Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Lansiwyd Cymru Iachach yn haf 2018 ynghyd â deugain o gamau gweithredu i ganolbwyntio gweithgarwch ar y trawsnewid sydd ei angen er mwyn cyflawni ein gweledigaeth o gael dull system gyfan integredig o ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol. 

Cyflwynwyd Papur Cabinet Cymru Iachach: Ddwy Flynedd yn Ddiweddarach ym mis Medi 2020 i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd a wnaed. Cytunodd y Cabinet ei bod yn bwysig cymryd yr amser i edrych ar Cymru Iachach a sicrhau ei fod yn berthnasol yn yr hinsawdd bresennol ac wrth i ni symud ymlaen gyda’r gwaith o sefydlogi ac adfer gwasanaethau. Cydnabuwyd bod sylfeini Cymru Iachach wedi cryfhau partneriaethau a chydweithio ar draws ffiniau sefydliadol a daearyddol, sy’n glod i ymrwymiad cyfunol ein gwasanaethau cyhoeddus i ymateb i anghenion y gymuned. 

Mae COVID-19 wedi cyflymu’r trawsnewidiad yn y ffordd y mae gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu, a thrwy’r ymateb i'r pandemig mae nifer o gynlluniau hirdymor wedi cael eu rhoi ar waith. Wrth i ni symud ymlaen, bydd Cymru Iachach yn parhau i fod yn fframwaith strategol inni ar gyfer datblygu a gweithredu ffyrdd newydd o weithio.    

Mae'r weledigaeth wreiddiol ar gyfer Cymru Iachach wedi'i dilysu ac mae'n parhau i fod yn berthnasol i Gymru heddiw. Mae gennym nawr y cyfle i ailddatgan blaenoriaethau Cymru Iachach, cadw’r cynnydd rydym wedi'i wneud a sicrhau ein bod yn dysgu o'r ymateb i’r pandemig gan gynnal yr arferion arloesol a'r ffyrdd newydd o weithio a ddangoswyd. 

Mae modelau gofal newydd a gefnogir drwy'r Gronfa Trawsnewid a'r Gronfa Gofal Integredig wedi bod yn bwysig i'r ymateb rhanbarthol i COVID-19, gan gynnwys rhyddhau cleifion yn gyflym o'r ysbyty i'r cartref a modelau osgoi derbyniadau i’r ysbyty. Mae buddsoddiad sylweddol a chyflymach mewn technoleg ddigidol wedi galluogi gwasanaethau i gael eu trawsnewid yn gyflym a pharhau â gwasanaethau hanfodol mewn amgylchedd diogel.

Yn dilyn cefnogaeth gan y Cabinet, rydym bellach wedi adolygu'n feirniadol y camau gweithredu a nodir yn Cymru Iachach. Rydym wedi dod â rhai camau gweithredu i ben ac wedi drafftio camau gweithredu newydd y mae eu hangen i gefnogi’r gwaith o sefydlogi ac adfer gwasanaethau yn dilyn COVID-19, ac i adlewyrchu blaenoriaethau sydd dod i’r amlwg yn sgil y pandemig.

Mae'r camau gweithredu newydd hyn yn ceisio adeiladu cymunedau gwydn yng Nghymru a chanolbwyntio ar anghydraddoldebau iechyd, atal, iechyd meddwl, plant a phobl ifanc a datgarboneiddio. Mae'r rhestr o gamau gweithredu newydd yn cynnwys 26 o gamau gweithredu; 19 o gamau gweithredu gwreiddiol Cymru Iachach a 7 o rai newydd, ac rydym wedi canolbwyntio ar y themâu allweddol canlynol:

  • Penderfynyddion Iechyd
  • Digidol a thechnoleg
  • Ymgysylltu
  • Gwerthuso
  • Cyllid
  • Cymell y System
  • Modelau Newydd
  • Cynllunio
  • Llywodraethu yn y System
  • Gweithlu

Dyma'r camau gweithredu:

Cam Gweithredu Diwygiedig

Thema

Datgarboneiddio - Annog a chefnogi sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i leihau'r defnydd o ynni ac allyriadau carbon er mwyn lliniaru ac addasu i effaith newid yn yr hinsawdd yn unol â'n hymrwymiad i fod yn Gymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Penderfynyddion Iechyd

Annhegwch - Ysgogi arfer da i leihau annhegwch iechyd a sicrhau canlyniadau sy’n canolbwyntio ar y rhai a ddaeth i'r amlwg yn sgil pandemig COVID-19.

Penderfynyddion Iechyd

Atal – Adeiladu ar yr ymddygiadau a'r cyfrifoldeb personol a ddangoswyd yn ystod pandemig COVID-19 i helpu pobl i gadw'n iach drwy ddull integredig o wella iechyd a lles y genedl. Gan ganolbwyntio ar adsefydlu, ailalluogi ac adfer, darparu cymorth gweithredol i gadw pobl yn iach, sicrhau'r adferiad mwyaf posibl a pharhau i fyw'n annibynnol.

Penderfynyddion Iechyd

Plant a Phobl Ifanc - Sicrhau bod ein trawsnewidiad i system o ddarpariaeth iechyd a gofal di-dor yn hyrwyddo mabwysiadu ymyriadau integredig ac effeithiol i blant ar lefel ehangach, gan arwain at fwy o ganlyniadau iechyd a lles cadarnhaol dros amser.

Penderfynyddion Iechyd

Iechyd Meddwl - Partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ymateb i effeithiau COVID-19 a sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael gafael ar gymorth iechyd meddwl priodol. 

Penderfynyddion Iechyd

Cadw’r arferion arloesol a’r ffyrdd newydd o weithio a gyflawnwyd yn ystod COVID-19 a sicrhau bod y manteision yn parhau yn y system Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Modelau Newydd

Gofal yn y gymuned - Datblygu llwybrau gofal system gyfan sy'n seiliedig ar werthoedd ar gyfer atal, canfod, trin a gofal parhaus mor agos i’r cartref â phosibl, a sicrhau bod mesurau perthnasol yn cael eu datblygu i gasglu'r canlyniadau sy'n bwysig i gleifion.

Modelau Newydd

Bydd yr adolygiad hwn yn sicrhau bod ein cynllun hirdymor ar gyfer system iechyd a gofal integredig yn parhau'n berthnasol wrth i ni ddelio â'r heriau sydd o'n blaenau.