Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cyn-filwyr a chymuned ehangach y lluoedd arfog. Mae manylion am yr amrywiaeth o gymorth a gwasanaethau sydd ar gael i gyn-filwyr a'r rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, ar gael yn ein Pecyn Cymorth ar gyfer Cymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru (Mehefin 2013).
Mae sicrhau bod gan gyn-filwyr, yn arbennig, fynediad at ofal iechyd priodol ac amserol yn ganolog i’r ymrwymiad hwn. Yn y blynyddoedd diweddar, rydym wedi gweithio gyda phartneriaid yn y GIG, y trydydd sector, y Weinyddiaeth Amddiffyn a'r lluoedd arfog i ddatblygu mentrau a pholisïau i sicrhau bod anghenion corfforol ac emosiynol cyn-filwyr a'r rhai sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, yn cael eu diwallu.
Gallwn fod yn falch o'n gwaith, yn arbennig mewn perthynas â gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer cyn-filwyr yng Nghymru. Mae GIG Cymru i Gyn-filwyr, a arferai gael ei alw yn Gwasanaeth Iechyd a Lles Cyn-filwyr Cymru, yn darparu therapyddion penodedig i gyn-filwyr ym mhob bwrdd iechyd, a dyma'r unig wasanaeth cenedlaethol o'i fath ar gyfer cyn-filwyr yn y DU.
Fe'i datblygwyd o gynllun peilot llwyddiannus yn Ne Cymru, a ariannwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Yn 2010, ehangodd Llywodraeth Cymru y gwasanaeth i gynnwys Cymru gyfan, gan fuddsoddi £485,000 i gefnogi'r datblygiad.
Yn y blynyddoedd ers hynny, mae mwy na 1,100 o gyn-filwyr wedi cael eu hatgyfeirio i'r gwasanaeth, gyda 395 rhwng mis Ebrill 2013 a mis Mawrth 2014 yn unig. Eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £100,000 yn rhagor yng ngwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr, a fydd yn sicrhau bod cyn-filwyr yn cael mynediad cyflymach at wasanaethau asesu a thriniaeth. Mae dangosyddion cynnar yn nodi bod y cyllid hwn eisoes yn cael effaith gadarnhaol, wrth i amseroedd aros ostwng ar draws y byrddau iechyd. Mae'r canlyniadau yn arbennig o syfrdanol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, lle mae'r amseroedd aros ar gyfer cael triniaeth wedi gostwng o 7 mis i 6 wythnos, dros y cyfnod o fis Mehefin i fis Medi 2014.
Yn gynharach yn y flwyddyn, comisiynwyd Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnal adolygiad o GIG Cymru i Gyn-filwyr, a oedd yn cynnwys dadansoddiad o'r galw presennol am wasanaethau, a'r galw yn y dyfodol, ymgynghoriad â darparwyr a defnyddwyr am sut y mae'r gwasanaeth yn gweithredu, ac a oedd yn ystyried sut y gallai gael ei wella.
Mae'r adroddiad ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
http://www2.nphs.wales.nhs.uk:8080/HealthTopicLeads.nsf/85c50756737f79ac80256f2700534ea3/f93e1024a5edd6fd80257d880034fd88/$FILE/Veterans NHS Wales Review 2014 Final Version 051114.docx
Mae'r adolygiad yn nodi bod cyn-filwyr sydd wedi defnyddio gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr yn fodlon iawn â'r gwasanaeth a'r driniaeth a dderbyniwyd; roedd pawb yn fodlon â'r therapyddion, ac er gwaetha rhai pryderon am amseroedd aros ar gyfer yr apwyntiad cyntaf - roedd mwyafrif helaeth y cyn-filwyr a holwyd wedi dweud eu bod yn hapus gyda'u hamser aros.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi tynnu sylw at y nifer isel o fenywod a defnyddwyr gwasanaeth cynnar sydd wedi defnyddio gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr hyd yma, ac wedi nodi bod cyn-filwyr mewn carchardai yng Nghymru yn faes lle nad yw anghenion wedi cael eu diwallu o bosibl. Mae'r adolygiad yn gwneud cyfres o argymhellion i wella GIG Cymru i Gyn-filwyr yn y tymor uniongyrchol ac yn y tymor hwy er mwyn diwallu'r angen hwn. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn parhau i weithio gyda GIG Cymru i Gyn-filwyr i roi’r argymhellion hyn ar waith.
Mae'n rhaid i fyrddau iechyd a GIG Cymru i Gyn-filwyr weithio gyda'i gilydd i weithredu argymhellion yr adroddiad hwn i sicrhau bod cyn-filwyr yng Nghymru yn parhau i gael mynediad at unig wasanaeth cenedlaethol, penodedig y DU i gefnogi eu hanghenion iechyd emosiynol a meddygol.