Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Ar 1 Awst 2013, cyflwynais wasanaeth bws gwennol newydd rhwng Canol Dinas Caerdydd a Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhedeg bob 20 munud drwy gydol y dydd.
Ar y pryd, dywedais y byddai'r gwasanaeth yn cael ei adolygu ar ôl iddo fod yn weithredol am rai misoedd er mwyn nodi unrhyw newidiadau angenrheidiol a ddaeth i'r amlwg. Penodais yr Athro Stuart Cole o Brifysgol De Cymru i ymgymryd â'r gwaith hwn.
Diben yr adolygiad oedd:
- Asesu effeithiolrwydd y gwasanaeth bws newydd wrth fodloni amcanion Llywodraeth Cymru am wasanaeth cyflym a chyson rhwng canol dinas Caerdydd a Maes Awyr Caerdydd;
- Nodi unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud i wella'i effeithiolrwydd - gallai hyn gynnwys ystyried pa mor aml y mae'n rhedeg, patrwm aros, trywydd, prisiau ac opsiynau'r tocynnau a marchnata'r gwasanaeth;
- Cynghori ynghylch sicrhau cynaliadwyedd gorau posibl y gwasanaeth yn y tymor hir.
Mae adroddiad yr Athro Cole bellach wedi dod i law. Mae'r adolygiad yn nodi bod yr amcanion ar gyfer gwasanaeth cyflym a chyson rhwng canol y ddinas a'r maes awyr wedi'u bodloni. Mae'r adroddiad hefyd yn cadarnhau bod y gwasanaeth wedi bod yn ddibynadwy ac yn brydlon, ac yn parhau i fod felly, a'i fod wedi sefydlu proffil uchel a hunaniaeth gref.
Mae'r Athro Cole wedi gwneud nifer o argymhellion tymor byr a thymor hir ynghylch ffyrdd o wella'r gwasanaeth. Rwyf nawr yn ystyried canfyddiadau'r adolygiad, ac fe fyddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i’r Aelodau yn y man.
Bydd copi o'r adroddiad terfynol ar gael ar y wefan.