Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n dda iawn gen i ddweud bod adroddiad RSPCA Cymru a rhanddeiliaid pwysig eraill ar sut i fod yn berchennog cyfrifol ar gi yng Nghymru bellach wedi’i gyflwyno ger bron Llywodraeth Cymru iddi ei hystyried.  Caiff hefyd ei gyhoeddi, gyda fy nghaniatâd, ar wefan yr RSPCA. 

Mae canfyddiadau’r adolygiad gafodd ei gomisiynu yn 2015 yn rhychwantu ystod o feysydd polisi gwahanol gan gynnwys Tai, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg.  Mae’n bwysig ein bod yn ystyried yr holl ganfyddiadau ac rwyf wedi gofyn i’r Prif Swyddog Milfeddygol i weithio gydag arweinwyr polisi i ystyried y camau nesaf.

Rwy’n ddiolchgar i RSPCA Cymru, y Grŵp Craidd a’r holl randdeiliaid sydd wedi bod yn rhan o’r broses. Bydd eu canfyddiadau’n ein helpu’r Llywodraeth nesaf i ddatblygu polisi.

Yr Adolygiad hwn yw penllanw cyfres lawer ehangach o bolisïau ar gyfer gwella lles cŵn yng Nghymru a bydd yn ein rhoi ar ben ffordd ar gyfer ein camau posibl nesaf.  Bydd polisïau eraill gan gynnwys safonau newydd a gwell ar gyfer trwyddedu bridwyr cŵn a mesur i’w gwneud yn orfodol rhoi microsglodyn ar bob ci yng Nghymru.

I weld yr adroddiad ‘A Review of Responsible Dog Ownership in Wales’, ewch i: http://politicalanimal.org.uk/wp-content/uploads/2016/03/Responsible-Dog-Ownership-Review-March-2016.pdf