Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 30 Ionawr 2020, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig i gadarnhau bod Llywodraeth Cymru, o ganlyniad i gyngor cyfreithiol, wedi canslo’r broses gaffael ar  gyfer Rhaglen Cefnogi Swyddi Cymru oherwydd anawsterau technegol. Heddiw, byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y mater.

Comisiynodd y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd adolygiad o’r anawsterau caffael a gawsom a chwblhaodd swyddogion yr adolygiad hwnnw ym mis Mawrth 2020. Er bod dull caffael Llywodraeth Cymru yn unol â’r Rheoliadau Contractau Cyhoeddus, cadarnhaodd yr adolygiad ei bod yn briodol yn yr achos hwn roi’r gorau i’r broses gaffael benodol hon. Gwnaeth yr adolygiad sawl argymhelliad i gryfhau prosesau mewnol a bellach mae swyddogion yn eu dwyn ymlaen.

Bydd Gwasanaethau Archwilio Mewnol Llywodraeth Cymru yn adolygu’r gwersi a fydd yn cael eu dysgu o’r mater hwn i sicrhau eu bod yn cael eu cymhwyso’n gyson ar draws gweithgareddau caffael Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.

Bydd cyhoeddiadau ar ddyfodol rhaglenni Cyflogaeth a Sgiliau yn cael eu gwneud maes o law.

Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau arwyddocaol.