Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi’r adroddiad olaf o’r Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru, a gadeiriwyd gan Syr Ian Diamond.  Rwyf yn ddiolchgar i’r Athro Diamond ac i holl aelodau’r panel am roi amser ac ymdrech i’r Adolygiad ers iddo ddechrau ym mis Ebrill 2014.  

Yn y cyfarfod llawn y prynhawn yma, byddaf yn gwneud datganiad am yr adroddiad ac yn ateb cwestiynau amdano.

Rwyf wedi rhoi fy nghefnogaeth i’r egwyddorion sy’n sail i’r adroddiad. Yn awr, af ati i ystyried goblygiadau ymarferol rhoi’r argymhellion ar waith. Bydd Llywodraeth Cymru’n trafod hyn gyda  Thrysorlys ei Mawrhydi cyn llunio ein hymateb ffurfiol.