Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth
Mae Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi’r cam nesaf yn rhaglen gyni Llywodraeth y DU – rhaglen sy’n anghyfiawn ac yn ddidrugaredd.
Mae’r cyhoeddiad a wnaed ddoe bod Adrannau Whitehall yn gorfod dod o hyd i doriadau o £20 biliwn yn yr Adolygiad Arfaethedig o Wariant yn dod ar ben y toriadau ychwanegol o £12 biliwn a gyhoeddwyd gan y Canghellor yn gynharach y mis hwn yn ei ail ddatganiad ar y gyllideb yn 2015. Trwy fformiwla Barnett mae’n debygol y bydd i’r gostyngiadau hyn ganlyniadau sylweddol inni yng Nghymru ac effaith fawr ar y gwasanaethau cyhoeddus sydd mor bwysig inni.
Gyda phob un cyhoeddiad sydd wedi cael ei wneud, mae’r sefyllfa ariannol wedi dirywio. Mae’r dyraniadau ychwanegol bach sydd wedi cael eu cyhoeddi heb wneud fawr ddim i wrthbwyso’r toriadau. Yn fwyaf diweddar gwelsom doriad net o £46 miliwn yn 2015-16, a hwnnw’n cael ei gyhoeddi gydag awr o rybudd yn unig. Erbyn hyn, mae gennym gyfanswm o £1.3 biliwn yn llai mewn termau real i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru nag yn 2010-11. Ni fydd union effaith rhaglen gyni barhaus Llywodraeth y DU yn y tymor hirach yn hysbys tan yr Adolygiad o Wariant ar 25 Tachwedd, ond mae’n glir y gallwn ddisgwyl gostyngiad pellach yng nghyllideb Cymru mewn termau real. Mae’r rhybudd moel i Adrannau Whitehall yn dangos mor gyflym y gall unrhyw ddyraniadau ychwanegol gael eu gwneud yn ddi-rym fel petai gan doriadau mewn mannau eraill.
Mae’r ffaith bod amseriad yr Adolygiad o Wariant yn hwyr yn gwneud yr her o reoli effaith cyni pellach yn fwy anodd byth. Ar adeg o gyni mae’n bwysicach nag erioed inni fod mor sicr â phosibl pa gyllid fydd ar gael inni yn y dyfodol er mwyn i ninnau allu rhoi sicrwydd i’n partneriaid ynghylch ein cynlluniau gwario a hynny cyn gynted â phosibl. Oherwydd amseriad Adolygiad o Wariant 2015 mae bron yn amhosibl mynd ati i gynllunio’n effeithiol ar gyfer ein holl bartneriaid cyflawni, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, yr awdurdodau lleol a chyrff y trydydd sector.
Yn ei Gyllideb ar gyfer yr Haf, cadarnhaodd y Canghellor ei ymrwymiad i ‘gyllid gwaelodol’ i sicrhau ariannu teg i Gymru. O gofio difrifoldeb y rhagolygon ariannol, byddwn yn disgwyl camau gweithredu, a hynny ar frys, i sicrhau bod yr ymrwymiad hwn yn cael ei adlewyrchu yn yr Adolygiad o Wariant.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.