Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r Datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am nifer o faterion yn ymwneud â chynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Yn gyntaf, heddiw rydym yn cyhoeddi adolygiad ddiwedd tymor y Cynulliad o’n cynnydd tuag at roi’r camau ar waith a nodwyd yn y Fframwaith ar gyfer Gweithredu ‘Teithio at Ddyfodol Gwell’, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2011 yn wreiddiol.

Roedd y Cynllun Cyflenwi sy’n cyd-fynd â’r Fframwaith yn cynnwys 17 amcan, gyda phob un yn cynnwys sawl cam gweithredu. Roeddem wedi ymrwymo i roi’r camau gweithredu hyn ar waith er mwyn gwella cynhwysiant cymdeithasol Sipsiwn a Theithwyr. Rydym wedi gwneud cynnydd mawr tuag at gyflawni llawer o’r amcanion hyn, gan gynnwys y llwyddiant nodedig o’i gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol ddarparu safleoedd i Sipsiwn a Theithwyr lle bo angen wedi’i nodi, a chyflwyno diogelwch deiliadaeth ar gyfer trigolion ar safleoedd sydd eisoes yn bodoli.

Bydd cyhoeddi ‘Teithio at Iechyd Gwell’ yn cynorthwyo Byrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau i gynnal asesiadau priodol o anghenion iechyd cymunedau Sipsiwn a Theithwyr. Bydd cyhoeddi ‘Teithio Gyda’n Gilydd’ a’r pecyn cymorth Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb mewn ysgolion yn gwella dealltwriaeth o Sipsiwn, Roma a Theithwyr, sicrhau bod y cwricwlwm yn fwy perthnasol i ddisgyblion o’r cymunedau hyn a helpu athrawon i sicrhau bod y disgyblion hyn yn ymgartrefu yn yr ysgol.

Yn ystod tymor y Cynulliad hwn, rydym wedi gwario llawer mwy ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr sydd eisoes yn bodoli a safleoedd newydd, gan gynnwys datblygu safleoedd Awdurdodau Lleol newydd am y tro cyntaf ers 1997 – yn Aberhonddu (2014) a Chonwy (2016).

Yn ogystal, mae hyfforddiant ar gyfrifoldebau cynghorwyr o dan Ran 3 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 wedi’i ddarparu i bron i 200 o aelodau etholedig, gyda thua 80% o’r rhai a gwblhaodd y gwerthusiad yn nodi eu bod yn deall eu cyfrifoldebau newydd yn hyderus.

Rydym wedi darparu cyllid drwy’r Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant ar gyfer prosiect Achub y Plant, ‘Teithio Ymlaen’ er mwyn cefnogi ymwybyddiaeth o hawliau a chyfranogiad ymysg Sipsiwn a Theithwyr newydd. Mae hyn wedi arwain at ddatblygu Fforwm Ieuenctid Cenedlaethol lle mae aelodau cymunedau yn gallu trafod y materion sy’n bwysig iddynt gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Hefyd, mae’r prosiect ‘Teithio Ymlaen’ yn derbyn cyllid i’w sefydlu ei hun fel canolfan adrodd trydydd parti ar gyfer troseddau casineb, a ddylai arwain at fwy o bobl yn rhoi gwybod am droseddau casineb yn y cymunedau hyn.

Fodd bynnag, mae angen gwneud llawer mwy o hyd i herio enghreifftiau o anghydraddoldeb sylfaenol y mae cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn ei ddioddef. Mae cyfraddau presenoldeb a chyflawniad addysgol yn isel o hyd, mae canlyniadau iechyd yn waeth a lefelau diweithdra yn uwch na’r boblogaeth gyffredinol, ac mae gwahaniaethu yn digwydd yn rheolaidd o hyd. Bydd angen gwneud rhagor o waith yn nhymor nesaf y Cynulliad i sicrhau cynnydd tuag at gydraddoldeb ar gyfer y grwpiau hyn.

Hefyd, heddiw rydym yn cyhoeddi Crynodeb o’r Ymgynghoriad ar ein cais diweddar am gynigion ar gyfer strategaeth Roma mudol i Gymru. Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn parhau i gael eu dadansoddi er mwyn ystyried a oes angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu mesurau penodol yn nhymor nesaf y Cynulliad.

Fodd bynnag, mae’r Crynodeb o’r Ymgynghoriad yn dangos yn glir bod y rhan fwyaf o’r rhanddeiliaid a ymatebodd yn credu bod angen cynigion penodol i gefnogi cymunedau Roma mudol.