Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Mae safonau a chyrhaeddiad Cymraeg ail iaith yn is na phynciau eraill ac mae rhy ychydig o ddisgyblion yn datblygu eu Cymraeg yn dda yng Nghyfnod Allweddol 4.  Yng Nghyfnod Allweddol 4, dydy traean o ddysgwyr ddim yn ennill unrhyw gymhwyster cydnabyddedig ac mae mwy o ymgeiswyr TGAU Cymraeg ail iaith yn sefyll y cyrsiau byr lle mae cyrhaeddiad yn isel. Ychydig o ddysgwyr Cymraeg ail iaith sy’n teimlo’n hyderus a sy'n gallu defnyddio’r Gymraeg y tu hwnt i’r dosbarth ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 4.

Mae’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg yn amlinellu nod Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y dysgwyr sy’n gallu cyrraedd rhuglder a defnyddio’r Gymraeg yn eu cymunedau, teuluoedd ac yn y gweithle.  Mae’r Strategaeth yn cynnwys amcan penodol i wella safonau dysgu ac addysgu Cymraeg ail iaith.

Ym Mis Mai 2012, cyhoeddais gynllun gweithredu newydd gwerth £400,000 dros 4 blynedd i ddechrau gwella safonau a chyrhaeddiad mewn Cymraeg ail iaith.  Prif ffocws y cynllun yw gwella lefelau cyrhaeddiad Cymraeg ail iaith ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2. Bwriedir hefyd i’r cynllun adeiladu ar y gwelliannau yn safonau Cyfnod Allweddol 2 trwy wella profiad dysgu wrth bontio i Gyfnod Allweddol 3 a dilyniant yng Nghyfnod Allweddol 4 ac amlinellir gwaith adolygu cymwysterau ac asesu.

Er mwyn symud y gwaith yn ei flaen, rwyf yn sefydlu grŵp adolygu, fydd yn cynnwys rhandeiliaid gyda phrofiad ac arbenigedd ym maes Cymraeg ail iaith, i ystyried pa newidiadau dylid eu gwneud i addysgu ac asesu yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 i alluogi mwy o ddysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg.  Bydd gofyn i’r grŵp adrodd yn ôl imi erbyn Medi 2013 gan ddarparu argymhellion ar y ffordd ymlaen.

Bydd gofyn i’r grŵp ystyried:

  • sut i ddarparu profiad dysgu positif i ddysgwyr Cymraeg ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg;
  • sut i godi statws Cymraeg ail iaith fel pwnc a chael gwared ar rwystrau ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol;
  • a yw cymwysterau (cymwysterau sydd eisoes ar gael a/neu ffurfiau eraill posibl o achredu) yn annog neu’n rhwystro datblygiad sgiliau iaith Gymraeg trosglwyddadwy;
  • y ffordd orau o ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg dysgwyr fel eu bod nhw’n gallu trosglwyddo eu sgiliau a defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, y gymuned a’r teulu; a
  • sut i fynd ati i gynllunio’r gweithlu er mwyn sicrhau bod gan bob ysgol uwchradd yr adnoddau a'r capasiti i gynnig darpariaeth Cymraeg ail iaith o safon.

Mae aelodau'r grŵp wedi'u dewis yn ofalus yn seiliedig ar eu profiad ac arbenigedd ym maes Cymraeg ail iaith ac i adlewyrchu'r amrediad eang a welir o fewn dysgu ac addysgu Cymraeg ail iaith, yn ieithyddol ac yn ddaearyddol.

Rwyf wedi gofyn i'r Athro Sioned Davies, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd gadeirio'r grŵp.  Mae gan Sioned brofiad helaeth i'w gynnig i'r grŵp a rwyf yn falch ei bod hi wedi cytuno i symud y gwaith pwysig hwn ymlaen.  Rwyf yn falch i gyhoeddi bod y canlynol hefyd wedi cael eu penodi i'r grŵp:

  • Aled Evans, Pennaeth Datblygu Addysg, Castell Nedd Port Talbot;
  • Elaine Senior, Ymgynghorydd Cymraeg Annibynnol Dysgu Oedolion;
  • Elen Roberts, Athrawes Ymgynghorol (uwchradd), Torfaen, a phrif gymedrolwr ar gyfer cymedroli clystyrau Cyfnodau Allweddol 2/3;
  • Susan Gwyer Roberts, Pennaeth, Ysgol Caldicot, Sir Fynwy;
  • Eleri Jones, Pennaeth, Ysgol Brynhyfryd, Sir Ddinbych; 
  • Aled Loader, Pennaeth Adran Gymraeg, Ysgol Uwchradd St Joseph, Casnewydd; a
  • Bethan Williams, Pennaeth Adran Gymraeg, Ysgol Uwchradd Treorci, Rhondda Cynon Taf