Jeremy Miles AC, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit
Ddechrau’r flwyddyn, ar y cyd â Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, lansiais adolygiad cyflym o gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector cyfreithiol yng Nghymru. Rwy’n falch o allu adrodd bod yr adolygiad hwnnw bellach wedi’i gwblhau a bod y paratoadau terfynol yn cael eu gwneud i gyhoeddi’r adroddiad. Byddaf yn sicrhau ei fod ar gael i’r Aelodau cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl. Hoffwn gofnodi fy niolch i Tony Williams o Jomati Consultants LLP a’i dîm am gynnal yr adolygiad.
Cafodd yr adolygiad ei ysgogi wrth i’r Llywodraeth a’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru fwrw ati i ystyried amryw o faterion sy’n gysylltiedig â’i gilydd. Mae canfyddiadau’r adolygiad yn cael eu rhannu â’r Comisiwn ac rwy’n gobeithio y bydd yn chwarae rôl allweddol wrth iddynt ystyried dyfodol y system gyfiawnder yng Nghymru.
Bu’r adolygiad yn un eang ei gwmpas ac ystyriwyd, ymhlith materion eraill, ddatblygu gweithgareddau cyfraith fasnachol ymhellach, pwysigrwydd y Bar, arloesi er mwyn ymateb i’r datblygiadau mewn technoleg, effaith caffael gyhoeddus a’r goblygiadau posibl o greu awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig. Mae’n anorfod, fodd bynnag, yn sgil yr amserlen fer ar gyfer cynnal yr adolygiad a’i gylch gorchwyl eang, fod rhai meysydd lle na fu’n bosibl i’r ymgynghorwyr ddarparu argymhellion cadarn. Mae hyn yn arbennig o wir o ran y ffordd y mae cyfreithwyr yn chwarae rôl gymdeithasol mor hanfodol i ddarparu gwasanaethau cyfreithiol mewn cymunedau lleol, a sut y gallwn ni feithrin arferion da sy’n dod i’r amlwg wrth gynnig prentisiaethau cyfreithiol. Byddaf yn ystyried y materion hyn ymhellach maes o law.
Bydd rhaid inni ystyried canfyddiadau’r adolygiad yn fanwl, ynghyd ag argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder, cyn darparu ymateb manylach. Fodd bynnag, mae’n glir imi o’m hystyriaeth gychwynnol fod rhai camau y gallwn ni eu cymryd ar unwaith i helpu i gefnogi’r sector cyfreithiol.
Daethpwyd i’r casgliad yn yr adroddiad mai ychydig iawn o effaith yn unig yr oedd pŵer prynu Llywodraeth Cymru yn debygol o’i chael ar y sector. Serch hynny, fodd bynnag, gwnaed argymhellion hefyd ar gyfer gwella’r ffordd yr ydym yn cael cyngor cyfreithiol, yn enwedig gan y Bar. Rwyf wedi gofyn i swyddogion yn yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol adolygu’r trefniadau ar gyfer pennu union aelodaeth ein panel o gwnsleriaid, a’r nod yw defnyddio mwy o fargyfreithwyr lleol er mwyn cefnogi a meithrin gallu’r Bar yng Nghymru.
Mae’r adroddiad hefyd yn trafod yn fras sut y gallwn annog mewnfuddsoddiad. Mae rhai argymhellion ynghylch sefydlu canolfannau gwasanaethau amlddisgyblaethol (‘nearshoring’) ar gyfer cwmnïau cyfreithiol a chwmnïau eraill o ddiddordeb arbennig. Rydym yn gwerthfawrogi nad yw canolfannau gwasanaethau o reidrwydd yn helpu o safbwynt cadernid y sector cyfreithiol, gan eu bod yn gweithredu o bell ac yn gwasanaethu busnesau byd-eang. Rydym yn gweld, fodd bynnag, fod mewnfuddsoddiad o’r fath yn werthfawr er mwyn darparu marchnad gyflogaeth fwy ffyniannus a allai helpu i gadw mwy o’n talent gyfreithiol yma yng Nghymru. Mae swyddogion yng Ngrŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol yn ystyried sut fyddai orau inni ymgysylltu â’r sector, ar lefel swyddogion a Gweinidogion, er mwyn meithrin cyfleoedd yn y maes hwn.
Mae llawer mwy o waith i’w wneud eto yn amlwg. Rwy’n benderfynol y dylem wneud popeth yn ein gallu i annog sector cyfreithiol ffyniannus a chynaliadwy a fydd yn gallu bodloni’r galwadau heddiw yn ogystal â pharatoi ar gyfer gofynion awdurdodaeth Gymreig bosibl yn y dyfodol. Wedi inni ystyried yr adroddiad yn llawn, ynghyd ag argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder, byddaf yn rhoi mwy o wybodaeth i’r Aelodau am sut yr ydym yn symud ymlaen gyda’r gwaith hwn.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.