Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r rheoleiddiwr annibynnol, Cymwysterau Cymru, wedi cyflwyno heddiw ganlyniad eu hadolygiad o'r Dystysgrif Her Sgiliau a'i rhan o fewn Bagloriaeth Cymru (dolen allanol).

Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn sy'n cydnabod holl gryfderau'r Dystysgrif Her Sgiliau a hefyd gryfderau Bagloriaeth Cymru. Rwy'n falch iawn o weld yr holl gefnogaeth sy'n bodoli ar gyfer y Dystysgrif Her Sgiliau ymysg athrawon, cyflogwyr a myfyrwyr - mae hyn yn atgyfnerthu ein barn fod y cymhwyster yn llwyddiannus o safbwynt addysgu'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y gweithle.

Rwyf i, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, yn ymrwymedig i Fagloriaeth Cymru. Ein her yn awr fydd adeiladu ar y cryfderau hyn, lleihau unrhyw gymhlethdod a sicrhau bod dysgwyr, athrawon, prifysgolion a chyflogwyr yn cydnabod statws y cymwysterau hyn. Golyga hyn wella'r modd yr ydym yn hyrwyddo holl fanteision y cymhwyster hwn. Rwyf hefyd yn ystyried pa fesurau y gallwn eu cyflwyno o safbwynt cyllido'r ddarpariaeth o Fagloriaeth Cymru ar gyfer dysgwyr ôl-16.

Byddaf yn disgwyl i'r holl bobl ifanc a all ddilyn y Dystysgrif Her Sgiliau i astudio'r rhan hon o Fagloriaeth Cymru. O'r flwyddyn hon ymlaen bydd Bagloriaeth Cymru'n fesur perfformiad a gaiff ei gyhoeddi ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 ac rydym hefyd wrthi'n datblygu mesurau ar gyfer y Fagloriaeth ôl-16.

Nodaf y camau y bydd Cymwysterau Cymru'n eu cymryd a byddaf yn cyflwyno'n fuan fy ymateb o ran sut y gallwn fynd i'r afael ag argymhellion yr adroddiad.