Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS
Yn yr adolygiad diwethaf o’r rheoliadau coronafeirws ar 9 Rhagfyr, dywedais y byddwn yn newid o drefn adolygu bob tair wythnos i drefn wythnosol i fod yn siŵr fod gennym y mesurau cywir yn eu lle i gadw Cymru’n ddiogel wrth i’r amrywiolyn omicron ddod ar ein gwarthaf.
Mae’r amrywiolyn wedi cyrraedd Cymru. Mae’n fwy heintus ac yn lledaenu’n gyflym.
Ond ar y funud, rydym dal wrthi’n ymateb i don yr amrywiolyn delta – sef yr amrywiolyn sy’n heintio’r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru sy’n dal y coronafeirws. Mae’r gyfradd yn parhau’n uchel ond mae’n sefydlog, o gwmpas 500 o achosion ym mhob 100,000 o bobl.
Mae’r nifer sydd wedi’u heintio gan yr amrywiolyn omicron yn cynyddu bob dydd yng Nghymru – ac yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Erbyn diwedd y mis, fwy na thebyg, omicron fydd y ffurf fwyaf cyffredin ar y feirws. Rydym yn dal i ddysgu amdano. Ond mae popeth rydym yn ei wybod yn awgrymu bod sefyllfa ddifrifol iawn o’n blaenau.
Dylem fod yn barod i weld nifer yr achosion o’r omicron yn cynyddu’n gyflym yng Nghymru ar ôl Nadolig. Mae angen cynllun arnom i’n cadw’n saff dros yr ŵyl tra bo delta’n dal yn gryf a bydd angen mesurau cryfach arnom i’n hamddiffyn wedi hynny wrth i ni baratoi ar gyfer ton fawr o’r omicron.
Mae’r feirws hwn yn ffynnu wrth i bobl ddod i gysylltiad â’i gilydd. Bob tro y down i gysylltiad â rhywun, mae hynny’n gyfle i ledaenu neu ddal y feirws. I’n helpu i ddathlu’r Nadolig gyda’n teuluoedd a’n hanwyliaid, rydym yn cyhoeddi canllawiau newydd a chyngor cryf i’n cadw’n ddiogel wrth i ni baratoi ar gyfer yr ŵyl.
Rydyn ni’n argymell bod pawb yn cwrdd â llai o bobl, yn enwedig os ydyn nhw am weld pobl hŷn neu fregus dros yr ŵyl. Eleni, y Nadolig gorau yw Nadolig bach – gyda’ch teulu neu aelwyd agosaf.
I gadw’n saff wrth i ni nesáu at y Nadolig, rydyn ni’n cynghori pawb i gadw at y mesurau syml hyn:
- Ewch i gael eich brechu – os ydych chi wedi cael apwyntiad i gael eich brechlyn atgyfnerthu, rhowch flaenoriaeth iddo.
- Cyn mynd allan, siopa Nadolig neu ymweld â phobl, cymerwch brawf llif unffordd. Os yw’r canlyniad yn bositif – arhoswch gartref.
- Gwell cwrdd tu allan na thu fewn. Os ydych chi’n cwrdd tu fewn, gofalwch fod y lle wedi’i awyru’n dda.
- Trefnwch fod o leiaf diwrnod o fwlch rhwng pob digwyddiad cymdeithasol.
- Peidiwch ag anghofio cadw pellter, gwisgo gorchudd wyneb a golchi’ch dwylo.
I leihau’r cysylltiadau rhwng pobl, byddwn yn newid y rheoliadau coronafeirws i roi dyletswydd gyfreithiol ar gyflogwyr i roi’r hawl i’w gweithwyr weithio gartref, os yw hynny’n bosib, ac ar weithwyr i wneud hynny lle bo hynny’n ymarferol. Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw’r cyfraddau yn y gymuned yn uchel gan mai’r gwaith yn aml yw un o’r lleoedd gwaethaf am drosglwyddo’r feirws.
Fel ymateb i’r cynnydd yn yr achosion rydyn ni’n ei ragweld oherwydd omicron ar ôl y Nadolig, byddwn yn cyflwyno cyfyngiadau newydd ar 27 Rhagfyr i helpu i reoli ei ledaeniad cyflym ac i sicrhau na fydd nifer fawr o bobl yn gorfod cael gofal yn yr ysbyty.
Byddwn yn defnyddio elfennau o lefel rhybudd dau – bydd y cyhoedd yn gyfarwydd â llawer ohonyn nhw a chawsant eu defnyddio i gadw busnesau ar agor mewn ffordd ddiogel yn gynharach yn y pandemig.
Ar gyfer busnesau a gwasanaethau, bydd set newydd o fesurau rhesymol a fydd yn cynnwys rheol newydd ynghylch cadw 2m o bellter cymdeithasol. Mae hynny’n golygu pan fydd siopau, busnesau a gweithleoedd yn ailagor ar ôl y Nadolig, bydd angen iddyn nhw wneud rhai newidiadau i’w trefniadau, gan gynnwys rhoi mesurau ychwanegol ar waith i ddiogelu cwsmeriaid a staff, fel systemau unffordd a rhwystrau ffisegol.
Bydd clybiau nos yn gorfod cau o 27 Rhagfyr.
Byddwn yn trafod ymhellach â chynrychiolwyr y sectorau, ein cynghorwyr iechyd cyhoeddus a chyrff chwaraeon am ddigwyddiadau dros y dyddiau nesaf.
Bydd hyd at £60m o gymorth ariannol ar gael i fusnesau y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael effaith faterol arnyn nhw. I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth hwn, ewch i wefan Busnes Cymru.
Ond o ran ein gallu i roi a chynnal cymorth economaidd tymor hir dros y don newydd hon o’r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn, rydym wedi’n cyfyngu’n fawr gan safiad diweddaraf Trysorlys y Deyrnas Unedig a’r ffaith nad yw wedi agor cynlluniau cymorth hanfodol, fel y cynllun ffyrlo.
Dylai’r cynlluniau hyn fod ar gael ar gyfer pob gwlad ac nid dim ond pan mae Lloegr yn cyflwyno cyfyngiadau.
Rydyn ni wedi gallu rheoli’r coronafeirws gyda’r lefel leiaf o gyfyngiadau yng Nghymru dros y chwe mis diwethaf. Ond mae omicron yn dod â bygythiad newydd yn ei sgil i’n hiechyd a’n diogelwch. Dyma’r datblygiad mwyaf difrifol hyd yma yn y pandemig.
A rhaid i ni i gyd ei gymryd o ddifrif, a rhoi mesurau cymesur ar waith i ddiogelu bywydau a bywoliaethau.
Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i Aelodau wrth i’r sefyllfa ddatblygu.