Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygwyd y cyfyngiadau coronafeirws ddiwethaf ar 3 Mehefin pan symudodd Cymru i lefel rhybudd un a chafodd cyfyngiadau ar weithgareddau a digwyddiadau awyr agored eu llacio. Rydym wedi adolygu’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yr wythnos hon i asesu a allwn gwblhau'r broses o symud i lefel rhybudd un o fewn y cylch adolygu hwn. 

Yn anffodus, mae lledaeniad amrywiolyn Delta mewn cymunedau ledled Cymru – mae tystiolaeth o drosglwyddiad yr amrywiolyn hwn yn y gymuned – a’r cynnydd cyson yn nifer yr achosion o’r coronafeirws yn gyffredinol, yn golygu na fyddwn yn gwneud unrhyw newidiadau pellach i'r rheoliadau er mwyn diogelu'r rhyddid sydd gennym eisoes ac i sicrhau bod y cyhoedd yn cael eu hamddiffyn i'r eithaf drwy raglen frechu COVID. Bydd yr oedi hwn yn cwmpasu'r cylch adolygu nesaf – byddwn yn adolygu'r rheoliadau coronafeirws eto erbyn 15 Gorffennaf.

Mae'r gwaith modelu sydd wedi'i wneud yn awgrymu y gallai cyfnod o bedair wythnos o ddim newid yn y rheoliadau helpu i leihau nifer dyddiol uchaf y cleifion sy’n cael eu derbyn mewn ysbytai dyddiol, gan ei haneru o bosibl, a rhoi amser i fwy o bobl gael eu hail ddos o frechlyn.

Byddwn yn cyflymu’r broses o roi ail ddosau, gyda'r bwriad o ddefnyddio mwy na hanner miliwn o ddosau dros y mis nesaf, i helpu i atal ton newydd o salwch difrifol.

Er na fyddwn yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r rheolau, rydym yn gwneud rhai diwygiadau bach a thechnegol i'r rheoliadau coronafeirws i'w gwneud yn haws eu deall ac yn haws i fusnesau eu gweithredu.

Byddwn felly’n diwygio'r rheoliadau o ddydd Llun 21 Mehefin gan gyflwyno’r newidiadau canlynol:

•    Bydd nifer y bobl sy'n gallu mynychu derbyniad priodas neu bartneriaeth sifil neu de angladd a drefnir gan fusnes mewn safle a reoleiddir dan do, megis gwesty, yn seiliedig ar faint y lleoliad ac asesiad risg.

•    Bydd eithriad i’r cyfyngiadau ar ddigwyddiadau er mwyn egluro nad yw adloniant "llawr gwlad" bach, megis lleoliadau cerddoriaeth a chomedi, y gallai’r cyfyngiadau hynny fod yn berthnasol iddynt fel arall, yn cael ei atal ar lefel rhybudd dau ac is.

•    Bydd plant ysgol gynradd yn gallu aros dros nos mewn canolfan addysg awyr agored breswyl. Bydd canllawiau'n nodi y dylai grwpiau gael eu cyfyngu i grwpiau cyswllt ysgol neu swigod. Byddwn yn gweithio gyda'r sector i ystyried opsiynau ar gyfer yr haf.

•    Mae rheoliad 16 ar gymryd camau rhesymol yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r dystiolaeth ddiweddaraf ar hierarchaeth risg, gan gynnwys ymgorffori awyru fel mesur lliniaru pwysig ac egluro rheolau ynghylch cadw pellter o 2m ar gyfer grwpiau o chwech o bobl mewn safleoedd a reoleiddir neu yn yr awyr agored.

Bydd y rhaglen o ddigwyddiadau peilot ym maes y theatr, chwaraeon a sectorau eraill hefyd yn parhau drwy gydol mis Mehefin a mis Gorffennaf.

Bydd y canllawiau presennol ar ymyriadau anfferyllol ar gyfer ysgolion a lleoliadau yn aros yn ddigyfnewid tan ddiwedd y tymor hwn, gan gynnwys y canllawiau ar gyfer gorchuddion wyneb. Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid dros yr wythnosau nesaf i lunio ar y cyd fframwaith i gefnogi ysgolion i gynyddu a lleihau ymyriadau anfferyllol o fis Medi.

Rydym hefyd wedi cynnal adolygiad terfynol o Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021, sy'n cyfyngu ar droi allan, ac rydym wedi penderfynu y bydd y rhain yn parhau hyd nes y byddant yn dod i ben ar 30 Mehefin.

Mae rheoliadau a osodwyd ddoe yn golygu y bydd tenantiaid, tan 30 Medi, yn parhau i gael chwe mis o rybudd cyn y gall landlord wneud hawliad meddiant i'r llys. Rydym yn ystyried opsiynau pellach ar gyfer gallu cynnig rhagor o gymorth i denantiaid. Yn y cyfamser, byddem yn annog pob tenant sy'n wynebu anawsterau i dalu eu rhent i siarad â'u landlord neu asiant ac i gysylltu â Cyngor ar Bopeth Cymru neu Shelter Cymru am gymorth a chyngor pellach.

Mae'r twf yn nifer yr achosion o’r coronafeirws yng Nghymru bellach yn anochel, ond nid yw lefelau'r niwed sy'n gysylltiedig â hyn yn anochel. Rydym yn annog pawb i dderbyn eu gwahoddiad i'r brechlyn ac i gwblhau'r cwrs dau ddos llawn.