Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n cyhoeddi ein hadolygiad o bolisi Llywodraeth Cymru ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE). Gofynnais am yr adolygiad er mwyn cael gweld y cynnydd a wnaed o ran cyflwyno’r polisi, a sut mae’n cyfrannu at nod y llywodraeth o sicrhau bod holl blant Cymru yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd a’r cyfle i gyrraedd eu potensial. Gellir gweld yr adolygiad yn: https://llyw.cymru/adolygiad-or-polisi-ynghylch-profiadau-niweidiol-yn-ystod-plentyndod-adroddiad

Roedd yr adolygiad yn ystyried y dystiolaeth a oedd yn cefnogi ac yn cwestiynu’r angen parhaus am bolisi ACE canolog gan Lywodraeth Cymru. Hefyd ystyriwyd i ba raddau y mae ACE wedi cael eu hymgorffori ar draws polisi ehangach Llywodraeth Cymru. Roedd yn bwysig i mi bod ein rhanddeiliaid yn cael y cyfle i gyfrannu sylwadau ar sut y dylid datblygu polisi ACE Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys rôl y Ganolfan Cymorth ACE.

Cyflwynodd astudiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru i achosion o ACE yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2015, achos cryf dros weithredu ym maes ACE. Llywiodd canfyddiadau’r astudiaeth hon benderfyniad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu camau gweithredu i fynd i’r afael ag ACE yn ystod tymor y Senedd hon. Dangosodd yr astudiaeth fod achosion o ACE yn eang yng Nghymru. Tynnodd sylw at y ffaith bod y rheini sydd wedi profi mwy nag un achos o ACE yn wynebu risg uwch o brofi iechyd corfforol a meddyliol gwael gan fyw bywyd anhapus byrrach, gwaelach, llai cynhyrchiol a llai gweithredol yn economaidd. Fodd bynnag, dangosodd hefyd sut yr oedd ACE ymhell o fod yn rhywbeth anochel neu'n rhywbeth sy’n eich diffinio, ac y gellid eu hatal, gan nodi gweithredu gan y llywodraeth a sut y gallai'r rhai a oedd eisoes wedi profi ACE elwa o gael cymorth.

Mae'r adroddiad rwyf yn ei gyhoeddi heddiw yn dwyn ynghyd prif ganfyddiadau a chasgliadau'r adolygiad. Mae'r rhain yn cynnwys tystiolaeth glir sy'n dangos y cysylltiad cryf rhwng ACE a chanlyniadau gwaeth a chefnogaeth eang i weithredu gan y llywodraeth ar ACE. Canfu'r adolygiad fod gweithredu ar ACE wedi'i ymgorffori'n dda ym mholisi Llywodraeth Cymru, a nodwyd sut yr oedd datblygu a gweithredu ein polisi ACE wedi dylanwadu ar rai o feysydd polisi llywodraeth y Deyrnas Unedig. Dengys yr adroddiad gefnogaeth barhaus a chyf ymhlith rhanddeiliaid i'r Ganolfan Cymorth ACE. Fodd bynnag, cafwyd hefyd wrthwynebiad i’r agenda ACE am amryw o resymau y bydd angen eu hystyried ymhellach wrth ddatblygu unrhyw bolisi ACE yn y dyfodol.

Rwyf yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn yr adolygiad. Mae ei ganfyddiadau'n cefnogi'r angen parhaus i gael polisi clir a chyson gan Lywodraeth Cymru ar ACE a gwneud gwaith datblygu pellach i adlewyrchu'r hyn a ddaeth i’r amlwg yn yr adolygiad. Mae'n cyflwyno dadl gref dros newid y ffocws o godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ACE, tuag at gymorth effeithiol sydd wedi'i lywio gan ddealltwriaeth o effeithiau trawma, sy'n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant a'u teuluoedd. Mae’r rhanddeiliaid hefyd wedi gofyn am well cydweithio rhwng gwasanaethau wrth fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Ar ôl ystyried canfyddiadau'r adolygiad, rwyf wedi nodi cyfres o egwyddorion i lywio datblygiad ein polisi ACE yn y dyfodol a gweithio i atal ACE. Mae'r rhain fel a ganlyn:

  • Nid yw Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn anochel. Lle bo'n bosibl, dylai gwaith ACE ganolbwyntio ar atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod rhag digwydd yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, ni allwn anwybyddu'r angen i ddarparu ymatebion cydymdeimladol a chymorth sy'n seiliedig ar drawma i'r rhai y mae ACE eisoes wedi effeithio arnynt na phwysigrwydd mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar gryfderau ac adeiladu gwydnwch.
  • Dylai ein dull o godi ymwybyddiaeth o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod gefnogi rhieni a rhaid iddo osgoi canlyniadau anfwriadol, fel stigmateiddio neu gynyddu ymyriadau statudol diangen. Dylid hefyd osgoi ffocws cul ar ymddygiad rhieni yn unig. Mae atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gofyn am roi sylw i gyd-destunau cymdeithasol ac economaidd ehangach bywyd teuluol.
  • Mae angen i ni fod yn ofalus wrth ddefnyddio'r term 'Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod' (ACE), yn ogystal â'r iaith a ddefnyddiwn i ddisgrifio profiadau niweidiol, a bod yn ymwybodol o'u heffaith. Ni ddylid byth ystyried bod ACE yn rhywbeth sy’n diffinio bywyd.
  • Ni ddylid defnyddio'r 'sgôr ACE' gydag unigolion i bennu risg, a ddylid cynnig ymyriad ai peidio neu'r math o ymyriad y dylid ei gynnig.  
  • Dylai gwaith ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod adlewyrchu’r ffaith bod ACE yn fwy dwys mewn ardaloedd difreintiedig. Mae angen cydnabod bod tlodi ac amddifadedd lluosog yn ffactorau achosol mewn rhai o'r hysbysebion hyn o leiaf.
  • Dylem gydnabod, cefnogi a hyrwyddo'r cyfraniad y gall dulliau cymunedol, hunangymorth a chymorth cymheiriaid ei wneud i atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a lliniaru eu heffaith.

Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i symud ymlaen â chanlyniadau’r adolygiad a chyflwyno cynigion ar gyfer datblygu polisi ACE Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Rwyf eisiau i’r grŵp gynnwys rhanddeiliaid allanol a swyddogion Llywodraeth Cymru o ystod o wasanaethau a meysydd polisi, sy’n rhannu diddordeb mewn atal profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a rhoi cymorth i’r rheini sydd wedi profi trawma. Hoffwn i waith y grŵp gael ei arwain gan yr egwyddorion a amlinellwyd gennyf uchod.

Mae'r adolygiad wedi tynnu sylw at natur gymhleth a rhyng-gysylltiedig ACE a phrofiadau niweidiol plentyndod. Fe'i cynhaliwyd yn ystod pandemig y Coronafeirws, a oedd yn gyson ar feddwl rhanddeiliaid wrth iddynt feddwl am bolisi ACE Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Roedd tystiolaeth eisoes wedi dechrau dod i'r amlwg am yr effaith uniongyrchol yr oedd COVID-19 yn ei chael, yn enwedig ar rai o'n unigolion a'n cymunedau mwy agored i niwed. Mae'n debygol y bydd COVID-19 yn cael effaith lawer hirach hefyd ac yn gwaethygu'r anawsterau a'r profiadau niweidiol yr oedd llawer o blant yn eu hwynebu cyn dechrau'r pandemig. Felly, byddwn yn gofyn i’r grŵp gorchwyl a gorffen ystyried sut y gall polisi ACE Llywodraeth Cymru yn y dyfodol gyfrannu at gynllun adfer COVID-19. Mae amser yn ffactor pwysig ac felly rwyf wedi gofyn i'r grŵp gwblhau ei waith ac adrodd yn ôl i Weinidogion Cymru dros yr haf.