Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mehefin 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rwy’n cyhoeddi fy mod wedi comisiynu John McClelland CBE, a gynhaliodd yr adolygiad ‘Gwneud y Gorau o Bolisi Caffael Cymru’ yn 2012, i wneud adolygiad byr o lywodraethu a rheoli o ran caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rwy’n disgwyl cael cyngor ar ganlyniad adolygiad John McClelland yn ystod Awst 2013.

Nodir cylch gorchwyl yr adolygiad isod:

Mae caffael gwasanaeth cyhoeddus Cymru yn aeddfedu’n gyflym, yn enwedig oherwydd y ffocws strategol a gweithredol a roddir iddo gan Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus. Mae Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru yn achub ar y cyfle i symud y ddealltwriaeth o gaffael o fod yn swyddogaeth drafodol i fod  yn adnodd polisi llawn,  a chefnogaeth drawsbleidiol i’r Adroddiad ar Adolygiad McClelland (2012). Mae sefydlu Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (erbyn Tachwedd 2013), dan arweiniad Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau gwerth am arian o gaffael a rheoli strategol mewn  gwariant cyffredin ac ailadroddus ledled Cymru, yn enghraifft o’r amgylchedd sy’n aeddfedu a’r llywodraethu a’r rheoli ar lefel uchel o gaffael gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru sy’n newid. Mae’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cael ei sefydlu gyda buddsoddiad o hyd at £5.92 miliwn o gronfa Buddsoddi i Arbed Llywodraeth Cymru; bydd llywodraethu a pherfformiad y buddsoddiad hwnnw yn hanfodol i lwyddiant a chynaliadwyedd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol.

Fel dilyniant i Adolygiad McClelland ac er mwyn cefnogi ffrwd waith Llywodraethu Prosiect Gorchwyl a Gorffen Gweithredu’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, mae Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad yn cynnal adolygiad byrdymor o lywodraethu a strwythurau rheoli lefel uchel a chyfrifoldebau caffael gwasanaeth cyhoeddus ledled Cymru ac o fewn Llywodraeth Cymru. Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio’n benodol ar lywodraethu Llywodraeth Cymru, a Gwerth Cymru fel isadran o Lywodraeth Cymru,  a’r berthynas reoli a strwythurol â’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, y Bwrdd trosolwg arfaethedig o’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol,  a Bwrdd Caffael presennol Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus.