Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yn gosod cyfres o gyfyngiadau ar gynulliadau a symudiadau gan bobl, ac ar weithredoedd busnesau, gan gynnwys eu cau. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sydd ar agor gymryd camau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Eu nod yw diogelu pobl rhag lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).
Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y gofynion a’r cyfyngiadau yn y rheoliadau, a pha mor gymesur ydynt, bob 21 o ddiwrnodau. Cynhaliwyd yr adolygiad llawn diwethaf, sef y chweched adolygiad, ar 30 Gorffennaf. Nodwyd ynddo ddull gweithredu graddol ar gyfer y cylch tair wythnos nesaf.
Mae’r cyngor gwyddonol a meddygol yn dangos, ar y cyfan, bod y lefelau o drosglwyddo’r coronafeirws yn isel yng Nghymru. Fodd bynnag, mae’r sefyllfa yng ngweddill y DU, ac yn arbennig mewn rhannau o Loegr a thu hwnt yn llai calonogol.
Wrth inni symud i gam gwyrdd ein system golau traffig, gyda mwyfwy o safleoedd, gweithleoedd a lleoliadau yn awr ar agor, rhaid inni sicrhau bod pobl a busnesau yn cydymffurfio â’r Rheoliadau ac yn dilyn y canllawiau ar weithredu’n ddiogel yn y ffyrdd yr ydym wedi cytuno arnynt. Un elfen bwysig o’r canllawiau ar gyfer busnesau lletygarwch a safleoedd eraill sy’n uwch o ran risg yw casglu manylion cyswllt cwsmeriaid ac ymwelwyr. Mae hyn yn bwysig i helpu swyddogion olrhain cysylltiadau i gael gafael ar bobl sydd wedi bod yn yr un lleoliad â rhywun sydd wedi dal COVID-19 a lleihau’r risg o ledaenu’r haint.
Mae llawer o fusnesau a safleoedd yn casglu’r wybodaeth hon ac rydym yn diolch iddynt am eu hymdrechion i ddiogelu Cymru, Yn anffodus, nid yw rhai busnesau a safleoedd eraill yn ymddwyn yr un mor gyfrifol. Nid yw unigolion bob amser yn deall pwysigrwydd darparu’r wybodaeth honno chwaith. Felly, yr wythnos hon byddwn yn gliriach yn y rheoliadau bod casglu manylion cyswllt at ddibenion olrhain cysylltiadau yn fesur rhesymol rydym yn disgwyl i’r safleoedd hyn sy’n uwch o ran risg eu cymryd. Bydd swyddogion gorfodi mewn awdurdodau lleol yn delio ag unrhyw achosion o ddiffyg cydymffurfio gan ddefnyddio’r mesurau gorfodi cryfach a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf.
Rwyf hefyd wedi ystyried y dystiolaeth ddiweddaraf o ran gorchuddion wyneb. Pan fo’n angenrheidiol, byddwn yn ei gwneud yn ofynnol i ddefnyddio gorchuddion wyneb mewn mwy o leoliadau fel rhan o ymateb sydd wedi ei gynllunio i achosion lluosog neu frigiad o achosion. Bydd y newid hwn yn rhan o becyn o fesurau y byddwn o bosib yn ei gyflwyno mewn ardal. Bydd hyn yn cael ei godi pan fydd y sefyllfa yn gwella a phan nad yw bellach yn gymesur ar sail iechyd y cyhoedd. Nid yw’r sefyllfa o ran archfarchnadoedd wedi newid ac rydym yn argymell yn fawr y dylid defnyddio gorchuddion wyneb mewn lleoliadau sy’n llawn pobl pan fo cadw pellter cymdeithasol yn anodd.
Yr wythnos hon rydym wedi ystyried a allwn ni wneud newidiadau i’r rheolau ynghylch pobl yn cyfarfod o dan do. O ystyried y cynnydd mewn achosion ledled y DU sy’n gysylltiedig â’r gweithgarwch hwn, a’r don newydd o’r feirws yn rhyngwladol nid yw hyn yn rhywbeth y gallwn weithredu arno yr wythnos hon.
Fodd bynnag, rwy’n gwerthfawrogi’r pwysau a’r anawsterau y mae pobl yn eu hwynebu ac o 22 Awst, ar yr amod bod y sefyllfa yn parhau’n ffafriol, byddwn yn gwneud rhai newidiadau gofalus. Rydym yn bwriadu caniatáu i aelwydydd estynedig gynnwys hyd at bedair aelwyd fel rhan o un aelwyd estynedig benodedig. Bydd hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r dewisiadau anodd y bu’n rhaid i rai teuluoedd eu gwneud, megis dim ond cael un set o neiniau a theidiau mewn aelwyd estynedig. Rydym hefyd yn bwriadu caniatáu prydau bwyd o dan do ar gyfer hyd at 30 o bobl ar ôl priodas, partneriaeth sifil neu angladd. Byddai’r llacio hwn yn galluogi hyd at 30 o bobl i ddod ynghyd i nodi’r digwyddiadau pwysig hyn mewn bywyd.
Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu – mae pob un ohonom yn rhannu dyletswydd barhaus i ddiogelu Cymru.