Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Ar 22 Mehefin cyhoeddais y byddai adolygiad o'r holl gynlluniau ffyrdd newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gynnal, gan banel o arbenigwyr blaenllaw ar drafnidiaeth a newid hinsawdd. Bydd y Panel, dan gadeiryddiaeth Dr Lynn Sloman MBE, yn gosod profion i nodi pryd mai ffyrdd newydd yw’r ateb cywir i ddatrys problemau trafnidiaeth, yn unol â Llwybr Newydd, Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Mae'r argyfwng hinsawdd yn ei gwneud yn hanfodol ein bod yn osgoi buddsoddiadau sy'n cynyddu allyriadau carbon, yn enwedig yn y 15 mlynedd nesaf pan fydd y rhan fwyaf o geir sydd ar y ffordd yn dal i fod yn gerbydau petrol a diesel.
Mae Cyngor Gwynedd wedi datblygu Cynllun Ffordd Fynediad Llanbedr gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru. Gan fod y gwaith o baratoi’r cynllun bellach yn y camau terfynol, gofynnwyd i gadeirydd y panel gynnal adolygiad cyflym o gynllun Llanbedr.
Rwyf wedi derbyn ac wedi adolygu adroddiad y cadeirydd.
Roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar ddau gwestiwn:
- A yw atebion nad ydynt yn ymwneud â thrafnidiaeth, ac atebion ar wahân i gynyddu’r capasiti ar gyfer ceir preifat ar y rhwydwaith ffyrdd wedi cael eu hystyried yn ddigon?
- A yw unrhyw gynnydd mewn allyriadau CO2 ar y rhwydwaith ffyrdd, neu unrhyw rwystrau sylweddol i’r gwaith o gyflawni ein targedau ar gyfer datgarboneiddio wedi cael eu hystyried yn ddigon?
Roedd yr adolygiad hwn o gynllun Llanbedr hefyd yn ystyried y nodau llesiant ar gyfer Cymru; Llwybr Newydd, y Strategaeth Drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru; Cymru'r Dyfodol; Polisi Cynllunio Cymru; y cynllun gweithredu carbon isel sydd ar y gweill ar gyfer Cymru Sero-net; a’r adolygiad presennol o brosesau arfarnu trafnidiaeth WelTAG.
Ymwelodd Cadeirydd y Panel â Llanbedr i weld lleoliad y cynllun ffordd, a chyfarfu â swyddogion Cyngor Gwynedd, Aerospace Cymru, a swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddatblygu rhanbarthol, trawsnewid diwydiannol a seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru. Derbyniwyd sylwadau ysgrifenedig gan Gymdeithas Eryri.
Mae adroddiad y cadeirydd yn dod i’r casgliad nad yw'r cynllun arfaethedig yn cyd-fynd yn dda â pholisïau trafnidiaeth a hinsawdd newydd Llywodraeth Cymru, ac yn argymell na ddylai gael ei ddatblygu.
Mae’r adroddiad ar gael yma: Panel Adolygu ffyrdd: ffordd osgoi a ffordd fynediad Llanbedr.
Rwyf wedi derbyn argymhellion y cadeirydd Panel ac ni fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw waith pellach ar Gynllun presennol Ffordd Fynediad Llanbedr.
Fodd bynnag, rwy’n ymrwymedig i ddarparu cyllid ar gyfer datblygu a gweithredu pecyn amgen o fesurau i fynd i'r afael ag effaith negyddol traffig yn Llanbedr ac mewn pentrefi eraill ar yr A496, wrth ar yr un pryd annog pobl i newid y ffordd maent yn teithio a lleihau allyriadau CO2. Gall y pecyn hefyd ystyried gofynion mynediad i'r maes awyr i gefnogi datblygiadau cysylltiedig. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion weithio gyda Chyngor Gwynedd i gomisiynu Trafnidiaeth Cymru i ddatblygu pecyn amgen i'w ystyried, yn unol ag argymhellion y cadeirydd. Bydd unrhyw gyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y pecyn hwn yn cael ei roi drwy'r Gronfa Trafnidiaeth Leol ac yn amodol ar y broses ymgeisio arferol.