Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd
Mae gan Lywodraeth Cymru rôl allweddol i’w chwarae o ran cynnig cymorth i fusnesau fferm a choedwigaeth yng Nghymru. Mae Cyswllt Ffermio’n cael ei gyllido drwy’r Cynllun Datblygu Gwledig a’i ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru. Ei nod yw helpu ffermwyr a choedwigwyr i redeg eu busnesau mewn ffordd fwy effeithlon er mwyn dod yn fwy cystadleuol a phroffidiol.
Mae’r rhaglen yn rhoi cymorth uniongyrchol i gyflawni nifer o gynlluniau, mentrau ac amcanion Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â datblygu’r economi wledig, rheoli tir mewn modd cynaliadwy, y newid yn yr hinsawdd, ac iechyd a lles anifeiliaid.
Bydd Llywodraeth Cymru yn caffael rhaglen newydd o drosglwyddo gwybodaeth a chefnogaeth arloesedd yn dechrau yn 2015. Rydym yn cyhoeddi Hysbysiad Dangosol Blaenorol (PIN) i rybuddio’r farchnnad o’r caffael sydd ar ddod.
Rwyf wedi comisiynu Gareth Williams, y cynghorydd annibynnol a oedd yn gyfrifol am adroddiad gwreiddiol Hwyluso’r Drefn, i gynnal adolygiad o Cyswllt Ffermio ac i ystyried sut y dylid mynd ati i drosglwyddo gwybodaeth, rhoi cyngor, ac annog arloesedd o dan Raglen Datblygu Gwledig 2014–2020.
Bydd Gareth Williams yn cyflwyno ei ganfyddiadau a’i argymhellion i mi erbyn diwedd mis Hydref 2014.