Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r datganiad yma i hysbysu’r aelodau ein bod wedi cytuno, ar y cyd â Chyngor Dinas a Sir Caerdydd, i gynnal adolygiad o Awdurdod Harbwr Caerdydd. Bydd yr adolygiad yn ystyried y trefniadau cyllido a rheoli presennol ar gyfer Morglawdd Bae Caerdydd, y llyn mewndirol a’r harbwr allanol o dan y cytundeb rhwng Gweinidogion Cymru a Chyngor Dinas a Sir Caerdydd. Cynhelir yr adolygiad gan Bartneriaethau Lleol (menter ar y cyd sydd ym mherchnogaeth Trysorlys ei Mawrhydi, y Gymdeithas Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru).

Yn 2000, cytunodd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd i ymgymryd â rôl Awdurdod Harbwr Caerdydd ac ysgwyddo hawliau a rhwymedigaethau’r corff a adwaenwyd yn flaenorol fel Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd o dan Ddeddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993. Sefydlodd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd Awdurdod Harbwr Caerdydd fel isadran ar wahân i’r Cyngor i weithredu’r Awdurdod Harbwr yn unol â Chytundeb Adran 165 (y Cytundeb).  Yn dilyn diddymu Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd, o dan delerau’r Cytundeb (a’r Gweithredoedd Amrywio dilynol) daeth Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am dalu’r symiau angenrheidiol i’r Cyngor i gyflawni ei rwymedigaethau statudol o dan Ddeddf Morglawdd Bae Caerdydd.  

Un o elfennau allweddol yr adolygiad fydd ystyried a oes cyfle i sicrhau gwell gwerth am arian wrth gyflawni swyddogaethau statudol yr awdurdod harbwr, gan gynnwys modd o sicrhau arbedion ariannol hirdymor a chyfleoedd i gynyddu’r gweithgareddau cynhyrchu incwm. Yn ogystal, bydd yn cynnwys adolygiad o delerau ac amodau presennol y Cytundeb gan roi ystyriaeth i’r gofynion gweithredol a’r risg.

Mae’r Awdurdod yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau bod Bae Caerdydd yn cael ei reoli’n effeithlon ac effeithiol. Gyda chefnogaeth Cyngor Dinas a Sir Caerdydd, mae wedi llwyddo i sefydlu’r Bae a’r adnoddau cysylltiedig fel amwynder cyhoeddus unigryw teilwng ar gyfer prifddinas sy’n edrych tua’r dyfodol. Nod yr adolygiad yw sicrhau bod gennym drefniadau cynaliadwy i alluogi’r Awdurdod i barhau i ymgymryd â’r rôl hon yn y dyfodol.