Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ers dechrau proses adolygu’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, mae Llywodraeth Cymru wedi
Cydweithio â’r diwydiant ffermio, undebau’r amaethwyr a rhanddeiliaid eraill i benderfynu ar y ffordd orau bosibl ymlaen ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru.  Mae penderfyniadau Gweinidogion Cymru yn ffrwyth meddwl caled a gwnaed pob ymdrech i sicrhau eu bod yn bodloni anghenion y diwydiant ffermio yn ei gyfanrwydd. 

O gamau cynta’r broses, daeth yn amlwg y byddai’r newid i Gynllun Taliad Sylfaenol sy’n seiliedig ar arwynebedd a chyfraddau cyffredin yn golygu y byddai rhai derbynwyr yn derbyn taliadau uwch a rhai’n derbyn taliadau is o’i gymharu â’r drefn flaenorol o dan Gynllun y Taliad Sengl.  Mae’r gyfradd dalu a ragwelir ar gyfer y rhanbarth Rhostiroedd wedi bod yn destun gofid i rai ond roedd gennym resymau da dros bennu’r gyfradd honno, ar sail cynhyrchiant y math hwnnw o dir.  Fodd bynnag, mae’r achos cyfreithiol diweddar a ddygwyd yn erbyn Llywodraeth Cymru ynghylch y rhanbarth Rhostiroedd wedi dangos, gan fod gan beth tir o dan 400 metr natur Rhostir, nid yw felly yn gyson â’r diffiniad sydd yn y Rheoliadau. Nid yw’n bosibl felly cael rhanbarth talu Rhostiroedd ar hyn o bryd.  Rydym wedi derbyn hyn ac mae’r holl bartïon wedi cytuno ar Orchymyn Caniatáu gan y Llys i ddiddymu’r rheoliadau sy’n diffinio rhanbarthau talu’r BPS.  Byddaf yn ystyried yn awr, ac yn ymgynghori ar yr opsiynau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ac a fydd yn gorfod cael eu cymeradwyo gan y Comisiwn Ewropeaidd. Byddaf yn cyflwyno rhagor o wybodaeth am hyn i’r Aelodau maes o law. 

O ganlyniad, ni fyddwn yn cwblhau’r Adolygiad Technegol cyfredol ar gyfer dosbarthu tir o dan drefniadau’r PAC; bydd Llywodraeth Cymru’n talu yn ôl i’r holl hawlwyr hynny sydd ag apeliadau heb eu dyfarnu y ffioedd a godwyd gan gontractwyr i gynhyrchu adroddiad cam 2 ar ail-gategoreiddio’r tir fel rhan o’r Adolygiad Technegol. 

Rwy’n grediniol mai’r penderfyniad gwreiddiol i greu rhanbarth Rhostir i Gymru oedd y penderfyniad gorau i Gymru o safbwynt polisi. Gydol y broses o ddiwygio’r PAC ein hamcan, a gefnogwyd gan y diwydiant, oedd sicrhau bod y gyfradd a delir yn cydnabod cynhyrchiant y tir a bod y newid yn tarfu cyn lleied â phosibl ar y diwydiant.  Mae’n edrych yn debyg nawr na allwn gyflwyno rhanbarth Rhostir sy’n deg i bawb fel rhan o’r diwygiadau presennol hyn. Fodd bynnag, byddaf yn ystyried pa mor ymarferol a pha mor ddymunol fydd cyflwyno rhanbarth talu Rhostiroedd ar gyfer y BPS fel rhan o Adolygiad Canol Tymor o’r PAC neu o bosibl fel rhan o’r broses nesaf o ddiwygio’r PAC.

Yn amlwg bydd ffermwyr a rhanddeiliaid gwledig eraill yn bryderus ynghylch goblygiadau’r datblygiad hynny ac ynghylch effaith y gorchymyn Llys, ac mae hynny’n gwbl ddealladwy. Byddaf yn sicrhau eu bod yn llwyr ymwybodol o unrhyw ddatblygiadau.