Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol ag Adran 73 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru lunio cynllun sy'n nodi sut y maent yn bwriadu, wrth arfer eu swyddogaethau, cynnal a hyrwyddo llywodraeth leol yng Nghymru.  Mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar sut y mae'r cynigion a nodir yn y cynllun wedi'u rhoi ar waith, a gosod copi o'r adroddiad hwnnw gerbron y Senedd.

Gosodais yr adroddiad dan y teitl ‘Adolygiad o weithgareddau a chyflawniadau Cyngor Partneriaeth Cymru ar gyfer y cyfnod 3 blynedd o fis Ionawr 2019 i fis Mawrth 2022' yn y Senedd ddoe. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at weithgareddau a chyflawniadau allweddol Cyngor Partneriaeth Cymru yn ystod cyfnod eithriadol sydd wedi cynnwys ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd, a phandemig Covid-19.

Hoffwn ddiolch i holl aelodau ac arsylwyr Cyngor Partneriaeth Cymru am eu cyfraniad a'u gwaith tuag at y cyflawniadau a oruchwylir gan y Cyngor Partneriaeth. Mae eu hymrwymiad parhaus i weithio mewn partneriaeth i helpu i gyflawni yn unol â’r blaenoriaethau a rennir yn cael ei groesawu a'i werthfawrogi.