Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi adroddiad cryno yn nodi canfyddiadau allweddol adolygiad annibynnol o drwyddedu morol yng Nghymru, a gyflwynir gan ICF Consulting. Mae'r adolygiad yn cyflwyno argymhelliad 7a o’r gwaith ymchwil manwl ynni adnewyddadwy.
Mae Trwyddedau Morol yn cael eu rhoi gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar ran Gweinidogion Cymru, awdurdod trwyddedu dyfroedd Cymru. Rwy'n ymroddedig i broses gydsynio sy'n addas at y dyfodol, gan gefnogi ein dyheadau sero net tra'n sicrhau bod ein moroedd yn lân ac yn iach. Fel cyfrifoldeb cyffredin, mae gan CNC rôl ganolog wrth gyflawni fy nisgwyliadau trwy broses trwyddedu morol amserol, gymesur a chryfach. Fodd bynnag, nid yw proses symlach yn golygu osgoi gofynion deddfwriaethol hanfodol ar waith i amddiffyn a gwella ein hamgylchedd morol.
Nid yw'r adolygiad annibynnol gan ICF Consulting wedi nodi unrhyw broblemau sylfaenol yn y broses trwyddedu morol ddeddfwriaethol ac mae meysydd ymarfer da wedi'u cydnabod yn narpariaeth CNC. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn nodi meysydd ar gyfer gwelliannau yr wyf yn disgwyl iddynt gael eu cyflawni. Rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i weithio gyda CNC i gryfhau'r broses o ddarparu trwyddedu morol trwy gyfres o gamau blaenoriaeth. Bydd hyn yn cynnwys camau gweithredu megis gwasanaethau ar-lein gwell, canllawiau cliriach a cheisio sicrhau mwy o ffocws ar wybodaeth cyn ymgeisio, yn enwedig ar gyfer datblygiadau morol mawr a/neu newydd.
Mae gan ddatblygwyr rôl bwysig hefyd wrth wneud penderfyniadau mwy amserol drwy gyflwyno ceisiadau cadarn o ansawdd da. Fel y tystia'r adolygiad, lle mae datblygwyr yn ymgysylltu'n gynnar i ddeall y gofynion trwyddedu, gan gynnwys amserlenni posibl gall y broses drwyddedu weithredu'n fwy effeithlon. Hoffwn hefyd weld datblygwyr yn ymgysylltu'n gynnar ag ymgynghorai allweddol a'r cymunedau lleol sy'n cynnal prosiectau seilwaith morol mawr i sicrhau bod eu barn yn cael ei ystyried yn gynnar mewn dyluniadau prosiectau ac y gellir sicrhau cyfleoedd ar gyfer manteision.
Mae sylfaen dystiolaeth gadarn yn cefnogi proses drwyddedu fwy gymesur ac amserol. Hoffwn weld ymrwymiad gan ddiwydiannau morol i weithio gyda'i gilydd i gasglu a rhannu tystiolaeth a gwybodaeth ac i ddod o hyd i gyfleoedd i helpu i wella bioamrywiaeth fel rhan o ddyluniadau prosiect da. Ar adeg pan fyddwn yn wynebu pwysau niferus gan gynnwys yr argyfyngau hinsawdd a natur ni fu erioed yn bwysicach i ni weithio gyda'n gilydd i wireddu ein nod cyffredin, datblygiad cynaliadwy ardal forol Cymru.
Bydd proses trwyddedu morol gryfach yn cefnogi ein hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd. Bydd yn galluogi datblygiadau morol sy'n cefnogi ein huchelgais sero net, tra'n gwarchod ein hamgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.