Lesley Griffiths, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 26 Medi cyhoeddais y byddai fy swyddogion yn cynnal Adolygiad Canol Blwyddyn o berfformiad ariannol ac anariannol y GIG. Rwyf wedi ystyried canfyddiadau'r Adolygiad ac rwyf bellach mewn sefyllfa i gyflwyno adroddiad ar y camau gweithredu y byddaf yn eu cymryd.
Mae casgliadau'r Adolygiad yn cynnig tystiolaeth bod y GIG yn gweithio'n galed i gynnal perfformiad a lefelau cyflawni. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth hefyd eleni fod lefel y galw am rai gwasanaethau wedi cynyddu'n gyflymach na'r disgwyl. Mae hyn wedi bod yn arbennig o wir o fewn y system gofal heb ei drefnu. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl hŷn a dderbynnir i'n Hadrannau Damweiniau ac Achosion Brys. Mae cyfnodau arosiadau yn yr ysbyty yn tueddu i fod yn hirach ar gyfer pobl hŷn, ac yn aml mae angen triniaethau mwy costus arnynt. Roedd gan Fyrddau Iechyd gynlluniau i ymdopi â galw cynyddol, ond mae'r cynnydd wedi bod yn ddigynsail eleni, gan roi mwy o bwysau ar adnoddau.
Yn y tymor canolig, bydd angen i ni gynnal dadansoddiad gofalus arall o ganlyniadau'r adolygiad. Fy mlaenoriaeth uniongyrchol yw ymateb i'r dystiolaeth sylweddol a gasglwyd yn ystod yr adolygiad i sicrhau bod fy mlaenoriaethau cyflawni yn cael eu cyflawni.
Rwy'n benderfynol y dylem gynnal a gwella safonau ansawdd a bodloni'r ymrwymiadau a amlinellir yn fy nghynlluniau cyflawni. Nid wyf yn barod i gyfaddawdu ar y materion hyn.
Yn sgil hyn rwyf wedi penderfynu dyrannu £82 miliwn ychwanegol i'r GIG o adnoddau o fewn fy nghyllideb fy hun. Bydd yr arian ychwanegol hwn yn dod o'm cronfa wrth gefn, gydag elfen yn cael ei throsglwyddo hefyd o adnoddau sydd ar gael o fewn fy rhaglen gyfalaf. Nododd yr adolygiad danwariant tebygol yn erbyn gwariant cyfalaf bwriadedig ar gyfer y flwyddyn hon, o ganlyniad yn rhannol i lithriant prosiectau, ond hefyd i sicrhau bod gwariant yn y dyfodol wedi'i gysoni â chanlyniad yr ymgynghoriad ar ein cynlluniau newid gwasanaethau.
Drwy wneud y dyraniad ychwanegol hwn disgwyliaf weld nifer o fanteision, yn cynnwys
- Cynnal lefelau ansawdd a pherfformiad gofynnol.
- Galluogi cynnydd parhaus a chyflym mewn perthynas â blaenoriaethau polisi Gweinidogion:
- Datblygu Gofal Sylfaenol - caiff capasiti a gallu gofal mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol eu datblygu ymhellach. Mae hyn yn allweddol er mwyn galluogi datblygiad cynaliadwy ar draws y GIG.
- Deddf Gofal Gwrthgyfartal - bydd y mentrau arloesol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd yn dwyn ffrwyth. Ym Myrddau Iechyd Lleol Cwm Taf ac Aneurin Bevan byddwn yn profi ac yn gwerthuso trefniadau sydd â'r potensial i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hanesyddol.
- Newid Gwasanaethau - bydd Byrddau Iechyd yn cynllunio ac yn gweithredu newidiadau parhaus i sicrhau bod gwasanaethau cynaliadwy o safon yn cael eu darparu.
- Gofal heb ei Drefnu - bydd Byrddau Iechyd yn datblygu eu prosesau a'u llwybrau cleifion ymhellach i sicrhau bod safonau perthnasol yn cael eu cyrraedd a lefelau uchel cyson o brofiad cleifion yn cael eu cyflawni.
- Sicrhau bod y gyllideb yn mantoli ar ddiwedd y flwyddyn ar lefel 'system' a sefydliad.