Skip to main content

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon



Ar 1 Hydref 2012, cyhoeddais adolygiad o asesu a’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru.  I helpu i lywio’r adolygiad hwn, gofynnais i’r Dr Elin Jones gadeirio grŵp gorchwyl a gorffen i edrych yn benodol ar ddysgu hanes Cymru, stori Cymru a’r Cwricwlwm Cymreig.  
Mae’n egwyddor sylfaenol o ran y Cwricwlwm Cenedlaethol y dylai dysgwyr rhwng 7-14 mlwydd oed gael y cyfle i ddatblygu a defnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth o nodweddion  diwylliannol, economaidd, amgylcheddol, hanesyddol a ieithyddol Cymru.  Mae’r Cwricwlwm Cymreig yn helpu dysgwyr i ddeall a dathlu ansawdd unigryw byw a dysgu yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain, i ddod yn gyfarwydd â’u syniad eu hunain o ‘Gymreictod’ ac i fagu mwy o deimlad o berthyn i’w cymuned leol a’u gwlad.  Mae’n helpu i feithrin mewn dysgwyr ddealltwriaeth o Gymru ryngwladol sy’n edrych allan ar y byd, gan hyrwyddo dinasyddiaeth fyd-eang ac ymwybyddiaeth o ddatblygu cynaliadwy.  
Fodd bynnag, bu newidiadau sylweddol yng nghwricwlwm Cymru ers cyhoeddi canllawiau ACCAC ar ‘Ddatblygu’r Cwricwlwm Cymreig’ yn 2003.  Ar yr un pryd, bu twf sylweddol yn y diddordeb mewn hanes Cymru dros y ddegawd ddiwethaf.  
Yn y cyfamser, mae adnoddau ar-lein i gynorthwyo gydag astudio hanes Cymru wedi parhau i dyfu hefyd.  Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi llawer mewn digideiddio, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cymal, a ‘Chasgliad y Werin’ Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC).  Rydym hefyd yn buddsoddi’n drwm yn ein hadnoddau addysgol ar-lein i ysgolion drwy Hwb a Dysgu Cymru.  Yn ogystal â’r gwasanaethau Archifau Sirol a mentrau hanes teuluol y sector preifat, mae gennym bellach fynediad gwell nag erioed i adnoddau hanesyddol mewn ysgolion.   
Gan ystyried popeth, mae’r ffactorau hyn yn golygu mai nawr yw’r amser i edrych eto ar le hanes Cymru o fewn y cwricwlwm hanes, sut y gellir datblygu stori Cymru mewn ysgolion, a dyfodol y Cwricwlwm Cymreig o fewn y cyd-destun newidiol hwn.  Mae Dr Jones felly wedi sefydlu grŵp adolygu, sy’n cynnwys rhanddeiliaid amlwg sydd â phrofiad ac arbenigedd ym maes hanes Cymru a’r dull o’i ddysgu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, i edrych ar: 
  • Ai’r ffordd orau o ddysgu’r Cwricwlwm Cymreig yw drwy’r ddisgyblaeth hanes, ac os nad y ffordd honno, beth yw’r ffordd orau o sicrhau bod elfennau y Cwricwlwm Cymreig yn cael eu darparu ar draws y cwricwlwm; 
  • A oes digon o bwyslais ar hanes Cymru a storïau Cymru wrth ddysgu hanes a’r rhaglen astudio bresennol; ac 
  • A yw’r dull o ddysgu hanes, o’r Cyfnod Sylfaen i’r Fagloriaeth Gymreig, TGAU a lefel A yn ystyried yn llawn yr ymchwil diweddaraf a’r adnoddau newydd sydd ar gael am ddatblygiad hanesyddol Cymru hyd at heddiw.  

Cafodd aelodau’r grŵp eu dewis yn ofalus oherwydd eu profiad a’u harbenigedd ym meysydd treftadaeth, hanes lleol a chenedlaethol, hanes Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethniga’r ystod o arbenigedd academaidd, yn yr ysgol ac yn seiliedig ar waith.  
Rwyf wedi gofyn i’r Dr Elin Jones gadeirio’r grŵp.  Daw Dr Jones a chyfoeth o brofiad i’r agenda hon ac rwy’n falch iawn ei bod wedi cytuno i fynd ymlaen â’r gwaith pwysig hwn.  Hefyd, rwy’n ddiolchgar iawn i’r unigolion canlynol sydd hefyd wedi cytuno i ddod yn aelodau o’r adolygiad:  
  • Yr Athro Angela John, Prifysgol Aberystwyth;
  • Dr Sian Rhiannon Williams, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd;
  • Sion Jones, Ysgol Syr Hugh Owen;
  • Dr Hugh Griffiths, Ysgol Bro Myrddin;
  • Paul Nolan, Cynghorydd Hanes;
  • Nia Williams, Cydlynydd Addysg, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru;
  • Frank Olding, Swyddog Treftadaeth Blaenau Gwent;
  • Dr Stephanie Ward, Prifysgol Caerdydd;
  • David Stacey, Ysgol Gyfun Olchfa;
  • Dr Martin Johnes, Coleg Prifysgol Abertawe;
  • William Rogers, Ysgol Queen Street, Blaenau Gwent;
  • Nicola Thomas, Ysgol Cornist Park
Bydd y grŵp yn adrodd yn ôl imi erbyn Gorffennaf 2013 ac yn cynnig argymhellion ar y ffordd ymlaen.

Rhannu’r dudalen hon