Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi adolygiad a diweddariad o’n cynllun 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar. 

Wedi’i gyhoeddi yn 2017, mae’r cynllun yn nodi ein huchelgais i blant o bob cefndir gael y dechrau gorau mewn bywyd, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwireddu eu potensial yn llawn a byw bywyd iach, llewyrchus a llawn. Mae sicrhau bod gennym weithlu medrus a chymwysedig iawn sydd wedi’i gefnogi’n llawn yn hollbwysig o ran cyflawni hyn.

Cafodd y camau a nodir yn y cynllun eu datblygu i gydnabod yr heriau niferus yr oedd y sector yn eu hwynebu yn 2017 ac i gefnogi’r broses o gyflwyno Cynnig Gofal Plant Cymru. Rwy’n falch ein bod wedi gwneud cynnydd i gyflawni llawer o’r rhain o dan themâu allweddol y cynllun, gan gynnwys:

Denu recriwtiaid newydd o ansawdd uchel: 

  • Ariannu Gofal Cymdeithasol Cymru i ddatblygu fframwaith denu a recriwtio GofalwnCymru
  • Gweithio gyda chydweithwyr ym maes cyflogadwyedd i ddenu unigolion i faes gofal plant drwy Cymru’n Gweithio, Porth Sgiliau a ReAct+.
  • Sefydlu Grŵp Llywodraethu Gofal Plant a Chwarae Cymru Wrth-hiliol dynodedig i fynd ar drywydd camau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.

Codi safonau a sgiliau: 

  • Adolygu a diweddaru’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol er mwyn sicrhau bod safonau a gofynion o ran staff a lleoliadau yn addas at y diben.
  • Cyflwyno cyfres newydd o gymwysterau gofal plant dwyieithog o Lefel 2 i 5.
  • Gweithio gyda Chwarae Cymru a Chyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru i ddatblygu cymwysterau gwaith chwarae allweddol. 

Buddsoddi mewn meithrin gallu a galluogrwydd

  • Cyflwyno rhyddhad ardrethi busnes o 100% i bob safle gofal dydd llawn cofrestredig. Yn dilyn adolygiad, mae’r rhyddhad hwn, a gyflwynwyd am dair blynedd yn wreiddiol (2019-22), wedi’i ymestyn am dair blynedd arall tan fis Mawrth 2025.
  • Gweithio gyda Busnes Cymru i ddarparu dau grant cymorth busnes (rhwng 2019 a 2022) gyda’r nod o gefnogi gwarchodwyr plant newydd a galluogi darparwyr gofal plant presennol i ehangu eu busnes drwy gyflogi staff newydd. 
  • Cysoni’r cyfraddau cyllido yr awr ar gyfer Darpariaeth Feithrin y Cyfnod Sylfaen a’r Cynnig Gofal Plant er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch ar draws y sector.

Mae’r cynllun gweithlu 10 mlynedd diweddaredig yn cefnogi ac yn adeiladu ar yr egwyddorion, y gwerthoedd a’r camau gweithredu a nodir yn y Cynllun Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru a gyhoeddwyd ar 15 Mawrth. Mae’n rhoi rhagor o fanylion ynghylch y camau y byddwn yn eu cymryd i ddatblygu gweithlu gofal plant a gwaith chwarae gwerthfawr ac amrywiol ac yn adlewyrchu ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu gyfredol a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol. Mae’r diweddariad hefyd yn ein galluogi i dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae’r gweithlu yn ei chwarae i gefnogi plant a’u teuluoedd.

Nid yw ein gweledigaeth ar gyfer ein gweithlu wedi newid; ac mae ein bwriad polisi yn parhau’n gadarn – rydym wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â chamau gweithredu sy’n canolbwyntio ar ddenu recriwtiaid newydd o ansawdd uchel, codi safonau a sgiliau ac adeiladu gallu a galluogrwydd.   

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl randdeiliaid allweddol sy’n parhau i fod yn ymrwymedig i weithio ar y cyd â ni i sicrhau bod y camau a gymerwn dros weddill oes y cynllun yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae’r gweithlu’n ei wneud i blant a theuluoedd ledled Cymru.