Mark Drakeford AS, Prif Weinidog
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 yn gosod cyfres o gyfyngiadau ar gynulliadau a symudiadau gan bobl, ac ar weithredoedd busnesau, gan gynnwys eu cau. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sydd ar agor gymryd camau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Eu nod yw diogelu pobl rhag lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2).
Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y gofynion a’r cyfyngiadau yn y rheoliadau, a pha mor gymesur ydynt, bob 21 o ddiwrnodau. Cynhaliwyd yr adolygiad llawn diwethaf, sef y chweched adolygiad, ar 30 Gorffennaf. Nodwyd ynddo ddull gweithredu graddol ar gyfer y gylchred dair wythnos nesaf.
Mae’r cyngor gwyddonol a meddygol yn dangos, ar y cyfan, bod y lefelau o drosglwyddo’r coronafeirws yn isel yng Nghymru. Mae’n ymddangos bod yr achosion yn Wrecsam, yn Ysbyty Maelor yn benodol, yn awr o dan reolaeth. Rydym felly wedi dod i’r casgliad bod hyblygrwydd i ailagor rhannau eraill o’r gymdeithas a’r economi.
O 10 Awst ymlaen, byddwn yn ailagor pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd dan do, sbâu, campfeydd a chanolfannau hamdden, yn ogystal ag ardaloedd chwarae dan do i blant.
Wrth inni symud i gam gwyrdd ein system golau traffig, gyda mwyfwy o fangreoedd, gweithleoedd a lleoliadau yn awr ar agor, rhaid inni sicrhau bod pobl a busnesau yn cydymffurfio â’r Rheoliadau ac yn dilyn y canllawiau ar weithredu’n ddiogel yng ngoleuni COVID-19.
Er bod y rhan fwyaf yn cydymffurfio â’r Rheoliadau, nid pawb sy’n gwneud hynny. O ganlyniad, rydym yr wythnos hon yn cryfhau’r darpariaethau ar orfodi’r Rheoliadau. Byddai hyn yn galluogi swyddogion gorfodaeth mewn awdurdodau lleol i nodi achosion o beidio â chydymffurfio. Byddant yn ceisio gwella’r sefyllfa ac yna, os yw’n angenrheidiol, byddant yn dyroddi hysbysiad gwella mangre. Bydd yr hysbysiadau hyn yn tynnu sylw at achosion o dorri’r Rheoliadau ac yn pennu’r camau sydd i’w cymryd er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith. Os na chydymffurfir â Hysbysiad Gwella Mangre, neu os bydd achos o beidio â chydymffurfio yn ddigon difrifol, gellir cau mangreoedd drwy ddyroddi Hysbysiad Cau Mangre. Pan fydd yr hysbysiadau yn cael eu dyroddi, bydd arwyddion yn cael eu harddangos yn amlwg i roi gwybod i’r cyhoedd bod angen gwella’r fangre neu fod y fangre wedi gorfod cau.
Rydym yn parhau i edrych a allwn wneud newidiadau i’r rheolau ynghylch pobl yn ymgynnull dan do a byddwn yn darparu rhagor o fanylion ynghylch hyn yr wythnos nesaf. O ystyried ein bod wedi gweld tonnau newydd o’r feirws mewn ardaloedd eraill yn y DU ac ar draws y byd, a bod y risg o drosglwyddo’r feirws yn uwch wrth ymgynnull dan do, rydym yn parhau i ymateb yn ofalus. Os bydd yr amodau yng Nghymru yn gwaethygu, efallai y bydd rhaid inni wrthdroi’r camau hyn, neu gamau eraill, sydd wedi’u cymryd i lacio’r cyfyngiadau.
Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu – mae pob un ohonom yn rhannu dyletswydd barhaus i ddiogelu Cymru.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.