Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Yn fy natganiad llafar ar 21 Chwefror 2012, cyhoeddais y byddai adolygiad yn cael ei gynnal er mwyn ystyried y cyfleoedd i sicrhau bod ein polisi caffael cyhoeddus yn cael mwy fyth o effaith yng Nghymru.
Mae’r cynnydd yr ydym ni wedi’i wneud hyd yma drwy ein polisi caffael cyhoeddus yn fy nghalonogi. Mae’n bryd yn awr i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Rwyf wedi cytuno ar Gylch Gorchwyl yr adolygiad ac fe’i nodir isod:
Adolygiad: Sicrhau bod Polisi Caffael Llywodraeth Cymru yn cael yr Effaith Fwyaf Posibl
Cylch Gorchwyl
Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni mae yna ddisgwyliadau uchel o ran yr hyn y gall caffael ei gynnig i Gymru. Gwerth Cymru yw’r is-adran o fewn Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am sicrhau bod y sector cyhoeddus yn cael mwy o effaith o’i wariant blynyddol o £4.3bn a gwella’r arferion a’r canlyniadau terfynol. Nid oes ganddo fandad ffurfiol, ac mae’n gweithredu gan fwyaf drwy ymgysylltu â sefydliadau’r sector cyhoeddus o fewn llywodraeth leol, y GIG, byd addysg a’r gwasanaethau brys, ynghyd â busnesau. Mae hefyd yn gwneud rhywfaint o waith sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau a chontractio uniongyrchol.
Dyma’r amser iawn i ystyried effeithiolrwydd Caffael y Sector Cyhoeddus yng Nghymru yn gyffredinol, a sut y gall caffael gael yr effaith fwyaf posibl. Bydd yr Adolygiad yn ystyried a yw model gweithredu Llywodraeth Cymru, ynghyd â’r adnoddau, yn briodol; a yw’r adnodd canolog yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol; a yw’r adnodd sector cyhoeddus ehangach yn ddigonol; a yw polisïau eraill Llywodraeth Cymru yn cydweddu’n briodol; ac a yw caffael y Sector Cyhoeddus yng Nghymru yn sicrhau gwerth am arian ac yn cael yr effaith fwyaf posibl ar dwf economaidd.
O ganlyniad, bydd yr Adolygiad yn ystyried:
- Y cynlluniau cyfredol i roi’r agweddau caffael ar y Rhaglen Lywodraethu ar waith
- Y patrwm caffael a’r modelau gweithredu
- Dulliau mesur
- Data
- Dulliau cyfathrebu
- Cyfyngiadau ar weithredu
- Cyd-ddibyniaeth (o fewn portffolios Llywodraeth Cymru ac ar draws y sector cyhoeddus ehangach)
- Pa mor hawdd y gellir cyflawni’r amcanion
Bydd yn cymharu ac yn meincnodi’r model darparu, yr adnoddau a’r canlyniadau yn erbyn Llywodraeth yr Alban ac unrhyw ffynonellau data tebyg eraill.
Bydd yn ystyried y gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd i ddylanwadu ar strategaeth y dyfodol gan gynnwys:
- Achos busnes amlinellol y gwasanaeth caffael cenedlaethol (caffael cydweithredol);
- Prosiect Dyfodol cyfnewidcymru (e-gaffael);
- Y prosiect Rhagoriaeth ym maes Caffael (caffael mewnol o fewn Llywodraeth Cymru);
- Y newidiadau posibl yn sgil cyfarwyddebau newydd yr UE yn 2013;
- Ymchwil i ddehongli a chymhwyso rheolau caffael yr UE / DU;
- Ymrwymiadau polisi cyfredol (gan gynnwys cynllun gweithredu gwrthdlodi, adfywio economaidd, adroddiad microfusnesau, gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ac adolygiad Simpson);
- Yr argymhellion ar gaffael y sector cyhoeddus yn yr Adroddiad Gorchwyl a Gorffen ar Ficrofusnesau a lansiwyd ar 18 Ionawr
- adborth y Paneli Sector (ee Adeiladu).
Rhoddir adroddiad ar y canfyddiadau ynghyd ag unrhyw argymhellion i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ.
Rwyf wedi penodi John McClelland, CBE, i gynnal yr adolygiad. Mae gan John brofiad helaeth o’r sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae wedi dal swyddi uchel yn y diwydiant electroneg o fewn IBM, DEC, Philips a 3Com. Ar hyn o bryd ef yw Cadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Bellach ac Uwch yr Alban. Fe gwblhaodd adolygiad o gaffael cyhoeddus yn yr Alban (Adroddiad McClelland) yn 2006 a’r adolygiad o seilwaith TGCh sector cyhoeddus yr Alban yn 2011.Bydd yr adolygiad yn dechrau ym mis Mawrth a bydd wedi dod i ben erbyn Toriad yr Haf ym mis Gorffennaf. Byddaf yn gwneud datganiad pellach wedi hynny.