Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol cynnal adolygiad o'r cyfyngiadau coronafeirws bob tair wythnos. Roedd yr adolygiad diweddaraf i fod i gael ei gynnal erbyn 16 Medi.
Mae cyfradd trosglwyddo COVID-19 yn gyffredinol wedi cynyddu ledled Cymru ers yr adolygiad diwethaf, yn ogystal â chanran y bobl sy'n cael canlyniad positif i brawf. Mae’r dystiolaeth yn parhau i ddangos bod y cysylltiad rhwng achosion a derbyn pobl i’r ysbyty a marwolaethau wedi cael ei wanhau gan y rhaglen frechu. Nid yw’r cysylltiad wedi cael ei dorri ac mae nifer y bobl a dderbyniwyd i'r ysbyty gyda COVID-19 wedi codi'n gyson dros yr wythnosau diwethaf, wrth i bwysau ehangach ar ein system iechyd a gofal gynyddu hefyd .
Mae Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE) wedi nodi ein bod yn dechrau ar gyfnod o ansicrwydd wrth i ysgolion a phrifysgolion fynd yn ôl a rhagor o bobl ddychwelyd i'r gweithle. Mae hyn i gyd yn digwydd ar adeg pan fydd imiwnedd gan y brechlyn yn dechrau gwanhau.
Gallwn aros ar lefel rhybudd sero ond mae'r cynnydd mewn achosion a'r ansicrwydd presennol yn golygu y bydd yn rhaid i bob un ohonom gynyddu ein hymdrechion i wneud y pethau syml sy'n ein cadw i gyd yn ddiogel.
Mae'r rhain yn cynnwys cael ein brechu'n llawn; cael prawf a hunanynysu os oes gennym symptomau coronafeirws; cwrdd ag eraill yn yr awyr agored lle bynnag y bo modd a sicrhau bod awyru digonol mewn mannau o dan do; cadw pellter pan fydd modd; golchi ein dwylo'n rheolaidd; gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus o dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, a gweithio gartref lle bynnag y bo modd.
Dechreuodd ymgyrch yr hydref i roi’r brechlyn atgyfnerthu'r ddoe – staff rheng flaen y GIG yng Ngogledd Cymru oedd y cyntaf i dderbyn y brechlyn atgyfnerthu. Yfory, bydd preswylwyr a staff cartrefi gofal yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn cael y pigiad atgyfnerthu a bydd yr ymgyrch yn cael ei estyn ledled Cymru ddydd Llun.
Yn unol â chyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio, bydd yr holl staff iechyd a gofal rheng flaen, pawb sy'n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal, pawb dros 50 oed a phawb 16 oed a hŷn sydd â chyflyrau iechyd isorweddol yn gymwys i gael y pigiad atgyfnerthu o leiaf chwe mis ar ôl iddynt gael eu hail ddos.
Bydd llythyrau hefyd yn dechrau cael eu hanfon i bobl ifanc 12 – 15 oed yr wythnos nesaf, gan eu gwahodd i gael eu brechu, a byddwn yn gweithio’n galetach i annog y rhai nad ydynt wedi cael eu brechu eto i fanteisio ar y cynnig.
Y brechlyn yw ein hamddiffyniad cryfaf yn erbyn y feirws o hyd.
Byddwn yn gweithio gyda busnesau ac undebau llafur ar yr angen i adolygu eu hasesiadau risg ac, os oes angen, cryfhau'r mesurau rhesymol y maent yn eu cymryd i helpu i leihau'r risg o drosglwyddo feirws. Gallai'r rhain gynnwys, er enghraifft, rhagor o gyhoeddiadau neu arwyddion gwell am y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn siopau ac ar drafnidiaeth gyhoeddus. Byddwn hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd parhau i ganiatáu i staff weithio gartref lle bo hynny'n bosibl.
Mae SAGE wedi dweud ei bod yn bwysig gweithredu'n gynnar i arafu epidemig cynyddol. Yn ogystal â'r meysydd a nodir uchod, byddwn hefyd yn diwygio'r rheoliadau i'w gwneud yn ofynnol i bobl ddangos pàs COVID y GIG i fynd i mewn i'r lleoliadau a'r digwyddiadau canlynol o ddydd Llun 11 Hydref:
• Clybiau nos a lleoliadau tebyg.
• Digwyddiadau dan do lle nad yw pobl yn eistedd gyfer mwy na 500 o bobl, lle mae pobl yn cymysgu'n agos am gyfnodau hir.
• Digwyddiadau awyr agored lle nad yw pobl yn eistedd ar gyfer mwy na 4,000 o bobl, lle bydd pobl yn cymysgu'n agos am gyfnodau hir.
• Unrhyw ddigwyddiad, o unrhyw natur, sydd â mwy na 10,000 o bobl yn bresennol.
Mae Pàs COVID wedi cael ei ddefnyddio yng Nghymru ar gyfer rhai digwyddiadau dros yr haf ac mae rhai safleoedd yn ei gwneud yn ofynnol dangos y pàs cyn cael mynediad. Mae'n caniatáu i bobl brofi eu bod naill ai wedi cael eu brechu'n llawn neu i ddarparu tystiolaeth o brawf llif unffordd negyddol.
Rydym am gefnogi lleoliadau i aros ar agor a galluogi digwyddiadau i barhau i ddigwydd, yn enwedig gan mai dim ond yn ddiweddar y mae llawer wedi ailagor.
Wrth i’r gaeaf nesáu, rhaid inni weithio gyda'n gilydd i ddiogelu Cymru.