr Evans wedi adlewyrchu'r farn honno yn ei adroddiad.  

Dylid ei ganmol am ei brosesau ymgysylltu trylwyr ac am lwyddo i gyrraedd  nifer mor eang ac amrywiol o bobl ac ymgysylltu â hwy mewn cyfnod mor fyr.  Mae'r Adroddiad yn rhoi ystyriaeth lawn i waith perthnasol arall yn y maes hwn, gan gynnwys yr adolygiad o system gwyno y GIG yn Lloegr a gynhaliwyd gan Ann Clwyd, AS, gan sicrhau bod y materion a godwyd gan gleifion o Gymru yn ei hadolygiad wedi cael sylw yn yr adolygiad hwn.  Mae hefyd yn ystyried canfyddiadau'r Adroddiad Ymddiried mewn Gofal a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac a amlygodd, yn annibynnol, bryderon am broses gwyno'r GIG.

Ymhlith y nifer o sylwadau personol a wna yn ei adroddiad, fe'm trawyd yn arbennig gan sylwadau Mr Evans ynghylch pa mor anodd y gall y sefyllfa fod i staff sy'n gweithio yn y GIG pan fyddant yn teimlo eu bod dan "warchae" yn gyson. Dengys yr adroddiad yr effaith a gaiff hyn arnynt ac ar eu gallu i wneud y gwaith sydd mor bwysig i bob un ohonom.  

Gwyddom fod y rhan fwyaf o gleifion yn fodlon ar y gofal cyffredinol a gânt ond pan fydd pethau'n mynd o chwith mae'n rhaid i'r mecanweithiau cywir fod ar waith i ymdrin ag unrhyw bryderon. Fel y noda Mr Evans, o gofio'r nifer sylweddol iawn o gleifion y mae'r GIG yn eu trin bob dydd, hyd yn oed os oes gan gyfran fach iawn ohonynt bryderon am eu gofal, gall hyn fod yn gyfystyr â miloedd o bobl.

Fel rhan o'i adolygiad, gofynnais i Mr Evans awgrymu gwelliannau i Gweithio i Wella. Mae wedi gwneud nifer fawr o argymhellion allweddol.

Fodd bynnag, ei neges gyffredinol yw mai Gweithio i Wella yw'r dull cywir ar gyfer rheoli cwynion a phryderon, ond mae amrywiadau yn y ffordd y caiff ei roi ar waith ledled Cymru. Mae angen mynd i'r afael â hyn. Awgryma ei adolygiad fod Gweithio i Wella wedi bod yn llwyddiannus o ran cynhyrchu cwynion ond nad oedd seilwaith i gyd-fynd â hyn. Ceir awgrymiadau hefyd ynghylch sut y dylai'r broses gael ei symleiddio er mwyn ei chadw'n syml, yn safonol, yn gryno ac yn gyflym ac, yn anad dim, yn hawdd i'r claf gael mynediad iddi a'i defnyddio.  

Mae angen i'r GIG fod yn agored ac yn onest a derbyn adborth gan gleifion a staff fel "rhodd" i’w chroesawu ac i weithredu arni. Noda'r adroddiad nad yw rhai sefydliadau yn agored bob tro - neu'n cael eu gweld fel eu bod yn agored - a gall hyn arwain at gwynion diangen ac ailadroddus. Mae angen i hyn newid. Rhaid i staff hefyd gael eu grymuso i ymdrin yn gyflym â phryderon yn eu tarddiad.  Mae'n ei gwneud yn glir bod angen i staff gael yr hyfforddiant a'r cymorth angenrheidiol i ymdrin â chwynion yn effeithiol.

Dywed Mr Evans mai'r allwedd i bawb, beth bynnag eu swydd, yw rhoi eu hunain yn esgidiau'r claf - i weld y profiad drwy eu llygaid nhw, ac ymateb yn unol â hynny.

Rhaid i'r GIG ystyried adolygiad ac argymhellion Mr Evans yn ofalus. Er bod rhai camau gweithredu y mae angen i fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau'r GIG a sefydliadau partner eu cymryd ar unwaith, rwyf am iddyn nhw a'r cyhoedd gael y cyfle i ystyried yr adolygiad a'i argymhellion a mynegi eu barn. 

Er enghraifft, awgryma Mr Evans y dylid ystyried dull mwy cenedlaethol o ymdrin â chwynion a phryderon er mwyn sicrhau mwy o gysondeb. Awgryma nifer o ffyrdd i symud hyn yn ei flaen. Rwy'n awyddus iawn i glywed barn am rai o'r argymhellion mwy pellgyrhaeddol hyn.

Ar ôl cyfnod o ymgysylltu ehangach dros yr haf, byddaf yn gwneud datganiad arall yn yr hydref.