Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf, yn ei gwneud yn glir bod paratoi'r economi Cymru ar gyfer heriau a chyfleoedd y dyfodol yn rhan ganolog o'n gwaith fel llywodraeth. Mae'n disgrifio'n huchelgais i weithio ar draws adrannau a chyda'n partneriaid cymdeithasol i adeiladu gwlad ac economi sy'n cynnig gwaith teg ac sy'n barod at y dyfodol.

Mae'r cynllun yn enwi maint a chyflymder y newidiadau sy'n wynebu Cymru yn ei phedwaredd oes ddiwydiannol ac mae'n ein hymrwymo i harneisio potensial yr oes a rheoli'i bygythiadau trwy weithio mewn ffordd newydd ar lefel llywodraeth gyfan i ddatblygu'r economi. Mae'r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn dangos y synergedd agos rhwng awtomatiaeth, deallusrwydd artiffisial a mathau eraill o ddigideiddio, yn ogystal â'r effaith drawsnewidiol y bydd y meysydd newydd hyn yn debygol o'i chael ar economi Cymru ac adeiladwaith y farchnad lafur yn y dyfodol.

Rwy'n awyddus i wneud yn siŵr bod Cymru mewn lle da i elwa mewn ffordd gydgysylltiedig ac effeithiol ar gam nesa arloesedd digidol. Yn unol ag uchelgais y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, rwyf am inni baratoi at yr hyn ddaw trwy sicrhau bod gan ein gweithwyr y sgiliau y bydd eu hangen arnynt, a hefyd trwy gefnogi cyfleoedd gwaith newydd, helpu busnesau ar lawr gwlad i arloesi ac ystyried yr effeithiau ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Rwyf am weld sut y gall newid technolegol ein galluogi i rannu ffyniant ar draws Cymru, adeiladu cymunedau cynhwysol a chefnogi'n cynlluniau i ddatblygu economïau'r rhanbarthau.

Dyna pam rwyf i a'm cydweithwyr yn y Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip yn ogystal â Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wedi cytuno y dylai'r Athro Phil Brown, Athro Ymchwil uchel ei barch yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, arwain adolygiad o Arloesedd Digidol, gan gynnwys Deallusrwydd Artiffisial ac Awtomatiaeth, yng nghyd-destun y Cynllun Gweithredu ar yr Economi.

Gan gadw natur drawslywodraethol y gwaith mewn cof, byddaf yn cytuno ar gylch gorchwyl yn yr wythnosau i ddod all llywio'r ffordd y caiff y dystiolaeth ei chasglu, y gwaith dadansoddi a'r argymhellion.

Bydd yr adolygiad yn ystyried arloesi digidol o safbwynt rhyngwladol a hefyd yn pwyso a mesur yr hyn y gall Cymru ei ddysgu gan wledydd eraill. Hoffwn iddo hefyd ystyried sut y gallwn ymateb yn bositif i heriau drwy gydweithio. Bydd yn cydweithio'n agos â Grŵp Digidol a Data Llywodraeth Cymru o dan arweiniad fy nghydweinidog, Arweinydd y Tŷ sef Julie James, er mwyn ystyried y cyfleoedd a gynigir gan ddata mawr a hefyd y cyfleoedd digidol a ddaw wrth gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.   Trwy weithio â chanolfannau rhagoriaeth yn ein sefydliadau addysg bellach ac uwch, rwy'n credu y gallwn harneisio grym data i drawsnewid er mwyn gwella gwasanaethau a'n heconomi.

Rwyf wedi gofyn bod yr adolygiad yn adlewyrchu Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru: Ffyniant i Bawb a'n Cynllun Gweithredu ar yr Economi newydd a hefyd y nodau llesiant a'r dulliau gweithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Byddaf yn gweithio'n glos â phartneriaid cymdeithasol ac yn disgwyl i'r adolygiad gydweithio mewn ffordd ddeallus â rhanddeiliaid ledled y wlad a chydag arbenigwyr rhyngwladol o bedwar ban i baratoi adroddiad ar ein cyfer ni yma yng Nghymru.

Byddaf yn ysgrifennu at Aelodau'r Cynulliad pan fydd y cylch gorchwyl yn barod ac rwyf wedi gofyn am gael adroddiad interim yn diweddarach eleni a'r adroddiad terfynol yn chwarter cyntaf 2019.

Byddaf yn sefydlu Bwrdd Cynghori Gweinidogion newydd cyn hir a bydd gofyn i'r adolygiad ystyried hwnnw hefyd.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.