Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 16 Mehefin, ysgrifennais at yr Aelodau i amlinellu sefyllfa bresennol y rhaglen o Adolygiadau Trefniadau Etholiadol sy’n mynd rhagddi. Nodais hefyd sut yr oeddwn yn bwriadu cyfathrebu fy mhenderfyniadau ynglŷn â phob ardal.

Roedd hyn yn cynnwys fy ymrwymiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau yn rheolaidd drwy ddatganiadau ysgrifenedig. Dyma’r ail o’r diweddariadau hynny.

Ar 7 Gorffennaf, ysgrifennais at Arweinydd a Phrif Weithredwr Sir Gaerfyrddin i gadarnhau fy mhenderfyniad i dderbyn argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gydag addasiadau mewn perthynas â Sir Gaerfyrddin, ac i fwrw ymlaen â gwaith i weithredu’r argymhellion hynny drwy orchymyn.

Mae Adroddiad Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Sir Gaerfyrddin ar gael yma. Mae’r addasiadau i’r argymhellion hyn wedi’u nodi yn yr atodiad i’r datganiad hwn.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu unwaith y byddaf wedi gwneud penderfyniadau ynglŷn ag ardaloedd eraill.

Atodiad

Addasiadau a wnaed i Argymhellion Terfynol y Comisiwn ar gyfer trefniadau etholiadol yr ardaloedd canlynol.

Sir Gaerfyrddin

  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Betws yr enw unigol Betws. Bydd yr enw Cymraeg Y Betws yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Dafen a Felinfoel yr enw Cymraeg Dafen a Felinfoel. Bydd yr enw Cymraeg Dafen a Felin-foel yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Garnant yr enw unigol Garnant. Bydd yr enw Cymraeg Y Garnant yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Gorslas yr enw unigol Gorslas. Bydd yr enw Cymraeg Gors-las yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Penygroes yr enw unigol Penygroes. Bydd yr enw Cymraeg Pen-y-groes yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Trelech yr enw unigol Trelech. Bydd yr enw Cymraeg Tre-lech yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Tycroes yr enw unigol Tycroes. Bydd yr enw Cymraeg Tŷ-croes yn cael ei roi i’r ward etholiadol.
  • Cynigiodd y Comisiwn y dylid rhoi i ward etholiadol Hendy-gwyn ar Daf yr enw Cymraeg Hendy-Gwyn. Bydd yr enw Cymraeg Hendy-gwyn ar Daf yn cael ei roi i’r ward etholiadol.