Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AC, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog Brexit

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf yn falch o fedru cyhoeddi fy mod, ar y cyd â Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi lansio adolygiad o gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector cyfreithiol yng Nghymru. Bydd yr adolygiad hwn yn canolbwyntio'n benodol ar sut y gellir cynnig cymorth i'r sector cyfreithiol wynebu'r heriau sy'n ei wynebu ar hyn o bryd, a'r rheini a fydd yn ei wynebu yn y dyfodol, gan gynnwys y rheini sy'n gysylltiedig â'r modelau busnes sy’n newid, y cyfnod pontio wrth i'r DU ymadael â'r UE, datblygiadau technolegol, a meithrin gallu er mwyn bod yn barod ar gyfer datblygiadau posibl yn y dyfodol o ran yr awdurdodaeth gyfreithiol.   

Bydd yr Aelodau'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2017 i edrych ar sut y mae'r system gyfreithiol a'r system gyfiawnder yn gweithio yng Nghymru, ac i bennu gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol.

Drwy fy ymwneud â'r sector cyfreithiol ledled Cymru yn y gorffennol, rwyf wedi meithrin dealltwriaeth ehangach o'r amryfal heriau sy'n wynebu'r sector. Fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i waith y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, sy'n dal i fynd rhagddo, mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a mi yn bwriadu defnyddio'r adolygiad hwn i fynd ati i nodi ac i roi amryfal bolisïau ar waith yn y dyfodol i gefnogi ac i ddatblygu'r sector, a hefyd ffyrdd newydd posibl i'r sector cyhoeddus gaffael gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru. Rwyf, felly, yn awyddus iawn i ganlyniadau'r adolygiad hwn lywio'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Comisiwn. 

Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal gan Tony Williams o Jomati Consultants LLP, gwasanaeth ymgynghori annibynnol sydd â gwybodaeth drylwyr am yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r sector cyfreithiol ar draws amrywiaeth o awdurdodaethau. Bydd yr ymgynghorwyr yn mynd ati yn ystod yr adolygiad i ymgysylltu â'r sector cyfreithiol mewn ffordd wedi'i thargedu.

Bydd cam cyntaf y gwaith adolygu wedi'i gwblhau erbyn dechrau mis Mawrth 2019, a'r ail wedi'i gwblhau erbyn diwedd mis Ebrill 2019. Rwyf yn bwriadu mynd ati'n rheolaidd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r gwaith adolygu fynd rhagddo a byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau am ganlyniad yr adolygiad ac am gynigion polisi yn y maes hwn yn y dyfodol.

Atodir y Cylch Gorchwyl yn Atodiad A.

Atodiad A

Adolygiad Cyflym - Cylch Gorchwyl

Fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi penderfynu cynnal adolygiad o gymorth Llywodraeth Cymru i'r sector cyfreithiol yng Nghymru drwy helpu i fodloni heriau presennol a heriau'r dyfodol, gan gynnwys y rhai hynny sy'n gysylltiedig â modelau busnes sy’n newid, y cyfnod pontio wrth i'r DU ymadael â'r UE, datblygiadau  technolegol, a meithrin gallu er mwyn bod yn barod ar gyfer datblygiadau posibl yn y dyfodol o ran yr awdurdodaeth gyfreithiol.  

Bydd yr adolygiad yn cynnwys:-

  1. y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar hyn o bryd i gefnogi'r sector cyfreithiol yng Nghymru;
  1. pa gamau fydd yn effeithiol (neu a fu yn effeithiol yn y gorffennol) a pha gamau sy'n llai effeithiol;
  1. pa gymorth fyddai'r sector cyfreithiol yn hoffi ei gael gan y Llywodraeth;
  1. a fyddai dull gwahanol o gaffael gwasanaethau cyfreithiol yn gyhoeddus yn hwyluso datblygiad perthynas wahanol rhwng Llywodraeth Cymru / cyrff cyhoeddus eraill â'r sector cyfreithiol yng Nghymru. Er enghraifft, dull o greu partneriaeth strategol i fod yn sail i ddatblygu "Awdurdodaeth" ar wahân neu unigryw o gymharu â perthynas traddodiadol/cyfyngedig  rhwng y cwmser â'r cyflenwr. A fyddai'r sector yn croesawu perthynas o'r fath?  Hefyd, sut fyddai'r dull hwn o weithio neu newidiadau eraill i'r polisi caffael cyhoeddus yn gwasanaethu amcanion y Cynllun Gweithredu Economaidd yn y ffordd orau;
  1. Pa gyfyngiadau (real neu ymddangosiadol) sy'n atal darparwyr gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru rhag ennill mwy o waith o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu allan;
  1. Sut y gellir defnyddio y polisi caffael cyhoeddus yn well i hwyluso'r broses o sicrhau mynediad at amcanion cyfiawnder  yn anuniongyrchol drwy ddarparu cyfleoedd a fyddai'n cyfrannu at amgylcheddau gweithredu mwy cynaliadwy i gwmnïau bach a gwledig;
  1. a allai rhagor o gydweithio o fewn y sector cyfreithiol a chyda sectorau eraill (gan gynnwys y sectorau addysg a hyfforddi) gefnogi ei ddatblygiad;
  1. pa gymorth sy'n debygol o fod yn effeithiol i helpu i fodloni'r heriau a'r cyfleoedd gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â:
  • Modelau busnes sy'n newid (gan gynnwys y rhai hynny sy'n codi o reoliadau sydd wedi newid ar gyfer cymwysterau ac arfer)
  • Y cyfnod pontio wrth i’r DU ymadael â'r UE a newidiadau cyfansoddiadol eraill gan gynnwys y posibilrwydd o ddatganoli cyfiawnder yn y dyfodol
  • datblygiadau mewn technoleg
  • posibilrwydd datblygiadau yn y dyfodol o safbwynt yr awdurdodaeth gyfreithiol.

Bydd yr adolygiad yn ystyried natur wahanol y sector cyfreithiol (o ran y gwasanaethau a'r lleoliad), a'r angen i deilwra y cymorth a'r caffael gan Lywodraeth Cymru o bosibl yn unol â hynny.

At ddibenion yr adolygiad, y sector cyfreithiol yw'r proffesiwn cyfreithiol (yn cynnwys bargyfreithwyr a chyfreithwyr), swyddogion gweithredol cyfreithiol a darparwyr gwasanaethau a thechnoleg eraill.

Amcanion

Darparu Llywodraeth Cymru gyda:

  • tystiolaeth i fod yn sail i bolisi newydd i roi cymorth uniongyrchol i'r sector cyfreithiol yng Nghymru, a pholisi o'r fath i fod yn bwrpasol i'r sector ond wedi'i osod o fewn cyd-destun Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru;
  • tystiolaeth i lywio dull newydd posibl o gaffael gwasanaethau cyfreithiol yng ngoleuni'r ffaith bod fframwaith presennol cyfreithwyr ar draws y sector cyhoeddus (wedi'i osod a'i reoli gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol), i gael ei adnewyddu yn 2019;
  • tystiolaeth i lywio dull newydd posibl o benodi y Cwnsel gan ystyried trefniadau presennol Cwnsel y Panel sy'n cefnogi Llywodraeth Cymru a threfniadau'r fframwaith a sefydlwyd gan y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol sy'n cefnogi'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru;
  • asesiad o'r camau y gall y sector cyfreithiol ei gymryd ei hun i ddatblygu ymhellach (gan gynnwys sefydlu canolfan neu frand o bosib ar gyfer y sector cyfreithiol) ac argymhellion ar gyfer sut y gall y llywodraeth ddefnyddio'r dulliau sydd ganddi i ddylanwadu ar ymddygiad o fewn y sector (gan gynnwys dulliau megis caffael, hyrwyddo y broses o drosglwyddo gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru i wlad arall o bosibl ac ariannu prentisiaethau cyfreithiol);
  • dealltwriaeth yn benodol o ba ddatblygiadau technolegol a dulliau arloesi eraill y gellir eu defnyddio i ddarparu gwell gwasanaethau i'r sector cyfreithiol yng Nghymru a chreu mantais gystadleuol;
  • argymhellion o sut y gall y sector cyfreithiol yng Nghymru hyrwyddo ei hun fel sector sydd ag arbenigedd benodol ar gyfer Cymru; ac
  • argymhellion o ran sut y gall y sector cyfreithiol yng Nghymru allforio mwy o wasanaethau cyfreithiol y tu hwnt i Gymru.

Bydd yr Adolygiad hefyd yn:

  • Ystyried yr adolygiadau perthnasol a gynhaliwyd yn wreiddiol;  
  • Dysgu o arfer gorau o fewn y sector cyfreithiol (neu sectorau perthnasol eraill) o fewn y DU ac yn fyd-eang, ac ystyried gwybodaeth ac adborth y cleient; a
  • chefnogi'r broses o ddarparu'r Cynllun Gweithredu Economaidd a'r egwyddorion sy'n sail i'r Rhaglen Lywodraethu: Ffyniant i Bawb.