Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol cynnal adolygiad o’r cyfyngiadau coronafeirws bob tair wythnos. Roedd yr adolygiad diweddaraf i fod i gael ei gynnal heddiw.

Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn parhau i wella. Mae nifer yr achosion o’r coronafeirws yn ein cymunedau yn sefydlog ac mae pwysau ar y GIG yn parhau i leddfu.

Yr wythnos hon, yn gynharach na’r disgwyl, disgwylir cyrraedd yr ail garreg filltir yn strategaeth frechu Llywodraeth Cymru. Cyn bo hir byddwn wedi rhoi 1.5m dos cyntaf o’r brechlyn yma yng Nghymru. Mae nifer o fyrddau iechyd wedi brechu dros 50% o bobl 50 i 54 oed yn eu hardal, felly maent bellach wedi dechrau gwahodd y grŵp oedran 40 i 49.

Rwyf wedi egluro droeon mai ein prif flaenoriaeth yw galluogi plant a myfyrwyr i ddychwelyd i ddysgu wyneb yn wyneb.  Fel y nodais yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 12 Mawrth, bydd pob dysgwr yn dychwelyd i safle dysgu ar ôl gwyliau’r Pasg ar 12 Ebrill.

Rydym hefyd yn parhau i fod ar y trywydd iawn er mwyn i bob siop a gwasanaethau cyswllt agos ailagor ar 12 Ebrill.  Yn ogystal, bwriedir i’r cyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o Gymru o weddill y Deyrnas Unedig a’r Ardal Deithio Gyffredin gael eu codi.

Ar yr amod bod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau’n ffafriol, byddwn yn cyflwyno rheoliadau yr wythnos nesaf a fydd yn:

  • Caniatáu i’r holl fanwerthwyr nad ydynt yn hanfodol ailagor
  • Caniatáu i’r holl wasanaethau cyswllt agos ailddechrau, gan gynnwys gwasanaethau symudol
  • Dileu cyfyngiadau teithio o fewn y DU a’r Ardal Deithio Gyffredin
  • Cynnwys cyfyngiadau ar deithio rhyngwladol oni bai bod gan berson esgus rhesymol
  • Dileu’r cyfyngiadau ar ganfasio, yn amodol ar ganfaswyr yn gwneud hynny’n ddiogel
  • Caniatáu ar gyfer gweld lleoliadau priodas drwy apwyntiad yn y maes lletygarwch neu safleoedd eraill y mae’n ofynnol iddynt gau fel arall

Ni fydd angen diwygio rheoliadau er mwyn sicrhau’r camau llacio eraill y bwriedir iddynt ddigwydd ar 12 Ebrill:

  • Dychwelyd i addysgu wyneb yn wyneb ym mhob lleoliad, gan gynnwys ysgolion, AB, AU ac eraill
  • Gwersi gyrru i ailddechrau a rhai profion i ailgychwyn (y gweddill ar 22 Ebrill)

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn datblygu rhaglen o ddigwyddiadau peilot y gobeithiwn y byddant yn gallu cael eu cynnal ym mis Mai. Bydd y digwyddiadau peilot hyn ar gyfer rhwng 200 a 1,000 o bobl a byddant yn adeiladu ar y digwyddiadau prawf a gynhaliwyd fis Medi diwethaf. Byddant yn cynnwys digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon ledled Cymru, gan gynnwys digwyddiad stadiwm posibl. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r Cyngor Mwslimiaid i ystyried sut y gallai’r rhaglen beilot ymgorffori digwyddiadau i helpu pobl i ddathlu Eid ar ddiwedd Ramadan. Byddai pob digwyddiad yn amodol ar gael cytundeb yr Awdurdod Lleol ac o ran iechyd y cyhoedd.

Mae’r Cabinet wedi cytuno â’r ffordd o weithio ar gyfer y cylch adolygu nesaf o 22 Ebrill, ar yr amod bod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau’n ffafriol.  Mae hyn yn gyson â’r dull gofalus a graddol a nodir yn 'Cynllun Rheoli’r Coronafeirws: Lefelau Rhybudd Diwygiedig yng Nghymru@ (Mawrth 2021).

O ddydd Llun 26 Ebrill:

  • Bydd atyniadau awyr agored, gan gynnwys ffeiriau a pharciau thema, yn cael ailagor;
  • Gall lletygarwch awyr agored ailddechrau, gan gynnwys mewn caffis, tafarndai a bwytai. Bydd lletygarwch dan do yn parhau i fod ar gau ac eithrio ar gyfer tecawê.

O ddydd Llun 3 Mai:

  • Gellir cynnal gweithgareddau awyr agored sydd wedi’u trefnu i oedolion ar gyfer hyd at 30 o bobl unwaith eto;
  • Gall derbyniadau priodasau ddigwydd yn yr awyr agored, ond byddant hefyd wedi’u cyfyngu i 30 o bobl.

O ddydd Llun 10 Mai:

  • Gall campfeydd, cyfleusterau ffitrwydd, canolfannau hamdden a phyllau nofio ailagor. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant unigol neu un-i-un ond nid dosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp;
  • Bydd aelwyd estynedig yn cael ei hystyried (swigen unigryw sy’n caniatáu i ddwy aelwyd gwrdd a chael cyswllt dan do)

Bydd yr adolygiad nesaf ar ôl y newidiadau hynny’n digwydd ar 14 Mai. Mae’n llawer mwy ansicr beth allai’r sefyllfa fod bryd hynny. Gobeithiwn allu symud yn llawn i lefel rhybudd tri yn gynnar yn y cylch. Bydd hyn yn cynnwys gweithgareddau dan do wedi’u trefnu, gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff ac ailagor canolfannau cymunedol yn llawn.

Mae gan fusnesau sy’n gallu ailagor gyfrifoldeb cyfreithiol i gadw at y rheolau a sicrhau diogelwch eu gweithlu a’u cwsmeriaid. Mae gan Awdurdodau Lleol y pŵer i gau busnesau nad ydynt yn cadw at y rheolau. Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gefnogi defnyddio’r pwerau hynny, os yw’r rheolau’n cael eu torri.

Hoffwn atgoffa’r Aelodau unwaith eto nad yw’r coronafeirws wedi diflannu. Mae’r newidiadau hyn yn darparu amserlen glir a chyfrifol ar gyfer parhau i godi cyfyngiadau mewn ymateb i’r sefyllfa sy’n gwella gan sicrhau ein bod yn parhau i ddiogelu Cymru.