Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel y gwyddai’r aelodau, rhoddodd Deddf Cymru 2014 y pŵer i’r Senedd sefydlu Cyfraddau Treth Incwm Cymru (CTIC). Fel y cytunwyd yn fframwaith cyllidol Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2016, cyflwynwyd CTIC ar 6 Ebrill 2019.

Mae CThEM yn cadw’r cyfrifoldeb am gasglu a rheoli CTIC. Fel rhan o’r broses weithredu, cytunwyd ar Gytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng Llywodraeth Cymru a CThEM ac fe’i cyhoeddwyd y llynedd. Mae’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn amlinellu’r gofynion, y graddfeydd amser a’r mesurau perfformiad ar gyfer gweithredu CTIC. Bydd cadw at y Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn sicrhau y rhoddir gwasanaeth o ansawdd cyson i drethdalwyr yng Nghymru ac yn galluogi CThEM a Llywodraeth Cymru i ddiwallu eu cyfrifoldebau priodol yn ymwneud â gweithredu treth incwm Cymru.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru a CThEM wedi adolygu’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth i sicrhau ei fod yn addas i’r diben o hyd. Fel rhan o’r broses hon, gwnaed rhai newidiadau a diwygiadau bychan.    

Cyhoeddwyd y Cytundeb Lefel Gwasanaeth diwygiedig ar wefannau Llywodraeth Cymru a Gov.UK.