Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cais Cyllido Claf Unigol (IPFR) yw’r broses y mae byrddau iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) yn ei defnyddio i ystyried darparu claf â thriniaeth nad yw ar gael fel rheol yn GIG Cymru.

Ym mis Gorffennaf 2016, cyhoeddais adolygiad annibynnol o’r broses IPFR, i ystyried y maen prawf a ddefnyddiwyd wrth wneud penderfyniadau IPFR – eithriadoldeb clinigol – a’r posibiliad o leihau nifer y paneli IPFR.

Ym mis Ionawr y llynedd, cyhoeddais yr adroddiad a gofyn am adborth amdano.  Ym mis Mawrth cyhoeddais fy mod yn derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad ac y byddwn yn eu gweithredu.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad y dylai clinigwr brofi yr enillai claf fudd clinigol arwyddocaol o’r driniaeth y gofynnwyd amdani a bod y driniaeth yn cynnig gwerth rhesymol am arian i GIG Cymru, yn hytrach na cheisio profi bod claf yn eithriadol yn glinigol (argymhelliad 11).  Ym mis Mai 2017, cyhoeddodd GIG Cymru ganllawiau cenedlaethol newydd, Polisi GIG Cymru: Gwneud Penderfyniadau ynghylch Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol, sy’n ymgorffori’r meini prawf newydd hyn.  Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn cadw at y canllawiau newydd.

Argymhellodd yr adroddiad y dylai pob bwrdd iechyd barhau i gael ei banel IPFR ei hun, yn hytrach na sefydlu un panel cenedlaethol, felly mae’r arfer hwn wedi parhau (argymhelliad 20).  Ystyriwyd un panel yn anymarferol, oherwydd nifer y ceisiadau a logisteg rheoli un panel.  Ailddyluniwyd y ffurflen gais i adlewyrchu’r meini prawf newydd (argymhelliad 27) a lansiwyd y fersiwn electronig ym mis Rhagfyr.  Datblygwyd templed safonol i gofnodion cyfarfod y panel IPFR er mwyn cofnodi brasamcan budd a gwerth yr IPFR (argymhelliad 15) erbyn mis Medi.

Cymeradwywyd deg argymhelliad (9, 12-14, 16-18 a 20-22) arferion cyfredol yn y GIG fel diystyru argaeledd triniaeth, fforddiadwyedd, neu ffactorau anghlinigol pan fo’r panel IPFR yn gwneud ei benderfyniad; ceisio cyngor arbenigol i’r panel IPFR pan fo angen; monitro deilliannau’r IPFRs a nodi’r rhesymau dros benderfyniad y panel.  Fe’u gweithredwyd ar unwaith, drwy barhau â’r arferion presennol.

Aeth saith argymhelliad (2-8) i’r afael â materion comisiynu, a all effeithio ar IPFRs.  Cynhyrchodd GIG Cymru ganllawiau cymeradwyo ymlaen llaw Cymru gyfan a ffurflen gais (2 a 5).  Cynhaliodd comisiynwyr byrddau iechyd gyfarfodydd i rannu arferion da a chydlynu gwasanaethau a gomisiynir (3).  Ar wefan Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan y mae gwybodaeth wedi’i diweddaru am sut mae’r broses IPFR yn gweithio a’r llwybrau comisiynu eraill ar gyfer mynediad i feddyginiaethau a thriniaethau eraill (4 a 6).  Mae byrddau iechyd yn defnyddio testun safonol a gytunwyd i esbonio pam na chaiff cleifion yng Nghymru ddewis lle y’u trinnir (7), er y caiff eu bwrdd iechyd eu hanfon at ddarparwr iechyd arall am driniaeth.  Adolygwyd gwefan WHSSC i roi gwybodaeth gliriach am y gwasanaethau y mae’n eu comisiynu a’r rhai nad yw (8).  Gweithredwyd yr argymhellion hyn erbyn mis Hydref.

Sefydlwyd grŵp gweithio gan staff y GIG i lunio fframwaith comisiynu newydd (argymhelliad 1), sy’n adlewyrchu’r newidiadau a gafwyd drwy weithredu’r argymhellion eraill.  Mae’r fframwaith yn cael ei ddatblygu o hyd.

Un argymhelliad (10) oedd sefydlu polisi cenedlaethol cyson o ran defnyddio ymyriadau rhad y gofynnwyd amdanynt drwy IPFR.  Mae gan fyrddau iechyd a WHSSC drefniadau yn barod i wneud y mwyaf o ymyriadau sydd yr un mor effeithiol ond sy’n costio llai; er enghraifft, mae byrddau iechyd yn defnyddio meddyginiaethau generig a biodebyg yn barod yn lle meddyginiaethau brand drutach heb fod eisiau trefniadau cymeradwyo biwrocrataidd.  Ar adegau bydd yn briodol defnyddio’r broses IPFR hyd yn oed pan fo’r ymyriad yn rhad; nid yw’n briodol gwyro oddi ar y llwybr trin arferol dim ond am fod meddyginiaeth yn llai drud.  

Cafwyd tri argymhelliad (24-26) i wella’r hyfforddiant i glinigwyr.  Erbyn mis Medi, roedd clinigwyr wedi derbyn sesiynau hyfforddi fel rhan o’u datblygiad proffesiynol parhaus (24); cafwyd nodiadau canllaw i glinigwyr am esbonio’r broses IPFR i gleifion (25); datblygwyd canllaw gwneud penderfyniadau i helpu clinigwyr â’r broses ceisio am IPFR ac roedd gan bob bwrdd iechyd un man cyswllt i helpu â’r cais (26).  

Sefydlwyd Grŵp Cynghorol Sicrhau Ansawdd a chafodd ei gyfarfod cyntaf ym mis Ionawr i adolygu IPFRs a ddewiswyd ar hap oddi wrth bob bwrdd iechyd (argymhelliad 19).  Mae’r Grŵp yn adrodd i gyfarwyddwyr meddygol a Phrif Swyddog Meddygol Llywodraeth Cymru.  Mae’r aelodau wedi cyfrannu at ddatblygu deunyddiau hyfforddi newydd i gleifion a chlinigwyr (argymhelliad 23).  

Hoffwn ailadrodd fy niolch i aelodau’r grŵp adolygu, am wneud tasg mor feichus ymhlith eu holl ymrwymiadau eraill; i’r cleifion a’r cyrff a ddarparodd dystiolaeth, ac i bawb sy wedi gweithio mor ddiwyd i wneud y broses IPFR yn symlach ac yn haws ei deall.