Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol adolygu’r cyfyngiadau coronafeirws bob tair wythnos. Roedd angen cynnal yr adolygiad diweddaraf erbyn 5 Awst.  

Yn gyffredinol, mae trosglwyddiad Covid-19 wedi gostwng ar draws Cymru yn ystod yr wythnos ddiwethaf ac mae’r ganran o bobl sy’n profi’n bositif wedi dechrau gostwng yn raddol. Mae’r dystiolaeth yn parhau i awgrymu bod y rhaglen frechu wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng achosion, y nifer sy’n gorfod mynd i’r ysbyty a marwolaethau. Mae’r pwysau ar y GIG wedi cynyddu’n raddol dros yr wythnosau diwethaf. Fodd bynnag, mae nifer y bobl sy’n cael eu derbyn yn ddyddiol i’r ysbyty ag achos tybiedig neu wedi’i gadarnhau o Covid-19 yn parhau’n agos at y lefelau isaf a welwyd ers dechrau’r pandemig.

Ar 16 Gorffennaf,  cyhoeddwyd y Cynllun Rheoli’r Coronafeirws diweddaraf , sy’n nodi sut y byddwn yn symud i lefel rhybudd sero. Fel y nodwyd yn yr adolygiad diwethaf o reoliadau’r coronafeirws, gallaf gadarnhau y bydd Cymru'n symud i rybudd lefel sero am 6am ar 7 Awst.

Ar lefel rhybudd sero, ni fydd unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ar nifer y bobl sy'n gallu cyfarfod, gan gynnwys mewn cartrefi preifat, mannau cyhoeddus nac mewn digwyddiadau. Bydd yr ychydig fusnesau sy'n weddill, yr oedd yn ofynnol iddynt gau, gan gynnwys clybiau nos, yn gallu agor.

Wrth gymryd camau rhesymol i leihau'r risg o'r coronafeirws, bydd gan bawb sy'n gyfrifol am safleoedd sy'n agored i'r cyhoedd neu weithleoedd fwy o hyblygrwydd i deilwra'r mesurau hynny yn unol â chanlyniadau eu hasesiad Covid-19 a'u hamgylchiadau penodol.

Bydd angen gwisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus dan do o hyd, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus, ond ni fyddant yn ofyniad cyfreithiol mewn lleoliadau lletygarwch lle y gweinir bwyd a diod. Byddwn yn parhau i annog pobl i'w gwisgo yn y lleoliadau hynny lle mae’n ymarferol gwneud hynny.

Byddwn hefyd yn gwneud rhai newidiadau eraill:

  • Mae canllawiau craidd newydd wedi'u llunio sy'n rhoi cyngor clir a chryno i fusnesau, sefydliadau, y rhai sy'n trefnu gweithgareddau a digwyddiadau, a'r cyhoedd.
  • Mae'r gofynion mewn canllawiau statudol sy’n nodi y dylai safleoedd penodol gasglu gwybodaeth gyswllt yn cael eu dileu. Bydd hyn yn dod yn un o’r nifer o fesurau rhesymol y dylai pob busnes eu hystyried.
  • Bydd y rheoliadau'n egluro nad oes gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth awyr agored, fel cychod.
  • Bydd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Rhif 5) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2020 yn cael eu hestyn hyd at ddydd Gwener 26 Tachwedd 2021.

Wrth symud i lefel rhybudd sero, bydd tair rheol bwysig yn parhau:

  • Rhaid i bawb hunanynysu am 10 diwrnod os oes ganddynt symptomau Covid-19 neu os ydynt wedi cael canlyniad prawf positif.
  • Rhaid i oedolion a phlant 12 oed a throsodd barhau i wisgo gorchudd wyneb yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus dan do yng Nghymru, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn siopau ac mewn lleoliadau gofal iechyd.
  • Rhaid i bawb sy'n gyfrifol am safleoedd sy'n agored i'r cyhoedd a gweithleoedd gynnal asesiad risg Covid-19 a chymryd camau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws.

Mae’r coronafeirws yma o hyd. Er ein bod yn gallu cymryd cam sylweddol tuag at symud oddi wrth gyfyngiadau cyfreithiol cymhleth, rhaid inni beidio â rhoi'r gorau i'r holl fesurau syml sydd wedi gwneud cymaint i'n cadw i gyd yn ddiogel.

Mae'r rhain yn cynnwys cael eich brechu'n llawn; cael prawf a hunanynysu os oes gennych symptomau Covid-19; cwrdd ag eraill yn yr awyr agored lle bynnag y bo modd a chadw ardaloedd dan do wedi'u hawyru'n dda; cadw eich pellter pan allwch; golchi eich dwylo yn rheolaidd; gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do a gweithio gartref pryd bynnag y bo hynny'n bosibl.

Mae cymryd cyfrifoldeb yn golygu y gallwn ailgydio yn y pethau rydym wedi'u colli fwyaf. Mae gan bob un ohonom ei reswm i ddiogelu Cymru.

Fel y nododd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn Datganiad Ysgrifenedig ar 29 Gorffennaf, bydd y rheoliadau hefyd yn cael eu newid ar 7 Awst, sy’n golygu na fydd gofyn i bobl sydd wedi’u brechu'n llawn (ar ôl i 14 diwrnod fynd heibio) hunanynysu os cânt eu nodi fel cysylltiad agos. Byddwn hefyd yn dileu'r gofyniad i bobl o dan 18 oed hunanynysu os cânt eu nodi fel cysylltiadau.

Er mwyn sicrhau nad yw pobl ar incwm is yn dioddef yn ariannol, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol mewn Datganiad Ysgrifenedig heddiw y bydd cynnig diogelu gwell ar gael i bobl y gofynnir iddynt hunanynysu ar 7 Awst neu wedi hynny. Bydd unrhyw ymgeisydd yn gymwys i gael taliad o £750, sy’n uwch na’r £500 blaenorol, dros y cyfnod hunanynysu o 10 diwrnod.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Pe bai aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.