Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith
Mae hwn yn amser hollbwysig i’r sector treftadaeth yng Nghymru. Mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 wedi golygu bod Cymru ar y blaen i wledydd eraill Prydain o ran diogelu a rheoli ei hamgylchedd hanesyddol. Fodd bynnag, gyda’r galwadau niferus am adnoddau prin – a’r angen i hyrwyddo Cymru yn well nag erioed, mae’n hanfodol ein bod yn gwerthuso a yw nifer o’r strwythurau sy’n sail i’r sector yn addas at y pwrpas, ac a fyddem yn gallu cyflawni mwy pe byddem yn gweithio mewn partneriaeth wirioneddol er budd y sector cyfan.
Rwyf eisiau helpu i greu sector treftadaeth sy’n fyd-eang o ran ei uchelgais ac sydd ag enw da yn rhyngwladol. Er mwyn cyflawni hyn, rwyf am weld ein sefydliadau cyhoeddus cenedlaethol yn datblygu, yn dod yn fwy sefydlog yn ariannol ac yn gwneud mwy i helpu inni greu Cymru lewyrchus. Mae hyn yn hanfodol os yw’r sefydliadau hyn i barhau i weithredu fel gwarchodwyr effeithiol ein casgliadau hanesyddol a’n treftadaeth arbennig, gan gynnig profiad neilltuol i’r ymwelydd.
Yn gynharach eleni roeddwn yn falch o dderbyn adroddiad PwC Investing in the future to protect the past. Roedd yn rhoi amlinelliad o nifer o opsiynau gwahanol ar gyfer strwythurau newydd ac rwy’n falch o’i gyhoeddi yn llawn ar ein gwefan heddiw. Rwyf hefyd am nodi fy niolchiadau i’r Farwnes Randerson am ei swydd o ystyried yr adroddiad ar gyfer Gweinidogion Cymru, ac i’r sefydliadau hynny oedd yn rhan fawr o ddatblygu’r adroddiad.
Roedd yr adroddiad yn cadarnhau fy nisgwyliadau: er bod gan y sector nifer o gryfderau, mae nifer o gyfleoedd i ddatblygu ac ehangu. Yn y pen draw mae’r adroddiad yn gosod y cyd-destun ar gyfer newid. Newid sydd ei angen ar fyrder ac sy’n angenrheidiol os ydym i sicrhau bod gan ein sefydliadau cenedlaethol y dyfodol disglair a chynaliadwy yr ydym i gyd ei eisau ar eu cyfer.
Yn ein maniffesto gwnaethom ymrwymiad i greu Cymru Hanesyddol, a fyddai’n dod â nifer o swyddogaethau masnachol Cadw ac Amgueddfa Cymru — National Museum Wales ynghyd i helpu iddynt ddod o hyd i ffynonellau incwm newydd ar gyfer y dyfodol cynaliadwy hwnnw. Rwy’n sylweddoli bod hon yn fenter fawr ac yn un hynod gymhleth a heriol. Byddwn yn dysgu gwersi o’r newid tebyg sydd yn Lloegr a’r Alban ac yn defnyddio’r dystiolaeth honno i greu achos busnes ar gyfer newid sy’n briodol ac yn bwrpasol ar gyfer Cymru.
Rwyf am bwysleisio i’r aelodau, er fy mod yn credu bod angen newid, mae strwythur Cymru Hanesyddol yn rhywbeth yr wyf am ei greu drwy gydweithio â hwy. Mae’r adroddiad hwn yn ddechrau da, ond rwyf am drafod yr opsiynau hyn yn fanylach gyda sefydliadau a phartneriaid ledled Cymru er mwyn sicrhau y gallwn gytuno cymaint â phosib ar y camau ymlaen.
Rwyf wedi gofyn i Justin Albert, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol Cymru, i gadeirio cam nesaf y gwaith yn annibynnol, gan ddod â grŵp llywio at ei gilydd, fydd yn cynnwys ein sefydliadau cenedlaethol ochr yn ochr â chynrychiolaeth lawn ar lefel ucel o’r undebau llafur.
Bydd y grŵp llywio, o dan ei arweiniad, yn tynnu ar ganfyddiadau adroddiad PwC gan gytuno ar ba sefydliadau a swyddogaethau masnachol ddylid eu cynnwys yng ngwaith Cymru Hanesyddol. Byddant yn datblygu achos busnes ar gyfer newid ac yn darparu cynllun gweithredu ar gyfer Cymru Hanesyddol.
Rwyf wedi gofyn i’r grŵp adrodd yn ôl imi fis Ionawr 2017 ac rwy’n falch iawn o gyhoeddi eu telerau a’u hamodau llawn ar ein gwefan.
Byddaf yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r aelodau ar y datblygiadau wrth inni symud ymlaen.