Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Codi safonau addysg a gwella deilliannau ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru yw fy mhrif flaenoriaeth. Rhan o'r gwaith yr ydym yn ei wneud yn hynny o beth yw diwygio'r system er mwyn gwella lefelau llythrennedd a rhifedd, a lleihau'r effaith y mae amddifadedd yn ei chael ar y sgiliau hynny.
Er mwyn sicrhau bod llythrennedd a rhifedd yn rhan annatod o bob pwnc ar draws y cwricwlwm, ac er mwyn helpu’n holl athrawon i ddatblygu'n athrawon llythrennedd a rhifedd, rydym yn cyflwyno'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol. Bydd y Fframwaith hwn yn un o ofynion statudol y cwricwlwm ar gyfer disgyblion rhwng y Dosbarth Derbyn a Blwyddyn 9, a hynny o fis Medi 2013 ymlaen. Bydd yn ofynnol i athrawon fynd ati'n flynyddol i asesu'r cynnydd a wneir gan ddisgyblion o ran bodloni'r disgwyliadau yn y Fframwaith, gan roi adroddiadau i rieni am ganlyniadau'r asesiadau hynny. Ochr yn ochr â'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, rydym yn cyflwyno profion darllen a rhifedd ar gyfer disgyblion rhwng Blwyddyn 2 a Blwyddyn 9, a bydd y profion hyn yn fodd i ddarparu tystiolaeth bellach am lefelau cyrhaeddiad disgyblion, yn ychwanegol at yr asesiadau a gaiff eu cynnal gan athrawon.  
Mae'r ddau ddatblygiad hyn, gyda'i gilydd, yn newid sylweddol i'r trefniadau asesu mewn ysgolion yng Nghymru. O'r herwydd, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ystyried y trefniadau asesu ehangach sy'n cael eu harfer yn ein hysgolion a chyflwyno argymhellion i mi ynghylch unrhyw newidiadau y mae angen eu gwneud er mwyn sicrhau bod y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, a'r profion, yn rhan o ddull cydlynol o weithredu yn hyn o beth.     Bydd yr adolygiad yn ymateb i bryderon a fynegwyd gan Estyn ynghylch pa mor ddibynadwy yw asesiadau gan athrawon. Bydd yn mynd ati hefyd i bwyso mesur a yw'r safonau/lefelau cyrhaeddiad yn ein cwricwlwm yn ddigon ymestynnol, ac yn ystyried yr effaith y byddai newid trefniadau asesu yn ei chael ar y cwricwlwm ehangach. Rwyf wedi gofyn i swyddogion roi ystyriaeth benodol i sut y mae disgrifiadau lefelau a thargedau cyrhaeddiad yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, a pha mor ddefnyddiol yw'r dulliau hynny. Rwyf am iddynt ystyried hefyd pa ddulliau asesu yw'r rhai mwyaf priodol, sut y mae data sy'n deillio o asesiadau'n cael eu defnyddio, amseriad yr asesiadau a gynhelir, a pha bynciau y mae angen eu hasesu. Y nod sydd gennyf mewn golwg wrth gynnal yr adolygiad hwn yw symleiddio'r trefniadau asesu, a'u gwneud yn fwy effeithlon, a sicrhau hefyd fod y trefniadau hynny o gymorth i wella'r dysgu a'r addysgu.
Mae'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn mynd ati'n gwbl fwriadol i anelu'n uwch o ran yr hyn y disgwylir i blant ei wybod a'r hyn y disgwylir iddynt fedru ei wneud. Yn fy marn i, mae’n briodol i ni geisio sicrhau bod y safonau a bennir ar gyfer ein plant yn rhai ymestynnol a'u bod yn gydnaws â'r arferion gorau sydd i'w gweld yn rhyngwladol. O'r herwydd, rwyf wedi gofyn i swyddogion fynd ati, ochr yn ochr â'r adolygiad o drefniadau asesu, i ystyried a yw'r disgwyliadau a nodir yng Ngorchmynion Pwnc y Cwricwlwm Cenedlaethol, o ran yr hyn y dylai plant ei wybod ac o ran yr hyn y dylent fedru ei wneud, yn ddigon heriol ac a yw'r disgwyliadau hynny'n gydnaws â'r disgwyliadau yn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd.  Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried pob un o bynciau craidd y Cwricwlwm Cenedlaethol, yn ogystal â'r pynciau sylfaen eraill, a hynny ym mhob cyfnod allweddol, er mwyn sicrhau bod ein disgwyliadau o ran y cynnwys ac o ran datblygu sgiliau yn rhai digon uchel.
Byddwn yn cydweithio ac yn ymgynghori â rhanddeiliaid gydol yr adolygiad hwn.
Bydd cam cyntaf yr adolygiad yn cael ei gwblhau erbyn mis Medi 2013. Bydd y cam hwnnw'n cynnwys casglu tystiolaeth, ymgynghori â rhanddeiliad allweddol ac arbenigwyr, ac yna dadansoddi'r holl wybodaeth cyn cyhoeddi adroddiad.
Bydd ail gam yr adolygiad yn dod i ben erbyn mis Medi 2014. Yn ystod y cam hwnnw,  byddwn yn nodi unrhyw rai o’r trefniadau presennol yng Nghymru o ran asesu ac o ran y cwricwlwm y mae angen eu diwygio, a bydd cyfle i'r cyhoedd gael dweud eu dweud drwy ymgynghoriad cyhoeddus.    
Disgwylir i’r camau a fydd yn deillio o’r adolygiad gael eu gweithredu o fis Medi 2014 ymlaen.Caiff manylion pellach am yr adolygiad eu rhyddhau yn y man, ynghyd â gwybodaeth ynghylch sut y gall rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys rhieni, athrawon, a'r dysgwyr, gyfrannu ato.