Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mewn datganiad ysgrifenedig ym mis Chwefror ar y cynnydd sydd wedi’i wneud i drawsnewid Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ers cyhoeddi adolygiad McClelland, ymrwymais i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am adolygiad clinigol o’r ffordd rydym yn mesur prydlondeb ac ansawdd y ddarpariaeth o wasanaethau ambiwlans brys. 

Dr Brendan Lloyd, cyfarwyddwr meddygol Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, oedd yn arwain yr adolygiad clinigol. Roedd yn cydweithio â thîm gwasanaethau clinigol yr ymddiriedolaeth a Dr Grant Robinson, yr arweinydd clinigol cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer gofal heb ei drefnu. Sefydlwyd yr adolygiad mewn ymateb i argymhelliad yn Adolygiad McClelland y dylai Llywodraeth Cymru ystyried symud oddi wrth ganolbwyntio’n bennaf ar darged amser ymateb o 8 munud a symud tuag at gyfres fwy deallus o dargedau a mesurau ar draws y system gyfan o ofal heb ei drefnu. Dywedodd yr Athro Siobhan McClelland y dylai hyn gynnwys mwy o bwyslais ar ganlyniadau a phrofiad y claf.

Yn dilyn yr adolygiad, mae Dr Lloyd wedi ysgrifennu ataf, ar ran cyfarwyddwyr meddygol GIG Cymru, yn amlinellu cynigion i symud oddi wrth y mesurau perfformiad sy’n seiliedig ar amser at ddull sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan ganolbwyntio ar ansawdd gofal clinigol a phrofiad y claf.
Cyflwynwyd y targed amser ymateb o wyth munud 41 mlynedd yn ôl. Mae’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n awgrymu ei fod ond yn gwella canlyniadau i bobl sydd wedi dioddef trawiad ar y galon y tu allan i’r ysbyty. Dangosodd yr adolygiad clinigol nad oes tystiolaeth y bydd ymateb mewn wyth munud yn gwneud gwahaniaeth i ganlyniadau’r mwyafrif helaeth o bobl yn dilyn triniaeth - tua 95% o’r bobl sy’n defnyddio  Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Mae pawb yn ymwybodol o’r galwadau cynyddol a mwy cymhleth sy’n cael eu rhoi ar y gwasanaethau ambiwlans. Os ydym i fodloni’r galwadau  hyn a sicrhau’r canlyniadau gorau i gleifion, mae angen inni drawsnewid y ffordd rydym yn darparu ac yn mesur gwasanaethau ambiwlans brys.  

Felly mae Dr Lloyd wedi dweud y dylid gweithredu model ymateb clinigol newydd yng Nghymru. Bydd y model hwn yn debyg i’r hyn a dreialwyd mewn dwy ardal yn Lloegr yn gynharach eleni, sydd wedi’i ehangu’n ddiweddar yn dilyn canlyniadau calonogol.
O dan y model clinigol newydd, a gaiff ei brofi am 12 mis o 1 Hydref ymlaen, bydd unrhyw un sydd mewn perygl o farw’n fuan ac sydd angen cael  ymateb ar unwaith er mwyn achub ei fywyd, yn cael yr ymateb hwnnw yn yr amser cyflymaf posibl. Bydd pob claf arall yn cael ymateb clinigol pwrpasol ar sail ei angen iechyd, yn hytrach nag ymateb cyffredinol sy’n seiliedig yn unig ar y model ymateb wyth munud 41 mlwydd oed.
Bydd y model newydd yn rhoi amser ychwanegol i’r rhai sy’n delio â galwadau ffôn y ganolfan gyswllt clinigol ar gyfer brysbennu’r galwadau hynny nad ydynt yn cael eu nodi fel rhai sy’n fygythiad i fywyd, cyn i ambiwlans gael ei anfon – mae hyn yn debyg i’r peilot “dispatch on disposition” yn Lloegr.
Bydd y rhai sy’n delio â’r galwadau yn cael hyd at 120 eiliad o amser ychwanegol i ofyn cwestiynau pwysig am symptomau’r claf; i nodi’n gywir natur eu cyflwr ac anfon y math iawn o ymateb - gall hyn fod yn barafeddyg o’r radd flaenaf a all roi triniaeth yn y fan a’r lle neu ambiwlans brys sy’n cynnwys tîm parafeddygol all asesu a thrin y claf yn y fan a’r lle a’i gludo i’r ganolfan driniaeth fwyaf priodol cyn gynted â phosibl.
Bydd y system newydd hon yn helpu i gael gwared ar yr hyn a ddisgrifir gan glinigwyr fel “risg clinigol diangen o uchel sydd wedi’i ddosbarthu’n anghyfartal”, sy’n arwain at y ffordd y mae’r gwasanaeth ar hyn o bryd yn anfon ambiwlansys i gyrraedd y targed amser ymateb.
Mae  Gwasanaeth Ambiwlansys Cymru yn aml yn anfon sawl cerbyd mewn ymdrech i gyrraedd y targed wyth munud – er enghraifft yn ardal Caerdydd a Bro Morgannwg ar gyfartaledd bydd dau gerbyd yn cael eu hanfon allan i ateb pob galwad. Drwy anfon cerbyd ymateb cyflym yn gyflymach i’r mwyafrif o alwadau 999 gall y gwasanaeth ambiwlans stopio’r ‘cloc’ a chyrraedd y targed. Ond os oes angen i’r claf fynd i’r ysbyty mae’n rhaid  wedyn aros am ambiwlans brys mwy o faint i’w gludo yno. 

Bydd y model newydd yn cyflwyno tri chategori newydd o alwadau – coch, oren a gwyrdd.
Galwadau coch yw galwadau lle mae bywyd y claf yn y fantol - pan fydd rhywun mewn perygl mawr o farw, megis trawiad ar y galon. Mae tystiolaeth glinigol gref yn dangos y bydd ymateb brys sy’n digwydd ar unwaith yn gwneud gwahaniaeth i ganlyniad y claf. Bydd y targed wyth munud yn aros ar gyfer y grŵp hwn o alwadau, gyda tharged cychwynnol o 65% yn cael ymateb o fewn wyth munud.
Daw galwadau oren gan gleifion fydd yn aml angen triniaeth yn y fan a’r lle ac yna o bosib bydd angen eu cludo i’r ysbyty. Mae tystiolaeth yn dangos bod cludo’r math hwn o glaf yn brydlon  i’r cyfleuster gofal mwyaf priodol ac at y clinigwyr mwyaf priodol yn cael llawer mwy o effaith ar ansawdd bywyd y claf unwaith mae’n cael ei ryddhau o’r ysbyty nag y byddai ymateb o fewn amser penodol.

Bydd cleifion yn y categori hwn yn dal i gael ymateb golau glas a seiren gan Wasanaeth Ambiwlansys Cymru ond ni fydd targed sy’n seiliedig ar amser ar gyfer y grŵp hwn. Yn hytrach, bydd ystod o ddangosyddion canlyniadau clinigol yn cael eu cyflwyno a fydd yn mesur ansawdd a phrydlondeb y gofal a ddarperir gan glinigwyr ambiwlans ynghyd â gwybodaeth am brofiad y claf, a gyhoeddir bob chwarter.
Bydd y dangosyddion newydd hyn yn adeiladu ar fesurau sydd wedi cael eu profi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac sydd eisoes wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys sut mae clinigwyr ambiwlans yn gofalu am gleifion sy’n cael strôc; torri clun; a math o drawiad ar y galon a elwir yn STEMI.

Digwyddiadau nad ydynt yn rhai difrifol yw galwadau gwyrdd. Yn aml mae modd eu rheoli gan wasanaethau iechyd eraill, gan gynnwys cael cyngor gofal iechyd a hunanofal. Mae’r categori hwn hefyd yn cynnwys galwadau gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, a gaiff eu trin mewn ffordd newydd drefnus yn y dyfodol – mae’r dull hwn wedi cael ei dreialu’n llwyddiannus yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.
Roedd adolygiad McClelland hefyd yn argymell datblygu cyfres ehangach o dargedau a safonau sy’n symbylu newid ac yn canolbwyntio mwy ar brofiad y claf a chanlyniadau. I gefnogi hyn, mae’r Pwyllgor Gwasanaeth Ambiwlans Brys wedi datblygu fframwaith ansawdd a chyflawni a llwybr arloesol 5 cam ar gyfer gofal cleifion  ambiwlans.

Mae hyn yn disgrifio Gwasanaeth Ambiwlans Cymru  fel gwasanaeth clinigol a rhan allweddol o’r system gofal iechyd integredig ehangach. Mae’n cynnwys dangosyddion, targedau a mesurau ar gyfer pob un o’r 5 cam – sut rydym yn helpu pobl i ddewis y gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion; sut y delir â’u galwadau; sut y darperir ymateb; sut y darperir triniaeth; ac – os yw’n briodol – sut caiff pobl eu cludo i’r ysbyty.
Bydd y dangosyddion ansawdd hyn yn ffurfio rhan o gyfres newydd o wybodaeth, a gaiff ei chyhoeddi’n chwarterol, gan wneud Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ymysg  y mwyaf tryloyw yn y byd.

Gwyddom o’r Arolwg Cenedlaethol diweddaraf fod 97% o’r bobl a ddefnyddiodd y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod â ffydd a hyder yn sgiliau’r clinigwyr ambiwlans. Mae’r canlyniad trawiadol hwn yn dangos bod yn rhaid inni ganolbwyntio’n fwy ar y gofal, y tosturi a’r dilyniant a ddarperir gan ein clinigwyr ambiwlans hynod fedrus na mesur gwerth y gwasanaeth yn unig drwy ystyried yr amser mae’n ei gymryd i ambiwlans ymateb i alwad 999.

Mae’r peilot yn arwain y ffordd i’r gwasanaeth ambiwlans fod ar flaen y gad yn natblygiadau’r dyfodol i gleifion a chlinigwyr rheng flaen, a bydd  Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wrth wraidd y system gofal heb ei drefnu.

Byddaf yn gwneud datganiad llafar i’r Cynulliad cyn gynted â phosibl yn yr hydref i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad.


Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os hoffai’r Aelodau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn ailgynnull, byddwn yn hapus i wneud hynny.