Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 16 Mehefin, ysgrifennais at yr Aelodau i amlinellu sefyllfa bresennol y rhaglen o Adolygiadau Trefniadau Etholiadol sy’n mynd rhagddi. Nodais hefyd sut yr oeddwn yn bwriadu cyfathrebu fy mhenderfyniadau ynglŷn â phob ardal.

Roedd hyn yn cynnwys fy ymrwymiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn rheolaidd drwy ddatganiadau ysgrifenedig. Dyma’r pedwerydd o’r diweddariadau hynny.

Ar 21 Gorffennaf, ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Sir Powys i gadarnhau fy mhenderfyniad i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gydag addasiadau mewn perthynas â Sir Powys.

Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Sir Powys ar gael yma.

Yn ogystal, ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gadarnhau fy mhenderfyniad i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gydag addasiadau mewn perthynas â Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gael yma.

Mae’r addasiadau i’r argymhellion hyn wedi’u nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.

Bydd gwaith yn mynd rhagddo yn awr i roi’r penderfyniadau hyn ar waith drwy Orchymyn.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu unwaith y byddaf wedi gwneud penderfyniadau ynglŷn ag ardaloedd eraill.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny

 

Atodiad

Addasiadau a wnaed i Argymhellion Terfynol y Comisiwn ar gyfer trefniadau etholiadol yr ardaloedd canlynol.

Sir Powys
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Crickhowell with Cwmdu and Tretower yr enw Cymraeg Crucywel gyda Chwmdu a Thretŵr. Bydd yr enw Cymraeg Crucywel gyda Chwm-du a Thretŵr yn cael ei roi i’r ward etholiadol
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Llan-gors with Bwlch yr enw Cymraeg Llangors gyda Bwlch. Bydd yr enw Cymraeg Llan-gors gyda Bwlch yn cael ei roi i’r ward etholiadol
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Ysgir with Honddu Isaf and Llan-ddew yr enw Cymraeg Ysgir gyda Honddu Isaf a Llanddew. Bydd yr enw Cymraeg Ysgir gyda Honddu Isaf a Llan-ddew yn cael ei roi i’r ward etholiadol
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Glasbury yr enw Cymraeg Y Clas ar Wy. Bydd yr enw Cymraeg Y Clas-ar-Wy yn cael ei roi i’r ward etholiadol
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Newtown Central and South yr enw Cymraeg Y Drenewydd Canol a De. Bydd yr enw Cymraeg Canol a De’r Drenewydd yn cael ei roi i’r ward etholiadol
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Newtown East yr enw Cymraeg Y Drenewydd Dwyrain. Bydd yr enw Cymraeg Dwyrain y Drenewydd yn cael ei roi i’r ward etholiadol
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Newtown North yr enw Cymraeg Y Drenewydd Gogledd. Bydd yr enw Cymraeg Gogledd y Drenewydd yn cael ei roi i’r ward etholiadol
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Maescar and Llywel yr enw Cymraeg Maescar a Llywel. Bydd yr enw Cymraeg Maes-car a Llywel yn cael ei roi i’r ward etholiadol
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Talybont-on-Usk yr enw Cymraeg Talybont-ar-wysg. Bydd yr enw Cymraeg Tal-y-bont ar Wysg yn cael ei roi i’r ward etholiadol
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Tawe Uchaf yr enw unigol Tawe Fellte. Bydd yr enw unigol Tawe Uchaf yn cael ei roi i’r ward etholiadol
Bwrdeistref Sirol Wrecsam
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Marchwiel yr enw Cymraeg Marchwiail. Bydd yr enw unigol Marchwiel yn cael ei roi i’r ward etholiadol
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Minera yr enw Cymraeg Y Mwynglawdd. Bydd yr enw Cymraeg Mwynglawdd yn cael ei roi i’r ward etholiadol
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol a elwir yn Saesneg Bangor Is-y-Coed yr enw unigol Bangor Is-y-Coed. Bydd yr enw unigol Bangor-is-y-coed yn cael ei roi i’r ward etholiadol