Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 1 Hydref rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am Adroddiad Hill mewn perthynas â gweithio ar sail consortia. Fe gofiwch i mi ei gwneud hi’n gwbl eglur i lywodraeth leol mai fy mwriad oedd:

  • bod awdurdodau lleol yn parhau â’u cyfrifoldeb statudol ar gyfer addysg;
  • creu model cenedlaethol ar gyfer gweithio ar sail ranbarthol;  
  • ariannu’r model cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion drwy drosglwyddo arian o’r Grant Cynnal Refeniw am 2014-15

Mae model cenedlaethol cychwynnol ar gyfer gweithio ar sail ranbarthol wedi’i ddrafftio ac rwy’n ymrwymedig i weld gwaith pellach yn cael ei wneud ar lunio’r model hwn ar y cyd ag awdurdodau lleol, penaethiaid ac arbenigwyr ym maes gwella ysgolion. Fel rhan o’r broses o ymgynghori ar unrhyw bosibilrwydd o drosglwyddo arian o setliad 2014-15, rwyf wedi rhoi i’r awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bob cyfle i gynnig i mi opsiwn arall. Fe ddywedais yn glir o’r dechrau’n deg y byddai’n rhaid iddynt gyflwyno gwell cynnig i ddysgwyr ac i drethdalwyr yn hytrach na mynd ati’n syml i frigdorri cyllidebau llywodraeth leol.

Credaf fod Llywodraeth Cymru bellach wedi cael y sicrwydd hwnnw a bod gennym y gwarant oedd yn angenrheidiol gan lywodraeth leol y câi’r agenda ranbarthol ei rhoi yn ei lle fel mater o frys. Fel awdur yr adroddiad, mae Robert Hill wedi bwrw golwg ar y cynllun gweithredu ac yn cytuno mai dyma’r ffordd gywir ymlaen.

Rwyf wedi cytuno heddiw ar y saith cam gweithredu allweddol canlynol gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

  1. Bod yr opsiynau trefniadaethol arfaethedig a gynigiwyd gan Hill ac yn y model cenedlaethol drafft ar gyfer gweithio’n rhanbarthol yn cael eu cysylltu â chytundeb dwyochrog rhwng Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
  2. Y bydd llywodraeth leol yn neilltuo neu’n diogelu’r swm i’w wario ar weithio’n rhanbarthol am 2014-15 ac yn sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio i roi ar waith yr argymhellion yn adroddiad Hill a’r model cenedlaethol. Bydd hyn yn gyfanswm o oddeutu £19 miliwn, wedi’i addasu yn unol â’r newid canrannol i setliad llywodraeth leol – cynnydd sylweddol ar y swm sy’n cael ei wario ar hyn o bryd ar ddarparu gwasanaethau gwella ysgolion yn rhanbarthol
  3. Bod llywodraeth leol yn cydnabod bod angen mwy o gysondeb ac unffurfiaeth ar draws modelau busnes y consortia ac yn cynnig dull o weithredu a fydd yn rhoi ar waith brif elfennau Adolygiad Hill ac yn sicrhau mwy o lawer o gysondeb a llywodraethu.
  4. Y caiff templed ar gyfer Cytundeb newydd i Ddarparu Addysg ei ffurfio ar sail opsiynau Hill a’i lofnodi gan Lywodraeth Cymru ac Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ran pob un o’r 22 awdurdod lleol. Yn sail i’r cytundeb fyddai cymeradwyaeth gan bob un o’r arweinyddion a’r prif weithredwyr.
  5. Y bydd pob prif weithredwr yn ymrwymo’n bersonol i weithredu a monitro’r model cenedlaethol, unwaith y cytunir arno, yn ystod y tair blynedd nesaf yn unol â’r cynlluniau consortia a gymeradwyir gan y Gweinidog.
  6. Y bydd y gwaith o roi’r model cenedlaethol ar waith yn dechrau ar unwaith ac y bydd elfennau allweddol o’r model cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion yn eu lle cyn mis Ebrill 2014.
  7. Os digwydd na fydd consortia neu awdurdodau lleol unigol yn cydymffurfio â’r Cytundeb Darparu Addysg, y bydd llywodraeth leol yn cynnig trosglwyddiad gwirfoddol allan o setliad y Grant Cynnal Refeniw am 2015-16 yn seiliedig ar y fethodoleg a ddefnyddiwyd i ariannu gweithio ar sail ranbarthol ar gyfer 2014-15.

Mae’r cynnig hwn gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cydnabod y tanberfformio sy’n digwydd yn y system ac yn cynnig sicrwydd a threfniadau diogelu ynghylch diogelwch ariannol a’r gwaith o gyd-lunio’r model cenedlaethol a’i gyflwyno. Cefais gyfarfod â’r Cynghorydd Ali Thomas y prynhawn yma ac rwyf wedi cytuno i gynnig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae hynny’n golygu na fydd angen trosglwyddo arian o’r Grant Cynnal Refeniw yn 2014-15.