Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn darparu ar gyfer system o lefelau rhybudd yng Nghymru, fel y nodir yng Nghynllun Rheoli Coronafeirws diweddaraf Llywodraeth Cymru. Mae’r rheoliadau’n ei gwneud yn ofynnol inni adolygu'r cyfyngiadau bob tair wythnos. 

Cwblhawyd yr adolygiad diweddaraf ar 28 Ionawr a daeth i'r casgliad y dylai Cymru gyfan aros ar Lefel Rhybudd 4. Golyga hyn fod rhaid i bawb aros gartref a gweithio gartref lle bynnag y bo modd. Rhaid i bob lleoliad manwerthu nad yw'n hanfodol, pob lleoliad lletygarwch, safleoedd trwyddedig a chyfleusterau hamdden aros ar gau.

Mae achosion coronafeirws yn gostwng ym mhob rhan o Gymru ond maen nhw'n parhau i fod yn rhy uchel i ystyried llacio'r cyfyngiadau. Mae nifer y bobl sy'n profi'n bositif yn uchel ac mae'r pwysau dwys ar ein GIG yn parhau. Gallwn i gyd fod yn falch o gynnydd rhagorol y rhaglen frechu yng Nghymru, ond mae cryn dipyn o waith i'w wneud eto. Rhaid inni beidio â gadael i'r feirws ailsefydlu ei hun drwy symud i lefel rhybudd is yn rhy fuan. 

Yn yr adolygiad diwethaf o'r cyfyngiadau, dywedais oni bai bod gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion o goronafeirws cyn yr adolygiad heddiw, y byddai ysgolion a cholegau yn parhau i ddysgu o bell tan hanner tymor mis Chwefror. Oherwydd bod pobl Cymru wedi cadw at y cyfyngiadau presennol, mae arwyddion cadarnhaol ein bod, gyda'n gilydd, yn helpu i leihau trosglwyddiad yn ein cymunedau. Fodd bynnag, yng ngoleuni dangosyddion ehangach y GIG megis defnydd gwelyau unedau gofal dwys, mae angen dull gofalus o hyd ac felly ni fydd lleoliadau addysg yn agor cyn y gwyliau hanner tymor a bydd y trefniadau presennol yn parhau.

Mae agor lleoliadau addysg yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth. Os byddwn yn parhau i weld niferoedd yn gostwng dros y mis nesaf, ein bwriad fyddai gweld disgyblion ysgolion cynradd yn dychwelyd fesul cam ac mewn modd hyblyg o 22 Chwefror. Mae hyn yn cydnabod bod ein dysgwyr ieuengaf yn ei chael hi'n anoddach dysgu o bell; y dystiolaeth o'r effaith hirdymor, yn enwedig i'n dysgwyr ieuengaf a'r dystiolaeth wyddonol ar drosglwyddiad ymhlith plant iau.

Os oes digon o hyblygrwydd, byddwn yn dod â niferoedd bach o ddysgwyr uwchradd a cholegau yn ôl ar yr un pryd. Rydym yn gweithio gydag ysgolion, darparwyr ôl-16 ac undebau i benderfynu ar y ffordd orau o gyflawni hynny. Ein blaenoriaeth fydd dysgwyr galwedigaethol, gan gynnwys prentisiaid, sydd angen mynediad at leoliadau hyfforddiant neu weithleoedd er mwyn ymgymryd â chymwysterau ymarferol.

Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag undebau ac awdurdodau lleol i drafod pa fesurau pellach y gallwn i gyd eu cymryd i sicrhau bod lleoliadau addysg yn amgylcheddau diogel o ran COVID. Caiff y trafodaethau hyn eu llywio gan gyngor iechyd a chyngor gwyddonol.

Bydd y ddarpariaeth addysg yn parhau ar ôl hanner tymor ar gyfer dysgwyr sy'n agored i niwed, plant gweithwyr hanfodol, a dysgwyr sy'n sefyll arholiadau neu asesiadau hanfodol a bydd ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion yn parhau i fod ar agor lle bo hynny'n bosibl.

Mae'r cyfyngiadau ar hyn o bryd yn darparu ar gyfer ffurfio swigod cefnogaeth i helpu pobl sengl a rhieni sengl. Rwy'n cydnabod y gall perthnasoedd ac amgylchiadau pobl newid dros amser a byddwn yn diwygio’r rheoliadau a chanllawiau i ganiatáu ar gyfer newid swigen gefnogaeth ar yr amod nad yw'r ddwy aelwyd yn gweld unrhyw aelwyd arall am gyfnod o 10 diwrnod cyn ffurfio'r swigen gefnogaeth newydd. Dylid gwneud hyn fel dewis olaf gan ei bod yn fwy diogel os na fyddwn yn newid y swigen gefnogaeth yr ydym yn rhan ohoni.

Bydd y cyfyngiadau hefyd yn cael eu diwygio yng Nghymru i ganiatáu i uchafswm o ddau berson o ddwy aelwyd wahanol ymarfer corff gyda'i gilydd, ond dylent wneud pob ymdrech i gadw pellter cymdeithasol. Bydd rhaid i bobl ddechrau a gorffen unrhyw ymarfer corff o'u cartref oni bai bod angen i berson deithio am resymau iechyd. Mae hyn yn golygu, am y tro, os bydd dau berson yn cyfarfod, y bydd angen iddynt fyw yn agos at ei gilydd gan na chaniateir teithio i wneud ymarfer corff yn gyffredinol.

Yn olaf, bydd lleoliadau golchi ceir awtomatig yn cael eu rhestru ochr yn ochr â gorsafoedd petrol a garejys fel lleoliadau y caniateir iddynt agor, i roi eglurder cyfreithiol.