Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mai 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r adolygiadau o’r mesurau a gynhwysir yn y model ar gyfer bandio ysgolion uwchradd, a’r gwaith o ddatblygu model graddio ysgolion cynradd bellach ar waith, fel y cynlluniwyd.

Mae’r mesurau a gynhwysir yn y model presennol ar gyfer bandio ysgolion uwchradd yn cael eu hadolygu i sicrhau bod y model yn parhau i fod yn gyson â’n blaenoriaethau ar gyfer addysg yng Nghymru, gan roi pwyslais yn benodol ar leihau effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad.

Mae model ar gyfer graddio ysgolion cynradd hefyd yn cael ei ddatblygu i’n helpu ni i nodi’r ysgolion hynny y mae angen cymorth arnynt fwyaf. Bydd yn rhoi darlun clir i rieni ledled Cymru o sut mae ysgolion yn perfformio.

Bydd yr adolygiad ar fandio ysgolion uwchradd a datblygu model graddio ysgolion cynradd yn cael eu hystyried ochr yn ochr â’r System Categoreiddio Genedlaethol a ddatblygwyd gan y consortia rhanbarthol ar gyfer ysgolion. Bydd model diwygiedig ar gyfer bandio ysgolion uwchradd a model graddio ysgolion cynradd newydd yn cael eu cyflwyno yn ystod tymor yr hydref 2014.