Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi yr adolygiad o addysg mewn carchardai yng Nghymru a gynhaliwyd gan David Hanson AS ddiwedd yr haf 2018.

Gofynnodd y Gweinidog blaenorol dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes am yr adolygiad er mwyn cael cipolwg annibynnol o'r sefyllfa o ran addysg mewn carchardai, a’r camau sy’n cael eu cymryd i baratoi carcharorion, a’r rheini sydd wedi'u rhyddhau i gymunedau ledled Cymru, ar gyfer byd gwaith. Roedd yr adolygiad yn edrych ar yr hyn sy'n gweithio'n dda ac yn tynnu sylw at feysydd sydd â lle i wella.

Fel rhan o'r adolygiad, ymgysylltodd David Hanson AS gyda rhanddeiliaid ar draws  Llywodraeth Cymru a'r System Gyfiawnder yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy'n gofalu am gomisiynu a darparu addysg i droseddwyr a chyn-droseddwyr. Hefyd, siaradodd â charcharorion er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’u hanghenion a'u cymhelliant  wrth ddefnyddio gwasanaethau addysg yn y carchar.

Diben yr adolygiad oedd ystyried sut y gellid gwella'r system bresennol ac rwy'n falch fod David wedi gwneud nifer o argymhellion i'r perwyl hwnnw.

Mae aildroseddu ar ran y rhai sy'n cael eu rhyddhau o'r ddalfa yn costio tua £15 biliwn y flwyddyn i gymdeithas. Gobeithiwn leihau achosion o aildroseddu a nifer y rhai sy'n dioddef oherwydd troseddau yn y dyfodol drwy waith adsefydlu effeithiol. Gwyddom fod darparu mynediad at addysg, sgiliau a chyflogaeth o ansawdd da yn un o'r prif ffactorau yn hyn o beth. Mae'n hanfodol felly bod buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn creu'r cyfleoedd cywir a llwybr effeithiol oddi wrth arferiad o droseddu.

Mae David Hanson wedi cynnig nifer o argymhellion sy'n berthnasol i'r trefniadau gweithio presennol gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, a sut y gallwn gynnwys yr unigolion a’r grwpiau mwyaf perthnasol yn y gwaith o ddatblygu polisi a'i gyflawni mewn ffordd fwy amlwg. Mae hefyd yn amlinellu'r cyfleoedd sydd gan Lywodraeth Cymru i hybu cyflogi cyn-droseddwyr a sut y gallwn wella'r gefnogaeth sydd ar gael i garcharorion ar ôl eu rhyddhau.

Mae'r Adroddiad hefyd yn gwneud cynigion eglur ynghylch sut y gall Llywodraeth Cymru ddarparu gwell cymorth i fenywod yn y system cyfiawnder troseddol, a sut y gellir rhoi mwy o sylw i'r agenda ddigidol. Er ein bod yn derbyn yr argymhellion hyn yn fras mewn egwyddor, byddwn nawr yn archwilio'r 22 o argymhellion â chrib fân ac yn ymateb wedyn gan fod nifer ohonynt yn gofyn am sylw buan gennym.

Rwy'n bwriadu darparu datganiad dilynol ymhen chwe mis i adolygu'r cynnydd a wnaed o ran yr argymhellion.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i David am ei arbenigedd eang a'i ddealltwriaeth bersonol o'r maes ac am roi o'i amser gwerthfawr i gynnal yr adolygiad hwn. Rwy'n sicr y bydd ei argymhellion yn helpu i sicrhau addysg mewn carchardai yng Nghymru yn y dyfodol ac y byddant yn darparu dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion i’r problemau, gan weithio mewn partneriaeth ddiamheuol wrth inni symud ymlaen. 

Mae’r adroddiad ar gael yma: https://llyw.cymru/adolygiad-annibynnol-o-addysg-mewn-carchardai