Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y Fonesig Judith Hackitt ei hadroddiad ar y systemau cyfredol ym maes rheoliadau adeiladau a diogelwch tân. Comisiynwyd yr adroddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn sgil trychineb Tŵr Grenfell. Gan fod y systemau dan sylw yn debyg yng Nghymru a Lloegr, dyma nodi ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru.

Mae’r adroddiad yn un heriol, ac mae hynny’n gwbl briodol. Cydnabyddir yn yr adroddiad bod y ffactorau sy’n achosi trasiedi ar raddfa Tŵr Grenfell yn niferus a chymhleth. Nid yw’r adroddiad yn rhoi’r holl fai ar sefydliadau penodol. Yn hytrach, mae’n dadlau’n gryf bod methiannau systemig difrifol a sylfaenol i’w cael. Ceir agweddau, gwerthoedd a diwylliannau ym maes adeiladu, tai a diogelwch tân nad ydynt yn rhoi’r ystyriaeth ddyledus i ddiogelwch. Hefyd, mae’r prosesau archwilio, rheoleiddio a gorfodi ym maes diogelwch tân yn gymhleth, beichus ac aneffeithiol.

Rydym ni’n gytuno â’r dadansoddiad cyffredinol hwn.

Adeilad diogel yw adeilad a gaiff ei adeiladu, ei reoli a’i feddiannu gan roi’r pwys mwyaf ar ddiogelwch, nid ar elw, cyfleustra nac arferion sydd wedi dyddio. Heb y math o newidiadau y mae’r Fonesig Judith Hackitt yn galw amdanynt, ni allwn fyth fod yn hollol siŵr o hyn. Yn bwysicach, ni all preswylwyr fod yn hollol dawel eu meddwl – ac mae trasiedi’r flwyddyn ddiwethaf wedi peri cryn bryder i lawer.

Rwyf felly yn cyhoeddi ein bwriad i ddiwygio’r system reoleiddio yn y ffordd radical, bellgyrhaeddol y mae’r Fonesig Judith yn galw amdani. Bydd ein diwygiadau yn cwmpasu’r holl weithdrefnau perthnasol, gan gynnwys diogelwch tân, rheoliadau adeiladu a safonau tai, a’r nod fydd eu symleiddio, eu cryfhau a’u hintegreiddio yn unol ag argymhellion yr adroddiad. Bydd y gwaith hwn yn rhoi sylw i bob adeilad, nid dim ond blociau o ryw uchder penodol. Er nad ydym am gyflwyno rheoliadau sy’n anghymesur â’r risg, ni allwn chwaith dderbyn system nad yw’n gweithio ac sy’n peryglu dioglewch ein dinasyddion.  

Mae yna rai materion penodol sydd angen sylw ar frys. Osgôdd y Fonesig Judith gyfeirio at faterion penodol ar bwrpas, ee deunydd inswleiddio a chladin llosgadwy. Roedd yn iawn i nodi bod methiannau sylfaenol o ran diwylliant a’r system reoleiddio yn gallu caniatáu i arferion anniogel barhau ac i gynhyrchion anniogel ddal i gael eu defnyddio, ac y bydd y methiannau hynny yn dod i’r amlwg mewn ffyrdd eraill oni bai ein bod yn mynd i’r afael yn benodol â nhw. Ond ni allaf anwybyddu’r risgiau a’r pryder amlwg ymhlith y cyhoedd. Yn amodol ar ganlyniad ymgynghoriad i’r mater, y mae’n rhaid inni ei gynnal yn ôl y gyfraith, awn ati i wahardd y defnydd o bob deunydd inswleiddio a chladin llosgadwy yn y maes adeiladu yng Nghymru cyn gynted â phosibl.

Adroddiad ar gyfer Llywodraeth y DU oedd adroddiad y Fonesig Judith, ac roedd yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol yn Lloegr. Er bod y fframwaith statudol yn debyg yma, mae ein sefydliadau, ein stoc dai a’n risgiau yn wahanol. Ni allwn dderbyn holl argymhellion y Fonesig Judith yn ddigwestiwn. Rhaid inni eu hystyried yng ngoleuni ein cyd-destun ein hunain.  
Mae Prif Weinidog Cymru wedi gofyn imi, felly, gadeirio grŵp arbenigol i ddatblygu’r argymhellion hynny yn newidiadau ymarferol i’r gyfraith, i bolisïau ac i arferion yng Nghymru.  

Rwy’n gobeithio cwblhau’r gwaith hwn, a chyflwyno cynigion manwl, erbyn diwedd y flwyddyn. Byddaf yn rhoi gwybodaeth reolaidd i’r Aelodau yn y cyfamser wrth gwrs.