Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 9 Ionawr fe wnes i Ddatganiad mewn ymateb i’r llifogydd ar yr arfordir ym mis Rhagfyr 2013 ac Ionawr 2014. Gofynnais i Cyfoeth Naturiol Cymru gynnal adolygiad ar y cyd â phob awdurdod arfordirol yng Nghymru. Heddiw, rwy’n cyhoeddi rhan gyntaf yr adolygiad hwnnw, sy’n canolbwyntio ar effeithiau, difrod a chostau’r gwaith o atgyweirio ac adfer yr amddiffynfeydd arfordirol ar ôl stormydd Rhagfyr 2013 ac Ionawr 2014. Mae hefyd yn ystyried pa mor effeithiol oedd y rhwydwaith cenedlaethol o amddiffynfeydd arfordirol.

Mae’n dda gen i gyhoeddi bod cyfanswm o dros £4.6 miliwn yn cael ei neilltuo yn y flwyddyn ariannol hon ar gyfer gwaith atgyweirio ar ôl llifogydd.  Rwy’n cydweithio  â’r Gweinidog Cyllid, sy’n cydlynu’r cyfan o’r cyllid a roddir gan Lywodraeth Cymru i ymateb i’r heriau mawr hyn, ac â Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon a’r Gweinidog Tai ac Adfywio i sicrhau bod ein cymunedau’n gallu dal ati i wrthsefyll digwyddiadau fel hyn. Cyhoeddais £2 filiwn o gyllid ar gyfer gwaith atgyweirio brys ar 22 Ionawr. Byddaf yn awr yn darparu £1 miliwn arall o gyllid grant i helpu gyda’r gwaith o adfer yr amddiffynfeydd arfordirol a ddifrodwyd yn ystod y stormydd. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda’r awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i dalu costau’r gwaith a nodir yn yr adolygiad i atgyweirio’r amddiffynfeydd arfordirol.

Mae’r cymorth ariannol hwn sy’n cynnwys yr £1.6 miliwn i helpu twristiaeth a busnesau. Bydd yn sicrhau bod ein cymunedau arfordirol yn cael adferiad llwyr ac yn gallu dal ati i wrthsefyll stormydd a digwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Yn ogystal â’r pecyn cymorth gwerth £4.6m a roddir y flwyddyn ariannol hon, mae Llywodraeth Cymru’n ystyried yr opsiynau ar gyfer talu gweddill y costau atgyweirio a nodir yn yr adolygiad, sy’n ychwanegol at y cynlluniau rheoli perygl llifogydd a drefnwyd eisoes ar gyfer 2014-15.

Byddwn hefyd yn rhoi cymorth i dalu am y gwaith o drwsio Llwybr Arfordir Cymru sy’n atyniad pwysig i dwristiaid.

Hoffwn ddiolch i Cyfoeth Naturiol Cymru am gydweithio’n agos â’r awdurdodau lleol, y cyfleustodau a phartneriaid perthnasol i baratoi rhan gyntaf yr adolygiad hwn mor gyflym er mwyn rhoi darlun cyflawn o’r llifogydd ledled Cymru.

Roedd y stormydd a’r tywydd mawr ar yr arfordir ar 5 Rhagfyr ac ar ddechrau mis Ionawr yn waeth nag a welwyd ers blynyddoedd lawer. Cafwyd difrod helaeth ac effeithiau ar draws ein harfordir a’n cymunedau lleol. Ym mis Rhagfyr cafwyd llifogydd mewn 155 o gartrefi a busnesau ac mewn 150 eiddo arall ym mis Ionawr. Difrodwyd strwythurau amddiffynfeydd arfordirol mewn 150 o leoliadau a bu’n rhaid symud pobl allan o 1400 safle ar draws Cymru.

Er bod y difrod wedi bod yn sylweddol, mae’n bwysig ystyried yr effeithiau hyn yng nghyd-destun y seilwaith amddiffyn arfordirol cenedlaethol. Yn ystod y stormydd hyn, llwyddwyd i arbed y cyfan bron o’r eiddo a thir amaethyddol oedd yn wynebu perygl llifogydd - llai nag 1% yn unig a fu dan ddŵr. Y buddsoddiad sylweddol yn yr amddiffynfeydd o amgylch ein harfordir oedd i’w gyfrif am hyn, yn ogystal â’r ffaith bod y dulliau darogan, yr ymwybyddiaeth a’r gallu i wrthsefyll llifogydd yn ein cymunedau wedi gwella erbyn hyn.

Mae’r asesiad o nifer yr eiddo a ddiogelwyd rhag llifogydd ar yr arfordir yn dangos fel a ganlyn:

  • Gallai dros 24,000 eiddo fod wedi dioddef llifogydd yn y Gogledd ym mis Rhagfyr;
  • Gallai dros 50,000 o eiddo fod wedi dioddef llifogydd yn ystod mis Ionawr ledled Cymru;
  • Gwarchodwyd 34,000ha o dir amaethyddol rhag llifogydd ym mis Ionawr.

Gwyntoedd cryfion a thonnau mawr ynghyd â llanw uwch na’r cyffredin a achosodd y llifogydd ar y ddau achlysur. Ym mis Rhagfyr cafwyd y llanw uchaf ym Mae Lerpwl ers gosod mesuryddion llanw yno 21 mlynedd yn ôl. Ym mis Ionawr, roedd  lefel y môr yn Aberdaugleddau, Casnewydd ac Abermaw yn uwch nag a gofnodwyd ers 1997.

Yn ôl amcangyfrifon yr awdurdodau lleol a CNC, bydd y gwaith o atgyweirio’r amddiffynfeydd arfordirol ar unwaith yn costio  £8.1miliwn. Yn ychwanegol at hyn, mae’r awdurdodau wedi nodi oddeutu £3miliwn o gostau eraill o ganlyniad i ddifrod y stormydd.  

Mae llawer o’r gwaith atgyweirio brys wedi’i gwblhau eisoes a nodwyd ei fod wedi dal yn dda yn erbyn y llanw uchel a’r stormydd ddechrau mis Chwefror, yn enwedig yn Aberystwyth, Borth ac Aberaeron. Rwy’n hynod ddiolchgar i bawb a gyfrannodd i sicrhau bod y gwaith atgyweirio hollbwysig hwn yn cael ei orffen mewn pryd. Dylai pob cais am gyllid uniongyrchol ar gyfer y gwaith hwn gael ei anfon at fy swyddogion.

Er gwaethaf toriadau cyllid Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae Llywodraeth Cymru’n cynyddu ei chyllidebau i atal llifogydd ac erydu arfordirol. Dros gyfnod y llywodraeth hon, byddwn wedi buddsoddi dros £240 miliwn mewn mesurau i amddiffyn rhag llifogydd a diogelu’r arfordir. Hefyd, byddwn yn derbyn dros £50 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, gan leihau’r peryglon i dros 7,000 o gartrefi a busnesau ar draws Cymru.

Bydd stormydd mawr fel hyn yn digwydd yn fwy aml wrth i’r hinsawdd newid a lefel y môr godi, a bydd yr effeithiau ar ein traethlin yn dod yn fwy a mwy amlwg. Rhaid inni gydnabod na allwn fforddio amddiffyn arfordir Cymru yn ei gyfanrwydd - nid yw hynny’n gynaliadwy. Yn hytrach, wrth reoli llifogydd ac erydu arfordirol rhaid inni seilio ein dulliau ar y risgiau a chynyddu cadernid ein harfordir gan gydweithio ag eraill i ymateb i’r heriau hyn.

Mae’n bwysig cynnal adolygiadau fel hyn er mwyn dod i ddeall yr effeithiau ar draws y wlad a dysgu’r gwersi a fydd yn ein helpu i wrthsefyll digwyddiadau tebyg yn y dyfodol a lleihau’r peryglon i’n cymunedau lle bynnag y bo modd.  Byddwn yn gallu paratoi’n well ar gyfer y dyfodol. Hoffwn ddiolch i Cyfoeth Naturiol Cymru  ac i’r awdurdodau lleol am eu gwaith hyd yn hyn. Yn ail ran yr adolygiad, edrychir yn fwy manwl ar y digwyddiadau hyn a’n hymateb iddynt a gwneir argymhellion ar gyfer y dyfodol.