Adolygiad o System Diogelu Iechyd Cymru – adroddiad terfynol
Mynnodd pandemig Covid-19 ymateb diogelu iechyd ar raddfa na welwyd ei thebyg o'r blaen. Addasodd y system diogelu iechyd yng Nghymru yn gyflym er mwyn ymateb. Mae'n hanfodol ein bod yn dysgu o'r ffordd roedd y system yn gweithredu cyn y pandemig, a'i hymateb yn ystod y pandemig, er mwyn gwneud y mwyaf o'n gallu i ymateb i fygythiadau presennol, bygythiadau sy'n dod i'r amlwg a bygythiadau yn y dyfodol.
Yn ystod Haf 2022 cytunais i gomisiynu adolygiad annibynnol o’r system diogelu iechyd yng Nghymru. Cynhaliwyd yr adolygiad gan David Heymann – sy’n Athro Epidemioleg Clefyd Heintus yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain ac yn Bennaeth ar y Ganolfan ar Ddiogelwch Iechyd Byd-eang yn Chatham House, Llundain. O 2012 i fis Mawrth 2017, Heymann oedd Cadeirydd Public Health England. Cafodd ei gefnogi gan Sara Hayes a oedd gynt yn Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.
Mae’r adolygiad bellach wedi dod i ben, a chyhoeddwyd yr adroddiad terfynol heddiw. Gwnaeth yr adolygwyr ganmol yr arloesedd a ddangoswyd yng Nghymru yn ystod y pandemig a’r ffordd y gwnaeth unigolion weithio gyda’i gilydd ar draws ffiniau sefydliadol i ymateb ar gyfer pobl Cymru. Mae eu hadroddiad yn cynnig argymhellion o ran sut gellid cryfhau system diogelwch iechyd Cymru ymhellach.
Mae’n bleser gen i groesawu’r adroddiad hwn a hoffwn ddiolch i David a Sara. Rwyf hefyd yn gwerthfawrogi’r unigolion a’r sefydliadau ar draws ein system diogelu iechyd y cyhoedd. Mae eu barn arbenigol a’u hymgysylltiad wedi cyfrannu at yr adolygiad hwn. Bydd yn hanfodol i ni yma yng Nghymru adeiladau ar y cydweithrediad hwn a manteisio i’r eithaf ar y momentwm rydym wedi’i greu o’n hymateb ar y cyd i’r pandemig, er mwyn cryfhau ein system diogelu iechyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Mae trafodaethau â phartneriaid eisoes wedi dechrau, ac mae cynllun gweithredu cychwynnol wedi’i ddatblygu er mwyn amlinellu sut bydd y system yn cydweithio i fynd i’r afael ag argymhellion yr adolygiad hwn. Caiff y gwaith gweithredu ei oruchwylio gan Grŵp Cynghori Diogelwch Iechyd a gadeirir gan y Prif Swyddog Meddygol.
Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am gynnydd y gwaith.