Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol adolygu’r cyfyngiadau coronafeirws bob tair wythnos. Roedd angen cynnal yr adolygiad diweddaraf erbyn 3 Mehefin.  

Mae nifer yr achosion wedi’u cadarnhau o COVID-19 yng Nghymru yn parhau i fod yn is na 10 achos fesul 100,000 o bobl, sef y gyfradd isaf yn y DU. Mae hyn yn adlewyrchiad o waith caled pobl ym mhob cwr o Gymru i ddiogelu eu hunain a’u teuluoedd.

Mae ein rhaglen frechu hefyd yn parhau i symud ymlaen yn rhagorol. Mae dros 85% o’r boblogaeth sy’n oedolion bellach wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn ac mae bron eu hanner wedi cwblhau’r cwrs o ddau ddos.

Fodd bynnag, mae ymddangosiad a lledaeniad yr amrywiolyn delta, sy’n trosglwyddo’n haws, mewn rhannau o’r DU – Gogledd-orllewin Lloegr yn benodol – yn achosi pryder. Mae ychydig llai na 100 o achosion yng Nghymru, gan gynnwys clwstwr yn sir Conwy, ond rydym yn disgwyl i’r niferoedd hyn gynyddu.

Mae lle gennym nawr i symud i Lefel Rhybudd 1 ond byddwn yn gwneud hynny fesul cam, gan ganolbwyntio ar ddigwyddiadau a gweithgareddau awyr agored i ddechrau. Bydd gweithredu fesul cam fel hyn yn rhoi amser i ni gael rhagor o ddata am effaith yr amrywiolyn hwn, ac i fwy o bobl gael eu brechu.

Bydd y newidiadau i’r rheoliadau coronafeirws o 7 Mehefin felly yn cynnwys y canlynol:

  • Gall hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, lletygarwch awyr agored a mannau cyhoeddus.
  • Gall cynulliadau a digwyddiadau mwy wedi’u trefnu, fel cyngherddau, gemau pêl-droed a gweithgareddau chwaraeon, fel grwpiau rhedeg wedi’u trefnu gael eu cynnal yn yr awyr agored, gyda hyd at 4,000 o bobl yn sefyll a 10,000 o bobl yn eistedd. Rhaid i holl drefnwyr digwyddiadau a gweithgareddau gynnal asesiad risg llawn a gosod mesurau i atal lledaeniad y coronafeirws, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol.
  • Gall hyd at dair aelwyd ffurfio aelwyd estynedig.
     

Byddwn yn ystyried newidiadau pellach i’r rheoliadau ar weithgareddau o dan do yn ddiweddarach yn y cylch tair wythnos, os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny. Byddant yn cynnwys:

  • Y rheol chwech o bobl ar gyfer cwrdd o dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau.
  • Cynyddu’r niferoedd a ganiateir mewn cynulliadau wedi’u trefnu o dan do ac ailgychwyn digwyddiadau o dan do.
  • Agor canolfannau sglefrio iâ.

Rydym wedi adolygu’r Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 ac wedi penderfynu y byddant yn parhau i fod yn eu lle am y tro hyd at 30 Mehefin fan bellaf. Rydym yn ystyried opsiynau pellach i gryfhau cymorth i denantiaid. Yn y cyfamser, hoffem annog pob tenant sy’n cael trafferth talu eu rhent i siarad â’i landlord a chysylltu â Cyngor ar Bopeth neu Shelter Cymru i gael rhagor o gymorth a chefnogaeth.