Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae addysg a hyfforddiant iechyd da yn hanfodol er mwyn cynnal a gwella safonau’r gwasanaeth a ddarperir i gleifion ar draws y DU. 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o Adroddiadau am addysg feddygol wedi arwain at gyflwyno newid i raglenni addysg a hyfforddiant, ac mae’r rhain yn cynnwys yr ymchwiliad annibynnol i Foderneiddio Gyrfaoedd Meddygol, dan arweiniad Syr John Tooke yn 2007. Roedd yn galw am ddull mwy hyblyg ac eang o hyfforddiant meddygol, gan integreiddio hyfforddiant ac amcanion gwasanaeth i gynllunio’r gweithlu. Roedd ymchwiliadau eraill wedi tynnu sylw at yr angen i ddatblygu strwythur addysg a hyfforddiant meddygol ôl-raddedig cyfredol ymhellach er mwyn sicrhau ei fod yn cefnogi ac yn ymateb i anghenion cyfnewidiol cymdeithas.

Yn 2011 cytunwyd bod angen gwneud rhagor o waith ac y dylai cadeirydd annibynnol arwain y gwaith hwn, a phenodwyd yr Athro David Greenaway, Is-gadeirydd Prifysgol Nottingham, ym mis Chwefror 2012.  

Gan adeiladu ar waith cynharach, y prif dasgau oedd ystyried a gwneud argymhellion mewn perthynas â’r meysydd canlynol

  • Anghenion y gweithlu: Arbenigwyr neu gyffredinolwyr – Mae’r model cyfredol o hyfforddiant meddygol yn seiliedig ar lefel uchel o arbenigedd ac is-arbenigedd mewn ymarfer meddygol.  Ar hyn o bryd mae mwy na 60 o arbenigeddau a dros 35 o is-arbenigeddau.
  • Hyd a lled yr hyfforddiant – Ystyriaeth o sut y gall hyfforddeion gael cefnogaeth well wrth ennill y cymysgedd iawn o wybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau i’w paratoi nhw ar gyfer gwahanol amgylcheddau a chyd-destunau darparu gofal. 
  • Anghenion hyfforddiant a gwasanaeth – Ystyriaeth o rôl hyfforddeion o fewn y gwasanaeth a sut y gellir ymdrin ag anghenion gwasanaeth a hyfforddiant sy’n cystadlu â’i gilydd. 
  • Anghenion y claf – Datblygu strwythurau hyfforddi sy’n egluro’r cymwyseddau a gyflawnir gan unigolion a rolau a chyfrifoldebau hyfforddeion a meddygon hyfforddedig.
  • Hyblygrwydd yr hyfforddiant – Dod o hyd i ffyrdd y gall hyfforddeion a meddygon hyfforddedig symud ymlaen at faes arbenigol arall sy’n fwy addas ar eu cyfer neu pan fydd natur yr ymarfer meddygol, neu anghenion y cleifion neu’r gwasanaethau, wedi newid.
Ar 29 Hydref cyhoeddwyd penllanw’r gwaith hwn, sef ‘Datblygu Hyfforddiant: Sicrhau dyfodol Gofal Rhagorol i Gleifion’ (Shape of Training: Securing the future of Excellent Patient Care).

Yn gefndir i’r adolygiad hwn mae’r anghenion cyfnewidiol gan gleifion ar draws y DU, ac yn sgil hynny yr angen i ymdrin â salwch mwy cronig, gyda chleifion yn dioddef o gyflyrau niferus a chymhleth. Mae hyn yn ganlyniad ffyrdd o fyw afiach a phoblogaeth sy’n heneiddio. Ceir nifer o argymhellion yn yr adroddiad sy’n anelu at wneud yn siŵr fod y sgiliau, y cymwysterau a’r doniau priodol gan feddygon i ddiwallu’r anghenion cyfnewidiol hyn. Mae’r adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar yr angen i unioni’r cydbwysedd rhwng meddygon sydd wedi’u hyfforddi i ddarparu gofal cyffredinol a’r rheini sydd wedi’u hyfforddi i roi gofal mwy arbenigol. Mae cefndir ac amcanion yr adroddiad yn gyson â gofynion GIG Cymru fod y gweithlu’n ddigon hyblyg i addasu ar gyfer newid, gyda diogelwch, gwelliant parhaus, urddas a pharch at gleifion wrth wraidd y ddarpariaeth honno.

Mae’r Adroddiad llawn i’w weld yma:

http://www.shapeoftraining.co.uk/reviewsofar/1732.asp

Rwy’n croesawu byrdwn cyffredinol yr Adroddiad a’r dull cydweithredol o’i ddatblygu. Mae pedair gwlad y DU wedi bod yn cymryd rhan yn y trafodaethau, y gweithdai a’r ymarferion casglu tystiolaeth ehangach a lywiodd yr adroddiad terfynol hwn.

Mater i’r Llywodraethau ar draws y DU nawr yw ystyried y cynigion hyn yn fanwl a chytuno ar y rhai i’w cadarnhau a’u datblygu ymhellach. Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnal trafodaethau â Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill er mwyn cytuno ar sut y caiff y gwaith hwn ei ddatblygu. Wrth gyfarfod â’r Athro Greenaway yn gynharach eleni eglurais fy mod yn croesawu cyfleoedd i Gymru gymryd rhan mewn unrhyw raglenni peilot i lywio’r datblygiadau hyn.

Rwy’n awyddus bod yr argymhellion yn yr Adroddiad yn cael eu gweithredu’n fuan, ond rhaid inni sicrhau bod y trefniadau newydd yr ydym yn cytuno arnynt yn rhai priodol a pharhaol. Yn y misoedd nesaf bydd cyfleoedd i Aelodau gymryd rhan mewn sesiynau codi ymwybyddiaeth am yr hyn y gall yr Adroddiad ei olygu’n ymarferol, Bydd rhagor o fanylion am y cyfleoedd hyn ar gael cyn bo hir. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod yn rhaid i’r Adroddiad hwn fod yn berthnasol i’r agenda addysg iechyd ehangach er ei fod yn canolbwyntio ar hyfforddiant ôl-raddedig i feddygon. Er enghraifft, mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi galw am fwy o amser ar gyfer yr hyfforddiant. Rhaid ystyried hyn nawr yng ngoleuni’r cynnig yn Adroddiad Greenaway i ganolbwyntio’n fwy ar hyfforddiant cyffredinol.

Yn gynyddol mae rolau newydd yn cael eu creu sy’n galluogi meddygon i gael eu rhyddhau er mwyn canolbwyntio ar y pethau hynny y cawsant hyfforddiant dwys ar eu cyfer, tra bydd meddygon eraill yn gallu ymgymryd â rhai o’r dyletswyddau y maen nhw wedi’u gwneud yn draddodiadol. Wrth gwrs, rhaid i unrhyw newid mewn cyfrifoldebau fodloni’r angen i sicrhau diogelwch y claf, ond ceir llawer o enghreifftiau o ymarfer arloesol da yn digwydd ledled Cymru. Mae angen inni wneud yn fawr o’r ymdrechion hyn a rhannu syniadau ar draws y GIG.

Mae’n bwysig fod trafodaethau am gynllunio’r gweithlu, dylunio rolau a chomisiynu addysg yn digwydd mewn modd aml-broffesiynol, ac nid ar wahân, gan fod dibyniaethau anochel yn bodoli ar draws y gweithlu.

Er mwyn hyrwyddo’r dull hwn rwyf wedi penderfynu edrych ar sut y gellir dod â’r swyddogaethau ynghyd ar draws yr holl agweddau ar yr agenda addysg iechyd heb fod angen negodi ffiniau ac agendâu sefydliadol ar wahân. Yn y misoedd nesaf bydd gwaith yn mynd rhagddo i gytuno ar y ffordd ymlaen, a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw gynnydd i’r Aelodau.